Cyllid a chefnogaeth ar gael i dirfeddianwyr sy’n rhoi hwb i fioamrywiaeth ar Arfordir Penfro

Cyhoeddwyd : 22/06/2023

Mae perchnogion tir o fewn hanner milltir i Arfordir Penfro, fel ffermwyr, tyddynwyr a darparwyr twristiaeth, yn cael eu hannog i ddysgu mwy am gynllun newydd sy’n ceisio cysylltu cynefinoedd a gwella bioamrywiaeth.

Fel rhan o’r cynllun Cysylltu’r Arfordir, sy’n cael ei ariannu gan gronfa Tirweddau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, bydd tirfeddianwyr yn cael cyngor, cymorth a chyllid i dalu am gostau cyfalaf, yn ogystal â thaliadau rheoli blynyddol sy’n para rhwng pump a deng mlynedd.

Hundreds of bluebells growing on a grassy coastal slope with craggy cliffs and a coastal footpath shown in the background

Dywedodd Clare Flynn, Swyddog Cadwraeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Dim ond un o’r ffyrdd rydyn ni’n cefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr lleol i ddarparu ar gyfer bywyd gwyllt a hyrwyddo adferiad natur yw’r cynllun hwn.

“Bydd yn cynnig cyngor a chymorth ariannol ar gyfer amrywiaeth o wahanol opsiynau, o greu a rheoli glaswelltiroedd sydd llawn rhywogaethau amrywiol i hadu gwyndwn llysieuol a darparu ar gyfer adar tir fferm.

“Mae’r cynllun yn hyblyg a gellir ei deilwra i ddiwallu anghenion y tir a’r tirfeddiannwr, ond mae’n bwysig bod pobl yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl i gofrestru eu diddordeb erbyn 31 Gorffennaf 2023 er mwyn i ni gael sgwrs anffurfiol a thrafod sut gallai’r cynllun weithio iddyn nhw.”

Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws wyth o Dirweddau Dynodedig Cymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer natur, sbarduno datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.

I gofrestru eich diddordeb yn y cynllun Cysylltu’r Arfordir, anfonwch e-bost at claref@pembrokeshirecoast.org.uk, ffonio 01646 624800, neu ewch i’r tudalen Cysylltu’r Arfordir.