Haroldston Chins a’r de

Taith Cadair Olwyn

PELLTER: 0.75 milltir (1.2 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Pâl Gwibio (DIM mynediad hwylus i gadeiriau olwyn)
CYMERIAD: Llwybr ar hyd copa’r clogwyni heb arwyneb

Mae 1200m tuag at Aberllydan wedi ei lefeli a’i ailraddio ond heb gael arwyneb newydd. Mewn mannau, mae’r llwybr yn rhigolog, yn arw ac mae yna raddiannau byr sy’n fwy serth nag 1 mewn 10. (Mae wedi cael ei daclo gan ‘Sterling EX3 (Classic)’ heb unrhyw broblemau).

Dwy giât. Tua 900m ar hyd y darn garw mae yna fryngaer Oes Haearn sy’n llithro i mewn i’r môr. Toiledau ym meysydd parcio Aberllydan a Nolton. Mynediad hwylus 1.2 km.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM860161

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau