Llwybr Pwll Cornel, Trefdraeth

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.8km (1.1 milltir)
CYMERIAD: Coetir, caeau a da byw, peth graddiannau serth, peth cerdded ar heolydd bach
CHWILIWCH AM: Coetir hynafol lled-naturiol a chynefinoedd dôl; golygfeydd o’r aber, bryn Carningli a’r arfordir.

Mae Llwybr Pwll Cornel yn llwybr troed a gafodd ei greu yn 2021 gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gyda chaniatâd y tirfeddianwyr perthnasol.

Fe’i henwir ar ôl Pwll Cornel ar Afon Nyfer gan fod modd gweld y pwll o’r llwybr. Mae llwybr yn dilyn Afon Nyfer drwy dirwedd amrywiol o goetir derw a dolydd.

Mae’n daith gerdded wych ynddo’i hun, ond mae hefyd yn darparu cysylltiadau â’r rhwydwaith ehangach o lwybrau cyhoeddus yn y dyffryn, sy’n cynnig cyfleoedd cerdded newydd.

Mae llethrau serth yn y goedwig ar y daith ond mae’n werth yr ymdrech gyda golygfeydd gwych o’r aber, bryn Carningli a’r arfordir i lawr i Ben Dinas.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN067394

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân
  • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn
  • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi