Awdurdod y Parc yn cyflwyno bownsars traeth yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ar y dŵr

Cyhoeddwyd : 21/08/2020

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bwriadu cyflogi swyddogion diogelwch ar lithrffyrdd i atal pobl rhag lansio cerbydau dŵr personol yn Freshwater East yn ystod yr oriau brig.

Yn dilyn adroddiadau’n ddiweddar o weithgarwch peryglus yn cynnwys y cerbydau dŵr, ni fydd modd defnyddio’r llithrffordd rhwng 10am a 4pm, a hynny i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu mwynhau eu hymweliad â lan môr yn ddiogel.

Closed gate on the slipway at Freshwater East

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones: “Rydyn ni’n cymryd y cam hwn er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhai sy’n dymuno lansio’r cerbydau hyn yn defnyddio lleoliadau mwy addas, ac yn osgoi traethau fel Freshwater East, sy’n brysur iawn ar hyn o bryd.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn annog defnyddwyr cerbydau dŵr personol i ddefnyddio’r ardal ddynodedig ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau ac yn dilyn y canllawiau sy’n helpu i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib ar fywyd gwyllt.

“Yn anffodus mae ymddygiad ychydig o unigolion wedi gorfodi’r Awdurdod i gymryd y cam hwn, ac rydyn ni’n annog pawb i ystyried effaith eu hymddygiad ar bobl eraill, o ystyried bod cynifer o bobl yn dod i Arfordir Penfro i fwynhau nodweddion arbennig yr ardal.

“Gofynnwn i chi droedio’n ysgafn a chofio parchu’r tir, y gymuned a phobl eraill pan fyddwch yn ymweld â’r Parc Cenedlaethol.”

Bydd y llithrffordd yn Freshwater East, sy’n berchen i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, dan ofal cynrychiolydd o Diogel Security bob dydd o ddydd Sadwrn 22 Awst.

Bydd pobl sy’n lansio cychod a cherbydau eraill yn dal yn cael defnyddio’r llithrffordd a bydd y rhai sy’n cael eu troi ymaith yn cael gwybodaeth am yr ardal acwabatics ddynodedig ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau, yn ogystal â Chod Morol Sir Benfro.