Cynnydd mewn adroddiadau o achosion yn ymwneud â cherbydau dŵr personol ar Arfordir De Penfro

Cyhoeddwyd : 06/08/2020

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn apelio ar i yrwyr cerbydau dŵr personol ystyried effaith eu gweithgareddau ar ymwelwyr eraill a bywyd gwyllt yn dilyn cynnydd diweddar mewn digwyddiadau sy’n cael eu riportio.

Mae lansio cychod jet bach eisoes wedi’i wahardd mewn nifer o leoliadau o amgylch Arfordir Penfro oherwydd ymddygiad reidwyr anghyfrifol a’r niwsans sŵn sy’n cael ei achosi gan y peiriannau.

Mae’r adroddiadau diweddar yn cynnwys cerbydau dŵr personol yn sgrialu yn ôl ac ymlaen trwy’r angorfeydd yn agos i’r lan yn Dale a chafodd caiaciwr ddihangfa lwcus yn Freshwater East.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Tegryn Jones:

“Yn gyffredinol, does dim llawer o groeso i weithgareddau swnllyd sy’n tarfu ar eraill, fel reidio cerbydau dŵr personol, ar Arfordir Penfro oherwydd eu heffaith ar nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol.

“Llonyddwch a distawrwydd yw rhai o’r prif bethau y mae ein trigolion a’n hymwelwyr yn eu gwerthfawrogi ac yn anad dim dyma beth mae ein bywyd gwyllt prin a gwarchodedig yn dibynnu arno. Gall ymddygiad un gyrrwr cerbyd jet o’r fath ddifetha diwrnod cannoedd o bobl.

“Gan fod cymaint o ymwelwyr o gwmpas, mae yna dipyn o bobl allan ar y môr mewn cychod bach a caiacs, ac mae padlfyrddwyr yn benodol mewn perygl o gael eu troi drosodd gan donnau sy’n cael eu creu gan gerbydau dŵr personol.

“Rydyn ni’n annog pobl i gadw at yr ardaloedd acwabatics penodol ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau a dilyn y cyfarwyddiadau ‘araf iawn’ a lleihau ôl-donnau sydd mewn grym yng nghyffiniau’r traethau a’r yr harbwr ac yn agos at bobl eraill.”

Mae unrhyw un sy’n mynd ar y dŵr o amgylch Arfordir Penfro yn cael eu hatgoffa i ddarllen a dilyn Cod Morol Penfro a lleihau unrhyw aflonyddu ar fywyd gwyllt fel eich bod chi’n gallu cael y profiad gorau posib.

Personal watercraft (commonly referred to as jetski)

Mae rhagor o wybodaeth a mapiau’n dangos yr ardaloedd acwabatics a’r ardaloedd ar gyfer cerbydau dŵr personol penodol ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau ar gael ar wefan Porthladd Aberdaugleddau.

I ddarganfod sut y gallwch chi fwynhau yn y môr ar Arfordir Penfro gan darfu cyn lleied â phosib ar fywyd gwyllt, ewch i wefan Cod Morol Penfro.