Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Dyddiad y Cyfarfod : 03/06/2020

Rhith-Gyfarfod 10.30am

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 06 May 2020

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2020

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 6 Mai 2020

8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

29/20 Cynllun Adnoddau a Chorfforaeth 2020/21

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Adnoddau a Chorfforaeth 2020/21.

30/20 Ymateb i’r Argyfwng Newid Hinsawdd

Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo Ymateb i’r Argyfwng Newid Hinsawdd (2020 – 2030) – Ein bwriadau i wireddu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2020-2024.

31/20 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/20

Chwenychir sylwadau’r Aelodau ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft

32/20 Cymeradwyo Grantiau yn unol ag Adran 76 o’r Safonau Ariannol

Gofynnir am awdurdodiad, yn unol â’r Safonau Ariannol, i roi taliad o dros £10,000 i Fforwm Arfordirol Sir Benfro.

33/20 Pwyllgor Ieuenctid Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar ganlyniadau cyfarfod cyntaf Pwyllgor Ieuenctid APCAP, a gynhaliwyd dros y penwythnos preswyl yng Nghanolfan Pentre Ifan, a chyfarfodydd dilynol ar-lein.

34/20 Diwygiad Dros Dro Arfaethedig i Reol Sefydlog 5: Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd

Gofynnir am newid dros dro i’r weithdrefn ar gyfer ethol Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod a/neu ei Bwyllgorau.

35/20 Rheoli Llystyfiant ar Lwybr yr Arfordir a’r Rhwydwaith Hawliau Tramwy Mewndirol yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth didweddaraf i’r Aelodau am y gwaith sydd ar y gweill i reoli llystyfiant ar draws y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ystod cyfnod cyfyngiadau COVID-19.

 

Lawrlwythwch y cofnodion