Adroddiad Monitro Blynyddol 2022-2023
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgynghori ar yr Adroddiad Monitro Blynyddol 2022-2023.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg tan hanner dydd, ddydd Gwener, 31 Mai 2024.
Dylid dychwelyd sylwadau naill ai’n ysgrifenedig i Dîm Polisi Strategol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu drwy e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y dogfennau, cysylltwch â Thîm Cyfeiriad ar 01646 624800. Gellir darparu copïau papur o’r canllawiau am gost fechan.
Caiff yr holl sylwadau eu cydnabod a byddant yn cael eu cyhoeddi. Bydd yr holl sylwadau’n cael eu hadrodd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bydd pawb sy’n cyflwyno sylwadau yn cael gwybod am ganlyniad cyfarfod yr Awdurdod.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Polisi Strategol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ffoniwch 01646 624800 neu e-bostiwch devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.
Diolch i’r rheini a wnaeth sylwadau ar yr ymgynghoriad ar gyfer Adroddiad Monitro Blynyddol 2021-2022. Mae ymatebion swyddogion i’ch sylwadau ar gael i’w gweld yma: https://www.arfordirpenfro.cymru/cynllunio/polisiau-cynllunio/cynllun-datblygu-lleol-2/adroddiad-monitro-blynyddol/
Dogfennau ymgynghori
Lawrlwytho llythyr
Lawrlwytho fersiwn PDF o'r llythyr hwn