Amodau a Thelerau hysbysebu yn Coast to Coast

Archebu gofod hysbysebu, copi ar gyfer mân hysbysebion a’r gwaith celf terfynol ar gyfer hysbysebion arddangos: Dydd Gwener 5 Ionawr 2024.

1. Archebu Lle
Mae’n rhaid derbyn yr holl archebion am ofod hysbysebu cyn dydd Gwener 5 Ionawr 2024, ynghyd â thaliad a chopi ar gyfer mân hysbysebion neu waith celf ar gyfer hysbysebion arddangos.

 

2. Talu
Pan fyddwn ni’n derbyn eich archeb am ofod hysbysebu, mae hyn yn creu cytundeb rhyngom ni, ac mae’n gosod cyfrifoldeb arnoch chi i dalu’r ffi hysbysebu. Fel arfer, mae’n rhaid talu wrth archebu, neu fel y cytunir gennym ymlaen llaw. Mae’r prisiau wedi eu gosod ac maen nhw’n cynnwys TAW. Mae’n rhaid i elusennau ddarparu datganiad eu bod wedi cwrdd â’r amodau ‘zero’ arbennig, cyn y gellir tynnu TAW (gweler hysbysiad TAW 701/58). Dylai unrhyw sieciau fod yn daladwy i APCAP.

 

3. Dyddiad Cyhoeddi
Y dyddiad cyhoeddi yw Mawrth 2024.

 

4. Hawliau’r Cyhoeddwr
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw hysbyseb neu wrthod unrhyw gopi penodol ar unrhyw adeg, heb reswm, p’un ai y talwyd y swm sy’n ddyledus ar gyfer yr hysbyseb ai peidio. Os bydd cais yn cael ei wrthod ar ôl i’r hysbysebydd dalu amdano, rhoddir ad-daliad.

 

5. Deddf Disgrifiadau Masnachol 1968
Cyhoeddir hysbysebion ar y ddealltwriaeth eu bod yn cydymffurfio’n llwyr â Deddf Disgrifiadau Masnachol 1968 a chyfrifoldeb yr hysbysebydd yw sicrhau cydymffurfiaeth o’r fath.

 

6. Darparwyr llety
Gellir derbyn hysbysebion am lety/safleoedd carafanau a gwersylla (yn cynnwys asiantaethau) yn unig pan fydd y llety wedi’i wirio gan Groeso Cymru, tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru.

 

7. Canolfannau Gweithgareddau/Atyniadau/Gweithredwyr Cychod
Gellir derbyn hysbysebion ar gyfer Canolfannau a Gweithredwyr Gweithgareddau yn unig pan fyddan nhw wedi’u trwyddedu o dan Wasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antur neu gyrff llywodraethu cenedlaethol lle bo hynny’n addas.

  • Rhaid i bob atyniad gael eu rhestru gan Groeso Cymru.
  • Rhaid i weithredwyr cychod gael eu trwyddedu gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a/neu Gyngor Sir Benfro.

RHAID CYFLWYNO LLUNGOPÏAU O DDOGFENNAU CYFREDOL WRTH ARCHEBU FEL PRAWF O STATWS GWIRIO, ACHREDU NEU DRWYDDEDU.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi gweithio ers sawl blwyddyn gyda gweithredwyr a sefydliadau partneriaeth i ddatblygu’r Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro sy’n cael ei gydlynu gan Fforwm Arfordirol Sir Benfro.

Rhaid i ddarparwyr gweithgareddau awyr agored gefnogi’r Siarter Awyr Agored i hysbysebu yn O Lan i Lan. Dylai testun hysbyseb a’r delweddau adlewyrchu egwyddorion ac amcanion Grŵp Siarter Awyr Agored Sir
Benfro ac mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cadw’r hawl i ofyn am newidiadau i destun neu ddelweddau os nad yw’ch hysbyseb yn adlewyrchu’r amcanion hyn.

Y cyswllt ar gyfer Grŵp Siarter Agored yw

Paul Renfro, Fforum Arfordirol Sir Benfro
Llawr 2il, Tŷ Pier, Ffordd y Pier, Doc Penfro, SA72 6TR
Email paul.renfro@pembrokeshirecoastalforum.org.uk

 

8. Sefydliadau marchogaeth ceffylau
Sylw i’r perchnogion: Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gallu derbyn hysbysebion dim ond ar y ddealltwriaeth bod y sefydliadau marchogaeth yn cydymffurfio â deddfau lleol yr Awdurdod. Rhaid i bob canolfan gael ei hachredu gan Groeso Cymru neu wedi’u trwyddedu o dan Wasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antur neu gorff llywodraethu cenedlaethol a bod llungopi o’r achrediad/trwydded yn cael ei gyflwyno wrth archebu.

 

9. Cyfrifoldebau’r Hysbysebydd
Bydd yr hysbysebydd yn gyfrifol am unrhyw golled, difrod a chostau (gan gynnwys treuliau mewn perthynas â thor-hawlfraint) sy’n codi wrth gyhoeddi unrhyw gopi a ddarperir gan yr hysbysebydd, ac yn digolledu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’i swyddogion yn erbyn hyn, pa fodd bynnag y cwyd hynny.

 

10. Safle Gwarantedig i’ch hysbyseb arddangos
Talu am Safle Gwarantedig (h.y. bydd eich hysbyseb yn siŵr o gael ei roi mewn safle y cytunir arno yn y papur) ydyw’r unig ffordd i sicrhau bod eich hysbyseb yn mynd lle rydych chi’n dymuno. Bydd Awdurdod y Parc
Cenedlaethol bob amser yn ceisio gosod hysbysebion arddangos mewn safleoedd priodol ond oni bai eich bod yn talu’n ychwanegol am Safle Gwarantedig efallai na fydd eich hysbyseb yn y man oedd yn ddewis cyntaf gennych.

 

11. Ymwadiad gadael allan/canslo
Ni all yr hysbysebydd ganslo unrhyw hysbyseb ar ôl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gysodi’r copi. Ar gyfer achosion o ganslo, bydd ad-daliadau yn cael eu gwneud yn ôl disgresiwn yr Awdurdod. Os gadewir unrhyw hysbyseb allan, ni fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dan unrhyw oblygiadau i’r hysbysebydd ac eithrio i ad-dalu’r tâl hysbysebu. Ni all yr Awdurdod warantu dosbarthiad os oes cyfyngiadau symud o ganlyniad i Covid-19.

Cyfrifoldeb yr hysbysebydd yw gwirio a chymeradwyo’r proflenni fel sy’n ofynnol. Gwneir pob ymdrech i osgoi gwallau, ond nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw wallau (ac eithrio ad-dalu taliadau a dalwyd pan oedd yr Awdurdod yn gyfrifol am y gwall). Bydd unrhyw gais am ad-daliad o gyfran addas o’r ffi o ganlyniad i broblem argraffu yn cael ei drin ar sail ei rinweddau ond cytunir iddo ble gellir dangos bod y camgymeriad wedi achosi rhagfarn sylweddol i’r hysbysebydd yn unig. Pan fo hysbysebydd wedi archebu lle ac wedi methu â darparu’r arlunwaith, logo, ffotograffau, darluniau neu destun priodol erbyn y dyddiad terfynol y cytunwyd arno, mae’r hysbysebydd hwnnw yn gyfrifol am dalu am holl gost y gofod hysbysebu.

 

12. Manylion Cynhyrchu
Tabloid. Arwynebedd delweddau 270mm x 385mm. 5 colofn y dudalen. Argraffu Atredol Gwe Heatset, 4 lliw trwy gydol y cyhoeddiad ar bapur newyddion 52gsm wedi’i wella. Tarddiad PDF.

 

13. Arlunwaith Hysbysebion Arddangos
Dylid darparu’r arlunwaith fel jpegs (CMYK 300ppi) neu pdfs (parod i’r wasg 300ppi) o’r un maint. Ni dderbynnir unrhyw fformat arall. Ble nad yw hyn yn bosib, fe fydd APCAP yn cysodi ac yn gosod yr hysbyseb i fformat safonol* gyda ffi o £30 ychwanegol ar ben y ffi a godir am y gofod hysbysebu. (*Fformat safonol – enw a manylion cyswllt ynghyd ag un neu ddwy ddelwedd a gyflenwyd gan yr hysbysebwr i’w trefnu fel hysbyseb).
Os bydd angen unrhyw waith celf arbennig ar yr hysbysebwyr ar wahân i’r fformat safonol rydyn ni’n ei gynnig, bydd angen i hyn gael ei gyflenwi gan ddylunydd a ddewisir gan yr hysbysebwr.

Rhaid i arlunwaith hysbysebion arddangos gyrraedd Hysbysebu O Lan i Lan (Ffôn 01646 624895) erbyn dydd Gwener 5 Ionawr 2024 fan bellaf. Awgrymir yn gryf fod unrhyw arlunwaith yn cael ei dderbyn cyn y dyddiad hwn.
Sylwer: ni dderbynnir unrhyw arlunwaith ar ôl y dyddiad cau.
Rhaid bod modd gwahaniaethu’n glir rhwng hysbysebion sy’n cael eu gosod a chynnwys golygyddol sy’n cael ei gyhoeddi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol, felly ni dderbynnir unrhyw ddeunydd ar gyfer hysbysebu.

 

14. Hysbysebion ar y Wefan ac yn yr ‘Ap’
Cynigir hysbyseb rad ac am ddim ar y wefan i holl hysbysebwyr O Lan i Lan, a bydd yn ymddangos yn awtomatig yn y rhifyn ar-lein yn union yr un fformat ag y mae yn y papur newydd. Yn yr un modd, fe fydd eich hysbyseb hefyd yn ymddangos yn awtomatig yn ein ‘ap’ O Lan i Lan rhad ac am ddim. Nid yw hysbysebion ar y wefan nac yn yr ‘ap’ ar gael fel archeb ar wahân.