Aberllydan (Broad Haven)/Coed Haroldston

PELLTER/HYD: 3.2 milltir (5.1 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Broad Haven 311. Mae gweithredwr Gwasanaeth 400 (Pâl Gwibio) a 404 wedi canslo’r gwasanaeth o Ebrill 5 2023. Yn y cyfamser, mae’r ardal a gwmpesir gan Wasanaeth 400 yn rhan o gynllun Bws Fflecsi Gogledd Sir Benfro.

CYMERIAD: Arfordir, caeau a da byw, dyffryn coediog
CHWILIWCH AM: Eglwys Haroldston.

Mae’n rhaid i chi weld Eglwys St Madoc of Fern a adferwyd yn ddiweddar i’r dde o bentref Gorllewin Haroldston.

Credir bod eglwys wedi bod ar y safle ers dros 1400 o flynyddoedd. Mae gan Awdurdod y Parc gytundeb rheolaeth gyda pherchennog Coed Haroldston i’w defnyddio fel ardal hamdden.

Chwiliwch am adar y coetir a mamaliaid bach. Golygfeydd gwych o’r arfordir ac ynysoedd Ynys Dewi a Sgomer os yw’r tywydd yn braf.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod grid: SM863140

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau