Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni Amcanion Llesiant 2022/23

Cyhoeddwyd : 11/01/2024

Fersiwn 2 – Nodyn Golygyddol: Diwygiwyd gwallau teipograffeg yn dilyn cymeradwyaeth wreiddiol yr adroddiad yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 20/9/23.


Cynnwys

  • Cyflwyniad
  • Ein Hamcanion Llesiant a’u cyfraniad at Nodau Llesiant Cymru


     
     



    Cyflwyniad


    Mae’r adroddiad hwn yn nodi perfformiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) yn 2022/23 a chyfraniad at ei Amcanion Llesiant. Mae hefyd yn dangos sut yr ydym wedi defnyddio’r 5 ffordd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ein gwaith.

    Roedd 2022/23 yn flwyddyn o newid i’r Awdurdod wrth iddo symud i ailstrwythuro’r sefydliad i gefnogi’r gwaith o gyflawni ei set newydd o Amcanion Llesiant a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2022. Roedd yn flwyddyn heriol, ond mae’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn yn darparu sylfaen dda i’r Awdurdod gyflawni ei uchelgeisiau yn y dyfodol.

    Hoffem ddiolch i staff, Aelodau, gwirfoddolwyr, partneriaid a chymunedau o fewn y Parc a’r tu hwnt iddo am ein helpu i gyflawni gweithgareddau a amlygir yn y ddogfen hon.


     
     


    Nodyn ar Ddyletswydd Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau

    Mae gan yr Awdurdod ddogfen Gyfeirio Adran 6 (Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n nodi’r dull a ddefnyddir gan yr Awdurdod i wreiddio’r ddyletswydd o fewn ei fframwaith a threfniadau adrodd ar gyfer cynllunio corfforaethol. Yr adroddiad hwn yw un elfen o drefniadau’r Awdurdod i adrodd ar y modd y mae’n cydymffurfio â’r ddyletswydd Adran 6. Mae [Dyletswydd Adran 6] wedi’i nodi ar bwys weithgareddau perthnasol yn yr adroddiad.


     
     


    Nodyn ar yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol

    Er mwyn sicrhau bod camau gweithredu cydraddoldeb strategol yn cael eu cyflawni maent yn cael eu prif-ffrydio o fewn fframwaith ein cynllun corfforaethol ac mae’r adroddiad hwn yn gweithredu fel ein hadroddiad blynyddol ar gydraddoldeb hefyd. Mae [Dyletswydd Cydraddoldeb] wedi’i nodi ar bwys weithgareddau perthnasol yn yr adroddiad a nodir data monitro cydraddoldeb recriwtio a’r gweithlu yn yr adran Ardaloedd Newid Corfforaethol o dan gydymffurfio ar ddiwedd yr adroddiad.


     
     


    Parc Cenedlaethol a’i Nodweddion Arbennig

    Cafodd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei ddynodi ym 1952 dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae’r Parc Cenedlaethol yn gorchuddio ardal ag arwynebedd o 612km2, gydag oddeutu 23,000 o bobl yn byw mewn rhyw 50 ardal cyngor cymuned. Mae’r rhan fwyaf o’r Parc Cenedlaethol mewn perchnogaeth breifat gyda’r Awdurdod yn berchen ar 1% yn unig.

    “Nodweddion arbennig” y Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw:

    • Hygyrchedd
    • Ysblander arfordirol
    • Daeareg amrywiol
    • Amrywiaeth y dirwedd
    • Treftadaeth ddiwylliannol
    • Ynysoedd
    • Amgylchedd hanesyddol cyfoethog
    • Lle i anadlu
    • Cyfoeth cynefinoedd a bioamrywiaeth
    • Natur anghysbell, llonyddwch a gwylltineb
    • Cymeriad unigryw aneddiadau
    • Amrywiaeth y profiadau a’r cyfuniad o nodweddion unigol

     

     


    Awdurdod Parc Cenedlaethol a Dibenion y Parc

    Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei greu fel awdurdod lleol dibenion arbennig annibynnol dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (y Ddeddf). Mae’r Awdurdod yn cynnwys 18 o Aelodau, 12 ohonynt wedi’u henwebu gan Gyngor Sir Penfro a chwech wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru.

    Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi mai Dibenion Awdurdod Parc Cenedlaethol yw

    • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol ardal y parc
    • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig yr ardal.

     
    Hefyd mae’r Ddeddf yn datgan bod gan yr Awdurdod ddyletswydd wrth arddel y dibenion uchod, i geisio meithrin lles cymdeithasol ac economaidd y cymunedau lleol.

     

     


    Cynlluniau Creu Lleoedd

    Bob pum mlynedd, mae’n ofynnol i’r Awdurdod gynhyrchu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol sy’n nodi sut y dymunai weld y Parc Cenedlaethol yn cael ei reoli, nid yn unig gan yr Awdurdod ei hun, ond gan yr asiantaethau a sefydliadau eraill y gallai eu gweithgareddau effeithio ar y Parc.

    Mae ein Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol presennol yn mynd ar drywydd dibenion y Parc Cenedlaethol drwy weithredu mewn partneriaeth ar draws pump thema sy’n ategu ei gilydd.

    • Ased genedlaethol – Tirwedd ar gyfer bywyd a bywoliaeth
    • Tirweddau ar gyfer pawb – Llesiant, mwynhad a darganfod
    • Parc gwydn – Diogelu ac adfer bioamrywiaeth
    • Lle o ddiwylliant – Dathlu treftadaeth
    • Cyfrifoldeb byd-eang – Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

     

    Yn ystod y flwyddyn dechreuodd swyddogion archwilio modelau data drwy ddull arwyddion hanfodol arfaethedig i helpu i lywio’r Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol nesaf.

    Yr Awdurdod yw’r awdurdod cynllunio statudol ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol ac mae’n gyfrifol am baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Cymeradwywyd Cynllun Datblygu Lleol 2 yr Awdurdod ym mis Medi 2020, a chaiff ei fonitro drwy ei Adroddiad Monitro Blynyddol.

     

     


    Cyllid

    Caiff gwariant net yr Awdurdod ei bennu’n bennaf gan Lywodraeth cymru, ar ffurf y Grant Parc Cenedlaethol (G.P.C.) blynyddol ac ardoll gysylltiedig gan Gyngor Sir Penfro. Yn 2022/23 roedd y Grant Awdurdod Parc Cenedlaethol yn £3,561k o’i gymharu â £3,559k yn 2021/22, ac roedd yr Ardoll yn 2022/23 wedi parhau yn ddigyfnewid ers 2021/22 ar £1,083k. Roedd y Grant APC ar gyfer 2022/23 wedi cynyddu o’i sylfaen o £3,249k oherwydd grantiau neilltuedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn o £312k nad oedd yn denu Ardoll ychwanegol. Fodd bynnag, mae cyllid craidd yr Awdurdod wedi gostwng dros y degawd diwethaf fwy neu lai a phan gymhwysir y mynegai prisiau defnyddwyr mae’r gostyngiad ar y cyfan yn y cyllid craidd mewn termau real yn cyfateb i fwy na 36% ers 2010/11. Mae arbedion gweithredol a chynnydd yn yr incwm o werthu nwyddau yn y canolfannau, incwm o’r meysydd parcio a thaliadau eraill ac incwm grant wedi gwneud iawn am y gostyngiad yn yr arian craidd.

     

     


    Mesur Perfformiad – Amcanion Llesiant

    Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithredu’n unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy: Hirdymor, Atal, Integreiddio, Cydweithredu a Chynnwys. Trwy gydol y ddogfen darperir enghreifftiau o sut rydym wedi cymhwyso’r egwyddorion hyn yn ymarferol.

