Gorsaf Penalun i Draeth y De, Dinbych-y-pysgod

Taith Fer

PELLTER: 661 llath (605m)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Trenau Arriva (Mynediad hwylus i gadeiriau olwyn), Bws gwasanaeth 349 Hwlffordd/Penfro/Dinbych-y-pysgod (DIM mynediad hwylus
i gadeiriau olwyn)
CYMERIAD: Rhodfa i’r traeth.

Mae’r daith yn cychwyn wrth y maes parcio ger yr orsaf rheilffordd (codi’r tal yn ystod y tymor).

Mae’r 490 metr cyntaf yn llwybr tarmac gwastad gyda mainc hanner ffordd. Mae’r llwybr tarmac yn croesi’r llinell rheilffordd ger y groesfan wastad trwy ddwy iet (yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn) ac yn parhau ar draws y cwrs golff gan orffen wrth y traeth.

Ar ddiwedd y llwybr tarmac, mae’r llwybr yn troi i’r dde i fynd trwy’r twyni ac i’r traeth.

Mae’r darn hwn o’r llwybr yn 115 metr o hyd ac mae ganddo arwyneb cerrig wedi’u cywasgu a graddiannau bychain yn ymdonni.

Gall yr 20 metr olaf weithiau gael ei orchuddio gan dywod meddal, yn dibynnu ar lefel y traeth.

Mae yna doiledau yn y maes parcio.

 

 

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SS118990

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau