Agor llwybr cerdded newydd Trefdraeth yn swyddogol

Cyhoeddwyd : 27/05/2022

Ar 12 Mai, agorwyd llwybr troed newydd yng Ngogledd Sir Benfro sy’n rhoi cyfle i gerddwyr weld amrywiaeth o dirweddau gan gynnwys coetiroedd a dolydd derw, yn ogystal â thirnodau lleol nodedig sy’n cynnwys Carningli, Traethau Trefdraeth a Thrwyn Dinas.

Cafodd Llwybr Pwll Cornel ei greu yn 2021, yn dilyn cydweithrediad rhwng staff, gwirfoddolwyr ac Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chyda chaniatâd y tirfeddianwyr lleol Mr a Mrs Evans o Fferm Berryhill a pherchnogion Maenordy Llwyngwair, a oedd yn ddigon caredig i ganiatáu sefydlu’r llwybr dros eu tir.

Mae’r darn newydd o lwybr troed sy’n 1.1 milltir o hyd wedi’i enwi ar ôl y pwll cornel ar Afon Nyfer y mae’r llwybr yn edrych drosto.

Meddai Carol Owen, Parcmon Ardal y Gogledd Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Cafodd y llwybr ei greu gan Wardeniaid Awdurdod a Pharcmyn gyda chymorth gan dîm bychan o wirfoddolwyr o amrywiaeth o grwpiau lleol.

“Mae llethrau serth yn y goedwig ar y daith ond mae’n werth yr ymdrech gyda golygfeydd gwych o’r aber,  Carningli a’r arfordir i lawr i Ben Dinas.

“Yn ogystal â bod yn daith gerdded fer bleserus yn ei rhinwedd ei hun, mae hefyd yn darparu cysylltiadau â’r rhwydwaith ehangach o lwybrau cyhoeddus yn yr ardal hon, gan roi cyfle i bobl ychwanegu’r llwybr hwn at eu teithiau cerdded arferol.”

Five people standing on the grassy banks of a river looking towards the camera

Yn y llun mae’r Parcmon Awdurdod y Parc Cenedlaethol Richard Vaughan; Rheolwr Mynediad a Hawliau Tramwy, Anthony Richards, y Cynghorydd Mike James a’r Cynghorydd Paul Harries a’r Prif Weithredwr, Tegryn Jones gyda Meleri Ennis o Faenordy Llwyngwair.

Cafodd y gwaith hwn ei ariannu drwy Gynllun Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru.

I weld mwy o wybodaeth am y llwybr ac i lawrlwytho map,  ewch i dudalen Llwybr Pwll Cornel.

Gallwch hefyd weld y daith gerdded hon wedi’i rhestru ochr yn ochr â theithiau cerdded eraill yn ardal Trefdraeth  drwy fynd i dudalen Teithiau Cerdded Trefdraeth.