    Rydym hefyd wedi asesu ein cynnydd tuag at ein hamcanion llesiant trwy ystyried:

    We have also looked to assess our progress towards our well-being objectives through considering:

    • Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 ac Offer Diogelwr Taith y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
    • Adroddiadau Archwilio Cymru o ran 5 ffordd o weithio
    • Dangosyddion Llesiant a Cherrig Milltir Genedlaethol i Gymru

     
    Bydd yr Awdurdod yn archwilio cyfleoedd i wella data meincnodi yn 2023/24.

    Mae mesurau perfformiad APCAP yn seiliedig ar flaenoriaethau yn ei Gynllun Corfforaethol ac Adnoddau.  Rhoddwyd fframwaith perfformiad trosiannol ar waith ar gyfer 2022/23, gan adlewyrchu bod yr Awdurdod yn mynd trwy gyfnod o newid ac yn y broses o ddatblygu cynlluniau cyflawni. Mae’r Awdurdod yn monitro ei gynnydd yn erbyn ei amcanion llesiant yn ystod y flwyddyn, drwy adroddiadau perfformiad a ddarperir i’r Aelodau drwy Bwyllgorau perthnasol. Mae rhai ystadegau’n cael eu cofnodi’n flynyddol. Mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu methodoleg adrodd carbon sero-net Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrff cyhoeddus ar gyfer allyriadau carbon. Darparwyd methodoleg wedi’i diweddaru ar gyfer 2022/23.

     

     



    Ein Hamcanion Llesiant a’u cyfraniad at Nodau Llesiant Cymru

     


    Datblygu ein Hamcanion Llesiant

    Roedd APCAP wedi cymeradwyo strategaeth lefel uchel newydd fis Gorffennaf 2021, oedd yn clustnodi pedwar maes blaenoriaeth ar gyfer 2022-26 a gweledigaeth ddiwygiedig:

    Blaenoriaethau Effaith
    Cadwraeth – Hybu bioamrywiaeth ac atal ei ddirywiad Natur yn Llewyrchus
    Hinsawdd – Cyrchfan: Sero Net Rydym yn Awdurdod sy’n anelu at Sero Net a Pharc Cenedlaethol carbon niwtral
    Cyswllt – Gwasanaeth Iechyd Naturiol Pobl sydd fwy iach, yn hapusach ac wedi cysylltu â natur a threftadaeth
    Cymunedau – Cymunedau Byrlymus Llefydd lle all pobl fyw, gweithio a mwynhau
    Ein gweledigaeth: Parc Cenedlaethol lle mae natur, diwylliant a chymunedau yn ffynnu

     

    Cafodd arolygon barn ar-lein eu cynnal ymhlith y staff, yr Aelodau a’r cyhoedd yn gyffredinol fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun. Roedd y cyfleoedd i ymgysylltu yn bersonol yn gyfyngedig oherwydd effaith pandemig Covid-19.

    Roedd cymeradwyo’r strategaeth lefel uchel wedi arwain at adolygu ein Hamcanion Llesiant. Cafodd yr Amcanion eu diwygio i gyd-fynd â’r blaenoriaethau newydd ac i gymryd i ystyriaeth y datblygiadau polisi allweddol a’r heriau gan gynnwys yr argyfyngau natur a hinsawdd. Ymgynghorwyd â’r staff, yr Aelodau a’r Cyhoedd ar yr Amcanion diwygiedig a’r canlyniadau cysylltiedig. Cafodd set newydd o Amcanion Llesiant eu cymeradwyo a’u cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2022/23.

     

     


    Bodloni’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy

    Hirdymor: Mae’r byd yn wynebu argyfwng natur a hinsawdd, bydd diffyg gweithredu yn awr yn arwain at ganlyniadau hirdymor i genedlaethau’r dyfodol ac i’r Parc. Mae cynnal camau gweithredu i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn ganolog i’n Hamcanion Llesiant.

    Atal: Mae ein Hamcanion Llesiant i gyd yn canolbwyntio ar gyflawni ymyriadau fydd yn ceisio atal problemau rhag digwydd neu waethygu ar draws Ardal y Parc Cenedlaethol. 

    Integreiddio: Dim ond drwy gymryd agwedd strategol ac integredig gyda phartneriaid y gellir cyflawni ein Hamcanion Llesiant.

    Cydweithio: Rydym wedi gosod cydweithredu wrth galon pob un o’n Hamcanion Llesiant a’n cynlluniau cyflawni. O brofiad rydym yn gwybod mai dim ond drwy gydweithio ag eraill y gellir llwyddo i gyflawni newid cadarnhaol.

    Cynnwys: Dim ond drwy gynnwys pobl a gwrando arnynt yn rhagweithiol y gellir cyflawni ein Hamcanion Llesiant. Defnyddir ymgysylltu i sicrhau ein bod yn datblygu’r ymyriadau cywir i chwalu rhwystrau i gefnogi ystod mwy amrywiol o bobl i weithredu dros natur neu brofi’r awyr agored a rhyfeddodau’r Parc.

    Isod, rydym wedi amlinellu sut mae ein hamcanion llesiant yng Nghynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2022/23 yn cyfrannu at Nodau Llesiant Cymru, yn ymgorffori’r egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ymarferol a’n perfformiad yn erbyn pob amcan ar gyfer 2022/23.

     

     


    Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cadwraeth

    Our Conservation Well-being Objective: Ein Amcan Lles Cadwraeth: Cyflawni adferiad byd natur a chysylltedd ar raddfa, fel bod natur yn ffynnu yn y Parc, gan gyfrannu at warchod 30% o’n tiroedd a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030.


    Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

    Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

    • Hyrwyddo a chyflawni adfer byd natur ar dir ac yn yr amgylchedd morol gan gefnogi diogelu 30% o’n tiroedd a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030.
    • Cyflawni statws cadwraeth ffafriol ar safleoedd uchel eu gwerth o ran natur.
    • Cynnydd yn y tir a reolir ar gyfer adfer natur yn y Parc (a gyflawnir drwy ddylanwadu a gweithio gydag eraill a rheoli ein hystâd ein hunain).
    • Cynnydd mewn cysylltedd ecolegol.
    • Cefnogir ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur.
    • Mae rheoli dynodiadau morol wedi gwella drwy weithio gyda phartneriaid, yn genedlaethol ac yn lleol.

     
    Drwy sicrhau adfer byd natur bydd yr amcan hwn yn cefnogi Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yn cyfrannu at yr ymrwymiad ’30×30′ i ddiogelu 30% o’n tir a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030 a dangosyddion cenedlaethol Cymru ar

    • Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru
    • Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru
    • Y ganran o’r cyrff dŵr wyneb, a’r cyrff dŵr daear, sy’n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan

     
    Drwy gefnogi ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur a gweithio mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys tirfeddianwyr, ffermwyr a chymunedau, mae’n cefnogi Cymru mwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynol.

    Yn ystod y flwyddyn roedd ein gweithgareddau yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar gadwraeth:


    Trosolwg Cadwraeth 2022/23

    Newid Sefydliadol

    [Dyletswydd Adran 6]

    Mae proses newid sefydliadol PCNPA wedi arwain at sefydlu Tîm Adfer Natur newydd, penodi Pennaeth Adfer Natur newydd ac yn ystod y flwyddyn dechreuodd ddatblygu Cynllun Cyflawni Adfer Natur. Mae’r Prosiect Adfer Natur ‘Parc Gwyllt yr Arfordir’, a ariennir gan grant Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy, yn cynorthwyo’r Awdurdod i archwilio cyfleoedd i gynyddu cwmpas ei weithgareddau adfer byd natur. Mae swydd ychwanegol Swyddog Cadwraeth wedi’i chreu a gwaith wedi’i wneud i ddatblygu cynllun cysylltu’r arfordir drwy weithio gyda thirfeddianwyr.


    Ffiniau Traddodiadol

    [Dyletswydd Adran 6]

    Lansiwyd cam pellach o’r cynllun grant ffiniau traddodiadol yn 2022/23. Adferwyd cyfanswm o 2,266 metr o ffiniau traddodiadol o dan y Cynllun yn 2022/23. Gan gynnwys 1617m o blanhigion gwrych newydd sy’n cyfateb i dros 11,000 o blanhigion yn y ddaear. Mae hyn yn cymharu â 2,708 metr yn 2021/22 ac yn gronnol ers i’r cynllun ddechrau mae 5,944 metr o ffiniau traddodiadol wedi’u hadfer.


    Tir a Reolir ar Gyfer Natur – Gwarchod y Parc

    [Dyletswydd Adran 6]

    Gwnaed 5 cytundeb rheoli ffurfiol newydd trwy warchod y Parc yn 2022/23 o’i gymharu ag 1 yn 2021/22. Gyda chyllideb ar gyfer cytundebau rheoli newydd yn cael ei wario’n llawn.  Mae cyfanswm o 88.62 hectar yn gynnydd sylweddol ar 2.93 hectar ychwanegol o dan y 1 cytundeb newydd yn 2021/22. Roedd 100% o safleoedd cadwraeth yn unol â’u cynllun rheoli cadwraeth ffurfiol yn 2022/23, gan barhau â’r duedd o 2021/22.

    Roedd 18 safle newydd lle buom yn gweithio gyda pherchnogion ar gadwraeth (y tu allan i gytundebau rheoli ffurfiol) yn 2022/23 o’i gymharu â 49 yn 2021/22. Cyfanswm o 22.12 hectar yn adeiladu ar y 256.10 hectar yn 2021/22. Mae cyllideb bioamrywiaeth gyfyngedig ac amser staff yn cyfyngu ar ba gymorth y gallwn ei roi. Mae ymyriadau cyfalaf yn dibynnu’n bennaf ar gyllid allanol.

    Crëwyd 132.74 hectar o gynefinoedd peillwyr newydd yn 2022/23 gan adeiladu ar y 256.10 hectar a grëwyd yn 2021/22.

    Mae’r hectarau sy’n eiddo neu sy’n cael ei brydlesu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar gyfer bioamrywiaeth wedi cynyddu.o 474.87 hectar i 477.77 hectar. Mae’r newid hwn yn adlewyrchu bod safle Trefin wedi symud i’r rhaglen rheoli cadwraeth ymarferol.

    Gwelodd APCAP gynnydd yn y tir a reolir ar gyfer bioamrywiaeth mewn partneriaeth â thirfeddianwyr preifat o 1,483.62 hectar yn 2022/21 i 1,544.04 yn 2022/23. Mae’r tîm Cadwraeth wedi tynnu safleoedd o’r rhestr os nad ydym wedi bod yn rhan o’r safle yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd yn debygol o fod o dan reolaeth ffafriol o hyd.

    Yn 2022/23 roedd 3,718.59 hectar o dir mynediad lle’r oedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cefnogi partneriaethau rheoli tiroedd comin. Mae hyn yn gynnydd ar 3,183.25 hectar yn 2021/22 gan fod dau dir comin wedi’u hepgor o ffigyrau blaenorol.

    Cwblhawyd 91 o dasgau’r rhaglen waith cadwraeth gan dîm y Wardeiniaid gyda chefnogaeth gan Parcmyn a gwirfoddolwyr yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 170 yn 2021/22.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Mae ffwng y Balerina Pinc wedi’i gofnodi am y tro cyntaf yn un o’n safleoedd cytundeb rheoli ger Freshwater East, sy’n cael ei adfer o ffermio dwys i gynefin gweirglodd

     


    Prosiect Achub Brith Y Gors

    [Dyletswydd Adran 6]

    Yn ystod 2020/21, comisiynodd APCAP astudiaeth ar ‘Britheg y Gors yn Sir Benfro: ei statws ar hyn o bryd, arolygon a gofynion rheoli yn y dyfodol’. Gwelwyd yn ôl yr astudiaeth hon bod hyd yn oed cadarnle’r glöyn byw o gwmpas Mynachlog-ddu dan fygythiad difrifol, gyda dim ond 8 o’r 32 safle blaenorol yn dal yn gynefin i Fritheg y Gors yn ystod y 5 mlynedd blaenorol. Dau safle o bwysigrwydd rhyngwladol i Fritheg y Gors, sef Ardal Cadwraeth Arbennig Gweunydd Blaencleddau ac Ardal Cadwraeth Arbennig Mynydd y Preseli yn cyfarfod ym Mynachlog-ddu: a’r ddau safle mewn cyflwr anffafriol yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae un meta-boblogaeth o’r glöyn byw angen rhwng 76 a 104 hectar o gynefin addas i’w galluogi i oroesi yn yr hirdymor.

    Yn ystod 2020/21, sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect ”Britheg y Gors a Mursennod’ i gyflawni’r gwaith cyfalaf sydd ei angen i ailgyflwyno pori i 5 safle. Yn ogystal, roedd grant ‘Gwyrddu Amaethyddiaeth’ wedi galluogi’r Awdurdod i brynu coleri Dim Ffens fel y gall gwartheg bori dau dir comin Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA ) (lle cofnodwyd presenoldeb blaenorol Britheg y Gors) tra’n cadw’n ddiogel rhag buchesi eraill o wartheg a chorsydd peryglus. Derbyniwyd cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i hwyluso ailgyflwyno pori priodol i 16 o safleoedd eraill yn yr ardal (y mae 5 ohonynt yn SoDdGA). Dechreuodd y cynllun ‘Achub Britheg y Gors’ fis Medi 2021 a daw i ben fis Medi 2023.

    Yn ystod 2022/23 mae’r prosiect wedi bod yn ymwneud â’r canlynol:

    • Cyswllt â landlordiaid.
    • Gweithgareddau tendro i gefnogi rheoli llystyfiant a ffensio. Cael caniatâd SoDdGA ar gyfer gwaith ar y safleoedd.
    • Gweithgareddau arolygu a rheoli jac y neidiwr.
    • Clirio llystyfiant gyda chymorth gwirfoddolwyr.
    • Trwsio ffensys a gwaith i gynnal pori, gan gynnwys ailgyflwyno pori ar rai safleoedd.
    • Plannu 640 o blanhigion plwg ‘tamaid y cythraul’ ar draws Glan-rhyd, Maes yr Wyn a Llwyndrain.
    • Plannu 330 o blanhigion plwg ‘Succisa’ yn Wern y Wig a 520 arall wedi eu plannu yn Erw Lon, Rhydiau a Phen-y-banc.
    • Casglu a didoli hadau ‘tamaid y cythraul’ a Succisa a anfonwyd i’r Feithrinfa Blodau Gwyllt i’w tyfu’n blygiau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

     
    Mae’r prosiect wedi llwyddo i sicrhau bod y safleoedd dan sylw wedi’u cysylltu â’i gilydd i greu rhwydwaith mwy cydnerth o gynefinoedd.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Fis Medi roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal arolwg o 5 safle ar gyfer gweoedd Britheg y Gors mewn partneriaeth ag APCAP, a chafwyd hyd i we mewn 4 safle. Roedd gwirfoddolwyr a staff APCAP wedi archwilio 7 safle ychwanegol ar gyfer gweoedd Britheg y Gors, ac roedd gweoedd yn bresennol ym mhob un ohonynt, ac un ohonynt yn safle newydd ei ddarganfod.

     


    Gwaith Rhywogaethau Ymledol

    [Dyletswydd Adran 6]

    Roedd prosiect Rhywogaethau Estron Goresgynnol yr Awdurdod wedi sicrhau cyllid tymor byr i barhau â’r prosiect a’i ymestyn drwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

    Yn ystod 2022/23 parhaodd y prosiect i ymgysylltu â gwirfoddolwyr i gael gwared ar rywogaethau ymledol, gan gynnwys sesiynau gyda gwirfoddolwyr APCAP, cyfranogwyr gwobr Dug Caeredin, Cyfeillion y Parc Cenedlaethol, gwirfoddolwyr cymuned Brynberian a Grŵp Amgylchedd Trewyddel.

    Hefyd ymgysylltwyd â chontractwyr i dorri llystyfiant mewn nifer o safleoedd er mwyn creu mynediad i reoli Jac y Neidiwr a Chlymog Japan cyn y tymor tyfu yn 2023.

    Chwistrellwyd 490 o goesynnau yn ystod 2022/23.

    Mae nifer yr hectarau o dan reolaeth dwysedd uchel yn amrywio ar draws y flwyddyn gyda 9 hectar o dan reolaeth dwysedd uchel yn Ch1, 24.59 yn Ch2, 20 hectar yn Ch3 a 22.62 hectar yn Ch4 yn ystod 2022/23.

    Mae nifer yr hectarau sy’n cael eu monitro a’u cynnal a chadw yn amrywio ar draws y flwyddyn gyda 16.66 hectar yn cael eu monitro a’u cynnal a chadw yn Ch1, 7.46 yn Ch2, 7.46 hectar yn Ch3 a 0 yn Ch4 yn ystod 2022/23.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Roedd y swyddog prosiect wedi cyflwyno contractwr i dirfeddiannwr lle cofnodwyd ardal fach o Jac y Neidiwr fis Gorffennaf diwethaf, ac roedd y prosiect wedi gallu mynd i’r afael â’r mater cyn iddo ymledu ymhellach.

     


    Rheoli Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gyfer peillwyr

    [Dyletswydd Adran 6]

    Roedd timau Wardeniaid yr Awdurdod wedi parhau i adeiladu ar y gwaith a’r dysgu o’r prosiect peilot Pobl, Llwybrau a Pheillwyr ar wella bioamrywiaeth a chysylltedd ar hyd Llwybr yr Arfordir drwy gyflawni amrywiaeth o dasgau rheoli cynefinoedd ar raddfa fach. Er i’r prosiect ddod i ben ganol y flwyddyn, roedd y gweithgareddau sy’n gyfeillgar i bryfed peillio wedi parhau i gael eu hymgorffori yn y gwaith o ddydd i ddydd o reoli hawliau tramwy cyhoeddus a rheoli safleoedd.

    Roedd pob tîm Wardeniaid ar draws y Parc wedi cyflawni tasgau’r rhaglen waith ar bryfed peillio fel rhan o’r gwaith torri porfa dros yr haf ar lwybr yr arfordir a’r rhwydwaith mewndirol.

    Roedd y timau Wardeniaid wedi cyflawni 404 o dasgau’r rhaglen waith ar wella cynefinoedd pryfed peillio ar y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn 2022/23 o gymharu â 110 yn 2021/22.


    Gweithio gyda Gwirfoddolwyr a Grymuso Cymunedau

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Roedd gwirfoddolwyr a chyfranogwyr gweithredu cymdeithasol wedi cyfrannu 1,357 o ddiwrnodau gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol i weithgareddau cadwraeth yn 2022/23, o gymharu â 1,183 yn 2021/22. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gyda chyfranogwyr gwobr Dug Caeredin a gwirfoddolwyr o’r Prosiect Llwybrau a’r Prosiect Gwreiddiau at Adferiad.

    Cyfrannodd gwirfoddolwyr at y gwaith canlynol:

    • Plygu cloddiau a chreu cloddiau yn Llwynhelyg.
    • Casglu sbwriel blynyddol rhwng gridiau gwartheg ar Fynyddoedd y Preseli.
    • Tocio coed cyll i greu cuddfan coetir ar gyfer y fritheg arian yn Jeffreyston.
    • Gwaith ffensio i gynnal pori yn Ardal Cwm Gwaun, Rosemoor, Pen Dinas, Porth Mawr a Maes Awyr Tyddewi. Ymhlith y gweithgaredd oedd clirio prysgwydd, gwaredu weiren bigog, ailosod pyst ffens a gosod ffens netin newydd ar gyfer stoc.
    • Cribinio gwair a lladd gwair ar draws nifer o safleoedd.
    • Cynnal arolwg Jac y Neidiwr a chael gwared ar rywogaethau ymledol.
    • Rheoli prysgwydd i wella bioamrywiaeth ym Mhyllau Slash Aberllydan, Fresh Water East a Sychpant.

     

    Cyfrannwyd 104 diwrnod gan wirfoddolwyr at arolygu a monitro bywyd gwyllt yn 2022/23 o’i gymharu â 194 yn 2021/22. Gan gynnwys teithiau cerdded ar thema gwenyn, arolygon glöynnod byw gan gynnwys glöyn byw y Brithribin Brown a Britheg y Gors, arolygon criciaid, ac arolwg adar y gwlyptir.

    Yn ystod 2022/23 roedd y Parcmyn wedi defnyddio cyllid gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i dreialu gweithgareddau cynllunio adfer byd natur gyda chymunedau lleol. Y nod oedd clustnodi cyfleoedd posibl i wella bioamrywiaeth o fewn ardal benodol. A hynny drwy ganolbwyntio ar greu byd natur mewn ‘lleoedd bob dydd’ i gysylltu pobl â natur leol o’u cwmpas fel y gall cymunedau gymryd camau i adfer a gwella’r byd natur sydd agosaf atynt. Bu’r Parcmyn yn gweithio gyda chymunedau yn Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod i adolygu’r Astudiaeth o Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro i ddatblygu’r prosiectau a awgrymwyd hyd at y pwynt y gellir eu cyflawni. Hefyd crëwyd Cynllun Lleol i Adfer Natur ar gyfer Pentref Aberllydan mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned The Havens.


    Ymgysylltu Pobl â Natur

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Yn 2022/23 roedd 966 o gyfranogwyr yn sesiynau rhaglen addysg APCAP yn canolbwyntio ar werthfawrogi a diogelu natur a bioamrywiaeth yn y Parc. Roedd y themâu yn cynnwys astudiaethau traeth, afonydd a chynefinoedd, teithiau cerdded morol, safari mwd, bywyd gwyllt a glan y môr, dolydd a pherllannau yn y Parc.

    Yn 2022/23 roedd 1,763 o bobl wedi cymryd rhan yn sesiynau natur APCAP fel rhan o’r rhaglen digwyddiadau a gweithgareddau cyhoeddus. Dyma gyfle i’r cyhoedd gael profiad a dysgu am fywyd gwyllt ar faestir Castellmartin, blodau gwyllt, ystlumod yng Nghaeriw a Thyddewi ac adar yn nythu ar Staciau Elegug. Roedd y sgôr adborth cyfartalog (1-5) yn 4.08 yn 2022/23 gan ymatebwyr oedd yn nodi “Cefais fy ysgogi i gefnogi ymdrechion cadwraeth y Parc Cenedlaethol” ar ôl mynychu sesiwn.

    Yn 2022/23 roedd 3,870 o bobl wedi cymryd rhan mewn sesiynau oedd yn ymwneud â natur fel rhan o’n rhaglen ymgysylltu cymunedol ac allgymorth (cynhwysiant cymdeithasol), gan gynnwys y canlynol:

    • Ymweliad blynyddoedd cynnar â Pherllan Sain Ffraid fel rhan o’r prosiect y 1,000 diwrnod Cyntaf.
    • Creu cynefinoedd a chynnal llystyfiant gyda gwirfoddolwyr o Gwerthfawrogi Annibyniaeth yng Nghastell Henllys.
    • Defnyddio cyfleoedd i wirfoddoli garddio yng Nghastell Caeriw ac fel rhan o’r prosiect Gwreiddiau at Adferiad i ddod â phobl yn nes at natur.
    • Taith gerdded gymunedol i wrando ar gân yr adar yng Nghastell Gwalchmai.
    • Gweithgaredd grŵp Astudio Coetir yng Nghoedwig Pentre Ifan gyda grŵp Cyngor Sir Penfro Teuluoedd gyda’n Gilydd.

     

    Gall dehongli chwarae rhan bwysig wrth ymgysylltu â natur. Comisiynodd Tîm Cadwraeth APCAP artist lleol i greu darlun o ddôl wair wedi’i hanelu at blant a theuluoedd. Bydd y darlun hwn yn cael ei ddefnyddio ar ben byrddau picnic, byrddau dehongli ar gyfer ysgolion sy’n ymwneud â gwneud dolydd ac ar rai safleoedd fferm.


    Cefnogi Bioamrywiaeth yn ein Canolfannau

    [Dyletswydd Adran 6]

    Yng Nghastell Henllys bu’r staff yn gwneud gwaith i greu pwll i wella’r cynefinoedd gwlyptir yn y ddôl isaf. Hefyd maent wedi creu gwrych marw i hybu tyfiant coed a bioamrywiaeth ar y safle a pharhau i gryfhau’r strwythurau cromen helyg sy’n tyfu ar y safle, i greu cilfachau naturiol i ymwelwyr gysylltu â’r amgylchedd.

    Mae Caeriw wedi bod yn gweithio ar brosiectau a ariannwyd gan grant i wella bioamrywiaeth y safle yn fwy fyth. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys plannu gwrych brodorol 213m o hyd (ail-wylltio darn o dir fferm gerllaw ein maes parcio) fel rhan o’r cynllun Ffiniau Traddodiadol, a phlannu tua 40 o goed sbesimen ar dir fferm cyfagos. Hefyd mae ganddynt arian gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i blannu coed ffrwythau, planhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr, hadau, planwyr a gwybodaeth ddehongli i wella Gardd Furiog y Castell.

    Yn Oriel y Parc mae warden y safle wedi treulio amser yn plannu hadau blodau gwyllt drwy’r safle.


    Gweithio ar y cyd ag Eraill ar gyfer Adfer Natur

    [Dyletswydd Adran 6]

    Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro’n darparu trosolwg strategol a fforwm ar gyfer cydweithio o ran cyflawni blaenoriaethau’r y DU, Cymru a lleol ar gyfer bioamrywiaeth trwy’r Cynllun Adfer Natur ar gyfer Sir Benfro. Parhaodd APCAP i fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau ehangach.yn 2022/23.

    Mae’r bartneriaeth wedi bod yn rhan o’r gwaith o gyflawni gwaith y Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ac wedi lansio pot newydd o grantiau bach ar gyfer bioamrywiaeth yn Sir Benfro yn ystod 2022/23. Yn dilyn cais llwyddiannus i’r pot prosiect, roedd APCAP wedi gosod contract i greu cynllun gweithredu strategol ar gyfer glöynnod byw dan fygythiad gan gynnwys y Fritheg Berlog Fach a’r Brithribin Brown. Roedd Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth y Bartneriaeth wedi cyflwyno rhagor o wybodaeth am effaith y bartneriaeth i’r Pwyllgor Adolygu Gweithredol yn ystod 2022/23.

    Nod Rhwydwaith Pori Sir Benfro yw hwyluso pori er mwyn gwarchod natur, trwy sefydlu system ble mae safleoedd neu stoc sydd ar gael a safleoedd neu’r stoc sydd eu hangen, yn gallu cael eu cyfateb ble’n bosib. Felly, gellir cydlynu ymdrechion mudiadau cadwraeth a’r gymuned ffermio, a’u hintegreiddio, fel bod modd rhannu stoc, safleoedd, offer ac arbenigedd ers lles pawb. Parhaodd yr Awdurdod i gefnogi’r rhwydwaith yn ystod 2022/23.

    Parhaodd APCAP i gael ei gynrychioli ar y Grwpiau Awdurdodau Perthnasol ar gyfer ACA Forol Sir Benfro, ACA Bae Ceredigion a Safleoedd Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Sir Gaerfyrddin ac i gyfrannu at ariannu’r rhain.

    Aeth gwefan ardal gadwraeth arbennig forol newydd Sir Benfro a gomisiynwyd ac a gyflawnwyd gan y swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac a ariannwyd gan APCAP, yn fyw yn 2022/23. Mae’r swyddog ACA yn rhan o’r prosiect partneriaeth Natur am Byth!, gan arwain ar y pecynnau gwaith Môr-wyntyll Pinc a Wystrys Brodorol o agwedd Trysorau Morol Cymru o’r prosiect.

    Mae’r Awdurdod yn rhan o Fwrdd Rheoli Maetholion Cleddau a arweinir gan Gyngor Sir Penfro. Daw’r aelodau o Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r aelod awdurdodau cynllunio. Rôl y Bwrdd yw clustnodi a chyflwyno Cynllun Rheoli Maetholion, fydd yn pennu camau gweithredu i aelodau’r Bwrdd er mwyn cyrraedd targedau cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ystod 2022/23 roedd yr Aelodau, drwy’r Awdurdod Parc Cenedlaethol, wedi awdurdodi dirprwyo penderfyniadau yn ymwneud â’r Bwrdd i lefel Cyfarwyddwr neu Brif Weithredwr APCAP.

    Parhaodd APCAP yn 2022/23 i gadeirio Grŵp Cyswllt Traethau Sir Benfro sy’n dod â phartneriaid ynghyd i gyflawni’r gwaith o reoli’r traethau. Roedd y Rheolwr Gwasanaeth Parcmyn wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd grŵp gorchwyl a gorffen ar Addasiad Arfordirol Niwgwl ar fynediad i’r traeth a diogelwch, ac mewn gweithgor ar gyfer Freshwater West.

    Parhaodd APCAP i ymgysylltu â sefydliadau partner ar reoli’r blaendraeth. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda CNC i reoli cloddio am abwyd yn y Gann, Dale, a pharcmon APCAP yn gosod arwyddion cloddio am abwyd newydd yn y Gann ar ran CNC i ategu’r gwaith o reoli’r safle.

    Yn ystod 2022/23 mae APCAP wedi gweithio gyda thirweddau dynodedig eraill drwy Tirweddau Cymru / Landscapes Wales i gyfrannu at broses gyd-ddylunio Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd i Gymru. Mae’r Awdurdod hefyd yn ymwneud â grŵp Tirwedd Dynodedig sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar weithredu argymhellion plymio dwfn Bioamrywiaeth.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Dros y 25 mlynedd diwethaf bu ymdrech ar y cyd gan APCAP, Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn flaenorol) a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fynd i’r afael â materion gadael i dir ar yr arfordir fynd yn segur. Yn ystod y 25 mlynedd hyn, mae rhannau helaeth o’r arfordir wedi’u hadfer i reolaeth draddodiadol. Mae’r llwyddiant i’w briodoli i gysondeb yr ymdrech drwy gydol y cyfnod hwn gan APCAP a’r partneriaid eraill sydd wedi ariannu’r gwaith parhaus hwn yn gyson, a bellach rydym yn gweld ffrwyth y gwaith mewn poblogaeth mwy cydnerth o’r frân goesgoch.

    Dros y blynyddoedd mae tirfeddianwyr o gwmpas yr arfordir wedi cael cymorth i reoli’r prysgwydd ar eu llethrau arfordirol ac i ailddechrau pori ar yr arfordir naill ai gyda’u stoc eu hunain neu gyda merlod a ddarparwyd drwy’r Cynllun Anifeiliaid Pori Sir Benfro. Mae grantiau wedi helpu rheolwyr i ailosod ffensys a chreu cafnau dŵr i helpu gyda’r dasg. Mae rheoli cynefinoedd ar gyfer y frân goesgoch hefyd yn helpu amrywiaeth o rywogaethau eraill megis blodau gwyllt a gloÿnnod byw ar hyd y Llwybr Cenedlaethol yn ogystal â helpu gyda’r gwaith rheoli gan fod angen llai o dorri porfa ar unedau pori.

    Drwy’r rhaglen gwyliadwriaeth flynyddol ar nifer y frân goesgoch, sydd wedi’i chynnal ers 1996, mae gan yr Awdurdod set gadarn o ddata ar y frân goesgoch. Mae’r dadansoddiad yn ddiweddar wedi dangos bod poblogaeth y Frân Goesgoch yn Sir Benfro yn ymddangos yn gymharol sefydlog pan yw ar drai mewn mannau eraill yng Nghymru.

    Ar y 27ain o Orffennaf 2022 daeth grŵp o reolwyr arfordirol ynghyd o bob rhan o Gymru ym Mhen-caer i ddarganfod mwy am ymdrechion cadwraeth natur ar y llethrau arfordirol, a’r effaith gadarnhaol y mae hynny wedi’i gael ar boblogaeth y frân goesgoch. Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o’r Prosiect Dawnsio ar y Dibyn oedd yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys CNC, RSPB a Phartneriaethau Natur Lleol, a’r cyfranogwyr yn cynrychioli materion polisi ac arferion gorau.

    Roedd APCAP drwy’r prosiect Arfordirol Dawnsio ar y Dibyn hefyd wedi cwblhau’r gwaith o greu cynefinoedd arfordirol yn Lleine yn ystod 2022/23.

     


    Y Clefyd Coed Ynn a’r Ffliw Adar

    [Dyletswydd Adran 6]

    Mae’r Clefyd Coed Ynn ar ystâd yr Awdurdod yn parhau i fod yn her allweddol i’r Awdurdod. Mae’r clefyd coed ynn yn effeithio ar fioamrywiaeth o ran y rhywogaethau hynny sy’n ddibynnol ar goed ynn (megis trychfilod, cennau a mwsoglau, a rhai rhywogaethau o ystlumod). Hefyd mae angen ystyried y risg i ddiogelwch y cyhoedd gan fod coed ynn sydd â’r clefyd yn diosg eu canghennau neu’n mynd yn ansefydlog ac yn cwympo.

    Mae arolygon a dargedwyd ar y clefyd coed ynn wedi’u cwblhau ar bob safle sy’n eiddo i APCAP, gan greu parthau yn ôl y defnydd a wneir o’r safleoedd hyn sy’n amlygu’r risg i ddiogelwch y cyhoedd. Bydd canlyniadau’r arolwg naill ai’n arwain at fonitro blynyddol parhaus, at fonitro yn fwy aml neu at waredu’r coed yn gyfan gwbl.

    Mae’r gwaith arolygu o ran cyflwr y goeden a’r canlyniad yn cael eu cofnodi a’u rheoli drwy ap ar ffôn symudol. Yn 2022/23 cyflawnwyd gwaith i ‘ailadeiladu’ yr ap clefyd coed ynn i wella cywirdeb, oedd yn ei dro, yn cynorthwyo proses yr arolwg yn ogystal â gwaith cysylltiedig ‘ar lawr gwlad’.

    Ers 2021 mae 200 o goed wedi cael eu tagio a’u harolygu. Mae cwympo / tocio coed hefyd wedi’i wneud ar draws y safleoedd. Bu oedi gyda’r gwaith cwympo coed yn ystod gaeaf 2022/23 oherwydd blaenoriaethau brys eraill, newidiadau mewn personél, yn ogystal â rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant gloywi hanfodol (gan gynnwys hyfforddiant llif gadwyn) ar gyfer y Tîm Cefn Gwlad a gwblhawyd ddiwedd Chwefror 2023.

    Gwaredwyd nifer o goed yn 2022/23, ond bydd gwaith arfaethedig pellach yn digwydd o fis Hydref 2023.

    Cwblhawyd gwaith clefyd coed ynn fis Chwefror 2023 ym Mhlanhigfa Saundersfoot. Cafodd pob coeden yn y goedwig oedd yn y dosbarth lefel 3 yn arolwg Hydref 2022 eu gwaredu. Mae un binwydden aeddfed a glustnodwyd i’w gwaredu wedi’i lleihau i goeden 6 metr heb ganghennau fel pren marw sy’n sefyll.

    Maes sy’n peri pryder yw maint y clefyd coed ynn yn Freshwater East. Mae gwaith pellach wedi’i raglennu i barhau am 12 mis, a disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau ar ôl y tymor nythu adar yn 2023. Yn ogystal â’r gwaith a amlygwyd yn arolwg coed Hydref 2022, mae arolwg safle ar y gweill gyda’r Gwasanaeth Tân i benderfynu ar y risg o ran y pren marw sy’n sefyll o fewn y stoc coed ar y safle.

    Cafodd achosion o ffliw adar pathogenig iawn eu cadarnhau ar Ynys Gwales ac ar y tir mawr yn Sir Benfro yn 2022/23. Bu’r swyddogion yn gweithio’n agos ac yn gyflym gyda Chyngor Sir Penfro a phartneriaid eraill i gydlynu’r dulliau o ymdrin ag adar marw ac ar fin marw sy’n golchi i’r lan ar y traethau, a rhoi cyngor i’r cyhoedd.


    Tanau gwyllt

    [Dyletswydd Adran 6]

    Fis Gorffennaf 2022, effeithiwyd ar 11 hectar o lethrau a chynefin yn ardal Niwgwl gan danau gwyllt. Er bod y difrod helaeth yn ei gwneud hi’n anodd pennu beth oedd achos y tanau, mae’n ymddangos mai’r ffynhonnell fwyaf tebygol o ddechrau’r tân oedd barbeciw wedi’i fwrw o’r neilltu. Fis Awst bu digwyddiad arall ger y Porth Mawr a achoswyd gan botel wydr wedi’i thaflu, ac achos mawr arall o dân glaswellt yn Niwgwl y tro hwn yn llosgi 60 hectar. Mae Mynyddoedd y Preseli hefyd wedi dioddef tanau gwyllt dros y blynyddoedd diwethaf hyn.

    Mae’r Awdurdod yn parhau, drwy’r Grŵp Tanau Gwyllt Sir Benfro, i weithio gyda phartneriaid a chymunedau i ymateb i’r broblem tanau gwyllt. Roedd hyn yn cynnwys mynychu cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Goffa Trefdraeth fis Mehefin a drefnwyd gan Grŵp Bioamrywiaeth Brynberian i ystyried y materion a’r atebion yn dilyn yr effaith negyddol yr oedd y tanau glaswellt helaeth wedi’i chael ar yr ardal fis Mawrth 2022.

    Cyfarfu grŵp Tanau Gwyllt Sir Benfro fis Medi a chytunwyd bod cael cynlluniau rheoli llystyfiant yn eu lle ac ail-agor atalfeydd tân yn hanfodol. Trefnodd y Grŵp i ddod â 2 beiriant chwistrellu dŵr yn ôl i wasanaeth, a diwrnod hyfforddi a gynhaliwyd yng Nghanolfan Coetir Cilrhedyn ar gyfer Porwyr ac asiantaethau partner.

    Ar ddiwedd y tymor torri, roedd 13.5k o atalfeydd tân wedi’u torri yng Ngogledd Sir Benfro, a chyfran fawr o’r gwaith hwnnw yn digwydd ar y Frenni Fach, sef tir comin lle nad oes unrhyw waith rheoli tir wedi digwydd yn y 25 mlynedd diwethaf. Drwy weithio gyda’r Gwasanaeth Tân a’u torrwr-I, trefnwyd i greu atalfeydd tân ar fynydd Carningli mewn lleoliadau penodol i gynorthwyo’r porwyr gyda’u gwaith llosgi rheoledig, a gynhaliwyd yn llwyddiannus.

    Paratowyd erthygl ar newid hinsawdd a pherygl tanau gwyllt ar gyfer Coast to Coast 2023 gyda negeseuon i’r cyhoedd ar rôl y gallant ei chwarae i helpu i leihau’r risg o danau gwyllt yn dechrau.

     

     


    Blaenoriaeth Gorfforaethol: Hinsawdd

    Ein Hamcan Lles Hinsawdd: Cyflawni Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030 a chefnogi’r Parc i gyflawni niwtraliaeth carbon ac addasu i effaith newid hinsawdd.


    Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

    Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

    • APCAP i fod yn Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030.
    • Mae APCAP wedi cefnogi’r Parc ar ei lwybr i ddod yn garbon niwtral mor agos â phosibl i 2040.
    • Mae’r Parc Cenedlaethol yn fwy cydnerth i effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy weithio gyda phartneriaid a chefnogi gwaith a arweinir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
    • Mae’r gweithgareddau o ymgysylltu â’r staff a’r cyhoedd yn ehangach wedi arwain at newid ymddygiad.

     
    Drwy gefnogi’r Awdurdod a’r Parc i ddod yn Garbon niwtral, bydd mae’n cefnogi uchelgais Cymru lewyrchus i Gymru fod yn gymdeithas carbon isel. Bydd hefyd yn cefnogi Cymru sy’n gyfrifol ar lefel yn fyd-eang, a Chymru iachach. Cyfrannu at uchelgais sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2030 a’r cerrig milltir cenedlaethol i Gymru:

    • Bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050
    • Dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r byd y bydd Cymru’n ei defnyddio erbyn 2050

     
    Bydd gweithgareddau atafaelu carbon sydd hefyd o fudd i adfer byd natur yn cefnogi Cymru fwy cydnerth. Bydd meithrin cydnerthedd o ran addasu i’r newid hinsawdd yn cefnogi Cymru fwy cydnerth a Chymru o gymunedau cydlynol.

    Yn ystod y flwyddyn roedd ein gweithgareddau yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio:


    Trosolwg Hinsawdd 2022/23

    Newid Sefydliadol

    Mae proses newid sefydliadol APCAP wedi arwain at sefydlu Tîm Datgarboneiddio newydd, penodi Pennaeth Datgarboneiddio newydd ac yn ystod y flwyddyn dechreuodd ddatblygu Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio a Chynllun Cyflawni Addasu i Newid Hinsawdd. Bydd creu’r tîm datgarboneiddio a rolau penodol i yrru’r gwaith hwn gan gynnwys swyddog datgarboneiddio yn helpu i ddarparu mwy o gapasiti a chydlynu i waith datgarboneiddio’r Awdurdod wrth symud ymlaen. Dylai hyn helpu i fwrw ymlaen ag adolygu prosesau gwneud penderfyniadau a dogfennau, gweithgareddau caffael, gwella casglu data gwastraff a gweithredu hyfforddiant llythrennedd carbon i staff.


    Ein hallyriadau a gweithgareddau lleihau

    [Dyletswydd Adran 6]

    Mae’r Awdurdod yn defnyddio cyfrifiad a fframwaith cyflwyno allyriadau Sero Net Llywodraeth Cymru i weithio allan ei allyriadau carbon ar gyfer y flwyddyn. Gweithiodd swyddogion ar draws yr Awdurdod gyda’i gilydd i gwblhau cyflwyniad 2021/22 a 2022/23 cyn dyddiadau cau mis Medi. Mae’r data isod yn adlewyrchu’r data a gyflwynwyd fel rhan o gyflwyniad 2022/23. Sylwch nad yw data 2022/23 y cyfeiriwyd ato isod wedi’i adolygu eto gan Lywodraeth Cymru ac mae ffigurau yn cael eu dylanwadu gan newidiadau mewn methodoleg cyfrifo ar draws y blynyddoedd.

    Unedau o kgCO2e
    Categorïau 2021/22 2022/23 % yn newid rhwng blynyddoedd
    Allyriadau
    Adeiladau 105,968 108,575 +2.46%
    Fflyd ac Offer 163,074 107,966 -33.79%
    Teithio Busnes 9,493 15,267 +60.81%
    Cymudo 76,428 105,571 +38.13%
    Gweithio gartref 47,741 29,497 -38.21%
    Cadwyn Gyflenwi 1,130,122 932,506 -17.49%
    Defnydd Tir 4,169 4,210 +0.98%
    Cyfanswm 1,536,995 1,303,592 -15.19%
    Cael eu dal
    Defnydd Tir -1,286,368 -1,288,473                -0.16%
    Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu data Defnydd Tir 2021/22 a 2022/23 oherwydd anghysonderau posibl o fewn cyfrifo taenlen LlC.

     

    Pan fydd dileu defnydd tir yn cael ei ystyried, yna cyfanswm yr allyriadau yn 2022/23 oedd 15,119 kgCO2e. Pan na chaiff allyriadau eu gwrthbwyso yn erbyn dileu defnydd tir, allyriadau’r Awdurdod oedd 1,303,592 kgCO2e, sef gostyngiad o 15.19% ar 2021/22. Roedd adroddiad Aquatera yn modelu pwynt hanner ffordd ar gyfer llwybr datgarboneiddio i’r Awdurdod o 180,00kg y flwyddyn ar gyfer 2025.

