Waun Mawn

Taith Fer. 0.6 milltir (1.0 km)

PELLTER/HYD: 0.6 milltir (1.0 km) 30 munud
CYMERIAD: o’r B4329 cerddwch ar hyd llwybr ceffylau/lôn fferm am 50 metr, yna cerddwch i fyny’r llethr ar hyd y trac ac ar draws y gweundir at y meini hirion. Tir anwastad a chorsiog, graddiannau gweddol ysgafn, llwybrau gydag arwynebau naturiol.
CADWCH LYGAD AM: Meini hirion cynhanesyddol a gafodd eu hadeiladu gan bobl hynafol.
GOFAL:  Does dim ond dwy gilfan ar gael i barcio ac mae’r rhain yn cael eu dangos ar y map; peidiwch â pharcio mewn pyrth na llefydd pasio. Mae’r tir yn Ardal Cadwraeth Arbennig, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Heneb Gofrestredig ac wedi’i ddiogelu gan y gyfraith. Mae aflonyddu neu ddifrodi heb awdurdod yn drosedd. Parchwch y dirwedd warchodedig hon, ei harchaeoleg a’i chynefin naturiol. Cadwch gŵn ar dennyn gan fod defaid yn pori yma.

Mae Waun Mawn a’r dirwedd o gwmpas yn cynnwys nifer o nodweddion archeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol, gan gynnwys nifer o feini hirion mawr ar wasgar dros y dirwedd. Mae’r rhain yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cynhanes ac fe’u hadeiladwyd gan bobl hynafol.

Mae’r ardal sy’n cael ei galw yn Waun Mawn yn cynnwys meini hirion gyda’r maen mwyaf gorllewinol yn agos at y trac. Ymhellach i’r dwyrain, mae’r safle’n cynnwys maen hir a hefyd rhai sydd bellach ar eu gwastad. Mae hyn yn awgrymu bod fwy o gerrig wedi sefyll yn y gorffennol.

Grey stone protruding from a yellow grassy field with sweeping hills in the background

Yn ddiweddar, roedd archaeolegwyr yn damcaniaethu fod cerrig cylch o bosib wedi bodoli ar y safle neu fod nhw wedi gadael y cylch cyn iddo gael ei chwblhau. Roedd e nhw hefyd yn meddwl fod rhai o’r cerrig wedi ei symud i safle Côr y Cewri. Er hyn, mae efrydiau diweddar yn awgrymu fod y syniadau yn annhebygol.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN086344

Y Cod Cefn Gwlad

  • Mwynhewch gefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gwarchodwch rhag pob risg o dân
  • Gadewch y gatiau a’r eiddo fel roedden nhw cyn i chi gyrraedd
  • Cadwch lygad barcud ar eich cŵn
  • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus ar dir fferm
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi