Craig Rhosyfelin

Taith Fer

PELLTER/HYD: 0.6 milltir (1.0 km) 30 munud
CYMERIAD: 300m o gerdded ar isffordd, rhiw serth. Cerdded gweddol wastad yn y cae ar hyd llwybr troed cyhoeddus, tir anwastad, dim sticlau.
CHWILIWCH AM: Clegyr Craig Rhosyfelin, tarddiad o leiaf un o’r cerrig gleision o gylch mewnol Côr y Cewri
MWY O WYBODAETH: Mae mynediad ar hyd trac cul sengl gydag ychydig o leoedd i basio. Dewch o gyfeiriad y gorllewin trwy Frynberian i osgoi’r rhyd ddofn a rhan serth droellog o’r ffordd yn y dyffryn. Defnyddiwch yr ardal barcio ddynodedig ar ochr y ffordd a pheidiwch â pharcio mewn mynedfeydd na mannau pasio. Cadwch at y llwybr cyhoeddus os gwelwch yn dda, mynediad i’r brigiad craig drwy ganiatâd y tirfeddiannwr.  Cadwch gŵn ar dennyn, os gwelwch yn dda, gan fod da byw yn pori ar y tir hwn.

Mae’r brigiad creigiog hwn o gerrig yn gorwedd o fewn dyffryn dwfn diarffordd. Dyma le cloddiwyd o leiaf un o’r cerrig gleision a gludwyd yn ddiweddarach i Gôr y Cewri – mwy na thebyg dros y tir ar slediau’n cael eu llusgo gan ychen.

Gellir gweld y brigiad creigiog o’r ffordd neu o lwybr troed cyhoeddus cyfagos. Cadwch at y llwybr cyhoeddus os gwelwch yn dda, mynediad i’r brigiad craig drwy ganiatâd y tirfeddiannwr.

Mae’r llwybr troed yn parhau i fyny’r dyffryn i bontio’r ffrwd. Mae’r tir yn eiddo preifat ac mae gan y tirfeddiannwr Gytundeb Rheoli gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol i sicrhau y gellir diogelu tirwedd arbennig a nodweddion cadwraeth natur y dyffryn hwn.

Er mwyn cyflawni hyn yr ydym yn dibynnu ar barhad arferion ffermio traddodiadol yma, sef pori a llosgi achlysurol o eithin yn y gaeaf.

Defnyddir merlod mynydd gwydn Cymreig i gynnal y clytwaith o gynefinoedd,  sy’n cynnwys glaswelltir agored, rhostir a thir prysgwydd.

Mae’r rhain, yn eu tro, yn cynnal rhywogaethau pwysig megis y glöyn byw prin, brith y gors, a phlanhigion megis y carwe sidellog a fioled y cŵn gwelw, sydd wedi dirywio’n fawr mewn mannau eraill.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN117362

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi