Safleoedd Newydd a Diwygiedig

Cynllun Datblygu Lleol 2

Mae’r dyraniadau tir wedi’u nodi yn y Cynllun Adneuo lle mae’r trefniadau ymgynghori hefyd wedi’u nodi.

Fel rhan o’r ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir, rhoddwyd cyfle i gyflwyno safleoedd newydd neu i ddiwygio safleoedd oedd eisoes wedi’u cyflwyno.

Roedd asesiad wedi’i wneud gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i weld pa safleoedd oedd yn cyd-fynd â’r Strategaeth drafft a Ffefrir a pha rai nad oeddent yn cyd-fynd.

Er bod yr Awdurdod wedi cofnodi ei farn ar y safleoedd amgen neu ddiwygiedig, os oes gan y rhanddeiliaid farn ar y safleoedd hyn rhaid iddynt gyflwyno’r farn honno fel rhan o’r ymgynghori ar y Cynllun Adneuo. Mae’n bosibl i hyn newid drwy’r broses Archwilio, ac mae angen i’r rhanddeiliaid fynegi eu barn ar y safleoedd amgen yn awr.

Cliciwch y ddolen i weld canllawiau’r Awdurdod ar gyflwyno safleoedd yn ystod y cam Strategaeth a Ffefrir.

Mae pob un o’r safleoedd a gyflwynwyd wedi’u cynnwys ar restr o Safleoedd Newydd a Diwygiedig (gweler y tabl isod) sy’n galluogi unrhyw un i gael golwg ar y safleoedd sydd wedi’u cyflwyno.

Mae’r Tabl o’r Safleoedd Newydd a Diwygiedig yn gosod safleoedd mewn grwpiau yn ôl ardal Cyngor Cymuned, ac mae’n cynnwys yr asesiad (Cam y Cynllun Adnau) a’r casgliadau y daeth yr Awdurdod iddynt o ran pob safle unigol, a map o bob safle.

Mwy am Gynllun Datblygu Lleol 2