Dyma’ch cyfle i hysbysebu yn Coast to Coast

Cyhoeddwyd : 24/09/2021

Wrth i fusnesau lleol ddechrau cynllunio ar gyfer tymor twristiaeth 2022, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro unwaith eto yn cynig cyfle i chi hysbysebu yn ei gylchgrawn llwyddiannus, Coast to Coast.

Bydd Awdurdod y Parc yn cyhoeddi rhifyn 40 o’r cylchgrawn poblogaidd hwn mewn pryd ar gyfer Pasg 2022, gan gynnig cyfle i fusnesau hyrwyddo eu hunain i dros filiwn o ddarllenwyr yn ystod tymor yr haf. Mae’r cylchgrawn hefyd ar gael fel ap ac ar wefan yr Awdurdod, sy’n darparu cyfleoedd hyrwyddo mewn print ac yn ddigidol.

Mae Coast to Coast yn cael ei ddosbarthu i dros 500 o siopau ledled y sir yn ystod y prif dymor, gan roi sylw gwych i fusnesau sy’n denu pobl i’r awyr agored, yn gwerthu rhywbeth blasus ac unigryw neu’n hyrwyddo menter hirdymor sydd angen hwb,

Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata’r Awdurdod, Marie Edwards:

“Mae’r cyhoeddiad rhad ac am ddim hwn yn adnodd amhrisiadwy i ymwelwyr sy’n cynnig llu o wybodaeth a syniadau am fwynhau a chael y gorau o’r hyn sydd ar gael ar draws y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys teithiau cerdded, traethau a diwrnodau llawn hwyl i’r teulu. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ymarferol fel mapiau, llwybrau bysiau a thablau’r llanw.

“Mae llawer o gyngor hefyd ar sut mae cael y gorau o ddiwylliant, treftadaeth a chyfleoedd awyr agored anhygoel y Parc, ynghyd â Gweithgareddau a Digwyddiadau y gall ymwelwyr a phobl leol eu mwynhau.”

Dechrau mis Rhagfyr 2021 yw’r dyddiad cau ar gyfer hysbysebu yn y cyhoeddiad y flwyddyn nesaf, felly rydym yn argymell bod busnesau yn cynllunio ymlaen llaw i archebu lle yn y cyhoeddiad poblogaidd hwn.

I gael pecynnau hysbysebu Coast to Coast ewch i dudalen Hysbysebu yn Coast to Coast, neu os hoffech  gael pecyn trwy e-bost, ebostiwch communications@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624823.