Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ymgynghori

Mae dwy ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) wedi’u cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad:

  • Morluniau (ar y cyd â Chyngor Sir Penfro)
  • Coed a Choetir (Parc Cenedlaethol yn unig)

Bydd y cyfnod ymgynghori’n para tan 4.30pm ar 26 Mai 2023. Rhaid i bob sylw fod yn ysgrifenedig a bydd pob sylw yn cael ei wneud yn gyhoeddus.

Gweler Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft Coed a Choetiroedd

Gweler Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft Gymeriad y Morlun

Lawrlwythwch y Ffurflen Sylwadau Canllawiau Cynllunio Atodol

Dylid anfon sylwadau’n ysgrifenedig at Dîm Cyfeiriad y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu trwy e-bost i’r cyfeiriad devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.

Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â’r dogfennau, cysylltwch â Thîm Cyfeiriad y Parc trwy anfon e-bost i’r cyfeiriad devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffonio 01646 624800 a gofyn am rywun sy’n delio â’r Cynllun Datblygu Lleol. Gellir darparu copïau papur o’r canllawiau am dâl.

Bydd yr holl sylwadau’n cael eu cyflwyno i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac i Gabinet Cyngor Sir Penfro, pan fo’r Canllawiau arfaethedig wedi’u paratoi ar y cyd gan y ddau awdurdod. Bydd pawb sydd wedi cyflwyno sylwadau yn cael gwybod beth fydd canlyniad y cyfarfodydd hyn.