Pwyllgor Rheoli Datblygu – 10/03/21

Dyddiad y Cyfarfod : 10/03/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1.      Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.    Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2021.

4.    Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/19/0328/S73 – Amrywio amod rhif 2 o NP/14/0014 – Residential Development Plot adjoining D, Plots adjoining Devon Court, 5 , Freshwater East, Penfro, Sir Benfro

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

b) NP/20/0407/FUL – Dymchwel y garej/gweithdy presennol, ac estyniadau eraill. Moderneiddio’r adeilad presennol ac adeiladu estyniad deulawr newydd i ffurfio newid defnydd i ddarparu llety i weithiwr allweddol (dosbarth C3) sy’n cynnwys 18 ystafell stiwdio hunangynhwysol. Mae’r cynnig yn darparu 9 lle parcio y tu blaen ac yng nghefn yr eiddo gydag un o’r llefydd ar gyfer yr anabl. Hefyd yng nghefn yr eiddo bydd 6 stand i feiciau – Coed-derw, St. Brides Hill, Saundersfoot

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

c) NP/20/0421/OUT – Dymchwel yr adeiladau diwydiannol presennol ac adeiladu dau annedd (pob mater wedi’u neilltuo) – Former GWLA Concrete Works, Rear of 89, Nun Street, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6NU

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

d) NP/20/0483/FUL – Newid defnydd y gwesty i annedd sengl a chadw’r 9 ystafell wely ar gyfer staff – St David’s Court (formerly the Warpool Court Hotel), Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6BN

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

e) NP/20/0576/FUL – Ail-leoli’r caffi presennol i adeilad newydd ac ardal patio allanol cysylltiedig – St Ishmaels Garden Centre, Llanismel, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3SX

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

f) NP/20/0614/FUL – 6 ty fforddiadwy mewn cysylltiad a 6 gweithdy gwaith coed, cyfleuster cymunedol a chyfleuster prosesu a sychu coed. – Pantmaenog Forest, Rosebush, Clunderwen, Sir Benfro, SA66 7QY

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

6.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau

7. Ystyried adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiad cynllunio canlynol:

NP/21/0137/FUL – Tynnu strwythur pren, gosod cabanau gwyliau, porthdy croeso, strwythurau canolbwynt cymunedol, parc bygi a lloches a maes parcio gwesteion, gyda seilwaith cysylltiedig gan gynnwys ffyrdd cylchrediad mewnol, tirlunio caled a meddal, seilwaith draenio, waliau cynnal a byndiau daear. – Bluestone National Park Resort, Coedwigoedd Canaston, Narbeth, Sir Benfro, SA67 8DE

Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk

 

Cofnodion a gynhaliwyd