    Adeiladau: Gwelsom gynnydd bach mewn allyriadau adeiladau rhwng 2021/22 a 2022/23 o 2.46%. Bu cynnydd yn yr ynni a ddefnyddiwyd ar draws pob maes ynni ac eithrio LPG. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cyfateb yn uniongyrchol i’r cynnydd mewn allyriadau mewn rhai meysydd oherwydd effaith newidiadau mewn ffactorau allyriadau a’r hyn a nodir y tu allan i’r cwmpas. Er enghraifft, bu cynnydd o 8% yn y defnydd o Drydan y Grid, fodd bynnag oherwydd newid mewn methodoleg a rhai allyriadau yn cael eu dosbarthu fel rhai y tu allan i’r cwmpas, gwelsom ostyngiad o 2% mewn allyriadau. Sylwer bod ein Trydan Grid yn cael ei brynu drwy dariff cytundeb Gwarant Tarddiad Ynni Adnewyddadwy. Bu cynnydd o 3% yn y defnydd o Nwy Naturiol rhwng 2021/22 a 2022/23, gyda chynnydd o 2.8% mewn allyriadau. Er gwaethaf y gostyngiad o 9% yn y defnydd o LPG, bu cynnydd o 35% mewn allyriadau oherwydd y cynnydd yn y ffactor allyriadau LPG ar gyfer 2022/23. Bu cynnydd o 50% mewn tunelli o Bio-ynni – pelenni coed a welodd gynnydd o 35% mewn allyriadau er gwaethaf gostyngiad yn y ffactor allyriadau. Yn ystod 2022/23 roedd APCAP wedi cychwyn ar waith gyda gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i edrych ar y defnydd a wneir o ynni ar ein hadeiladau, a byddant yn cynhyrchu adroddiad yn amlygu meysydd lle gellir lleihau carbon neu gyflwyno technolegau cynaliadwy gan gynnwys hyfywedd. Disgwylir yr adroddiad hwn yn 2023/24.

    Fflyd ac Offer: Mae’r fflyd bellach yn cael ei gofnodi ar sail y dull mwy cywir o’r tanwydd a ddefnyddir yn hytrach nag yn ôl pellter. Rydym wedi gweld gostyngiad o 33.79% mewn allyriadau, ac mae hyn yn debygol o gael ei briodoli i effaith y cynnydd mewn faniau trydan yn fflyd yr Awdurdod. Roedd yr Awdurdod wedi gweld oedi parhaus cyn derbyn gweddill y faniau trydan oedd wedi’u harchebu. Fodd bynnag, erbyn diwedd 2023/24 roedd pob fan drydan wedi dod i law oedd yn golygu bod 42% o Gerbydau’r Awdurdod bellach naill ai’n hybrid neu’n drydan, o gymharu â 28% yn 2021/22.

    Teithio Busnes: Mae allyriadau teithio busnes wedi cynyddu 60.8% o gymharu â 2021/22. Fodd bynnag, mae hyn i’w briodoli i’r ffaith bod mwy o gyfarfodydd personol ac ymweliadau safle yn cael eu cynnal erbyn hyn oedd yn llai cyffredin yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd effaith Covid 19 ar arferion gwaith. Mae hefyd yn cynnwys llogi coetsys a bysiau mini ar gyfer teithiau addysgol a phrosiectau cerdded â chymorth. Mae teithio busnes yn parhau i fod yn un o’n meysydd allyriadau isaf.

    Cymudo a Gweithio Gartref: Mae problemau cywirdeb o ran y ffigurau cymudo a gweithio gartref gan eu bod yn seiliedig ar ddata modelu o’r Arolwg Teithio Cymudo yn 2022/23 ac yn cynyddu ar sail cyfanswm cyfartalog amser llawn yr Awdurdod. Modelwyd data o 86 o ymatebion i’r arolwg. Mae’r newid yng nghanran y ffigurau cymudo a gweithio gartref i’w briodoli i’r ffaith bod staff yn dychwelyd i’w safleoedd gwaith ar ôl gweithio gartref yn flaenorol oherwydd COVID 19 a mesurau’r gweithle. Parhaodd rhai aelodau o staff i weithio gartref, tra bod eraill wedi mabwysiadu dull hybrid o weithio gartref am ran o’r wythnos a gweithio yn y swyddfa am ran o’r wythnos. Mae hefyd o bosibl yn amlygu ystod ehangach o ymatebion gan wahanol dimau ar draws yr Awdurdod.

    Cadwyn Gyflenwi: Mae’r dadansoddiad o’r allyriadau yn dangos mai caffael yw’r ffynhonnell uchaf o allyriadau o hyd, a dyma lle rydym wedi gweld y gostyngiad mwyaf mewn allyriadau. Fodd bynnag, mae angen gofal wrth edrych ar allyriadau caffael gan fod y fethodoleg bresennol yn seiliedig ar fodel sy’n seiliedig ar wariant. Mae’n dangos gostyngiad mewn allyriadau o 56% o’r categorïau gwariant ar Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, a gostyngiad o 72% o’r categori gwariant ar adeiladu, sef yr ail ffynhonnell uchaf o allyriadau ar ôl gweithgynhyrchu yn 2021/22. Y categori gwariant ar weithgynhyrchu yw ein ffynhonnell uchaf o allyriadau o hyd, a gwelwyd cynnydd o 32% mewn allyriadau o gymharu â 2021/22.

    Siart Pie Torri Allyriadau, sy'n dangos mai'r Gadwyn Gyflenwi oedd y ffynhonnell fwyaf o allyriadau.

    Bydd swyddog datgarboneiddio newydd yr Awdurdod yn archwilio cyfleoedd datgarboneiddio posibl ar gyfer ein gweithgareddau caffael. Mae canolfannau’r Awdurdod yn parhau i edrych ar gyfleoedd i gefnogi cyflenwyr lleol ac ecogyfeillgar o ran prynu nwyddau i’w gwerthu.

    Defnydd Tir: Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu data dileu Defnydd Tir 2021/22 a 2022/23 oherwydd anghysonderau posibl yn y modd y mae taenlen LlC yn cyfrif cyfanswm y tir. Yn ystod 2022/23 prynodd yr Awdurdod 2.89 hectar o dir drwy gyllid SLSP gyda’r bwriad o greu coetir cymunedol ym Mrynberian yng Ngogledd Sir Benfro. Mae 10% o’r tir yn goetir ar hyn o bryd, tra bod 90% yn laswelltir. Prynodd yr Awdurdod safle cae Graply yn 2021/22 at ddibenion dal a storio carbon ac adfer natur, ac erbyn hyn mae’r safle wedi symud i’r rhaglen waith reolaidd o reoli cadwraeth. Mae deunydd esboniadol wedi’i ddatblygu ar gyfer y safle i egluro sut mae’r safle yn cael ei ddefnyddio at ddibenion dal a storio carbon ac adfer byd natur. Un o’r heriau i’r Awdurdod yw’r ffactorau allyriadau a ddefnyddir ar gyfer glaswelltir yn ffigurau Llywodraeth Cymru, nad yw’n crisialu effaith gadarnhaol glaswelltir a reolir ar gyfer cadwraeth. Gallai symud i fethodoleg Haen 2 gynorthwyo yn hyn o beth.

    Gwastraff: Noder nad yw’r Awdurdod ar hyn o bryd yn cofnodi data gwastraff ar wahân, mae’n cael ei gofnodi drwy ein gwariant cadwyn gyflenwi. Bydd swyddog datgarboneiddio yr Awdurdod yn edrych am gyfleoedd i roi dulliau cofnodi yn eu lle i’n galluogi i gofnodi ffigurau o dan y tab hwn yn y dyfodol. Parhaodd y tri Canolfan Awdurdod i ennill Gwobrau Agoriad Gwyrdd. Yn ystod y flwyddyn cynhaliodd Castell Henllys ddigwyddiadau naill ai yn ddigwyddiad diwastraff neu drwy ddefnyddio deunydd naturiol a di-blastig. Mae’r cydlynydd manwerthu yn Oriel y Parc wedi bod yn gweithio i leihau gwastraff plastig yn y siop ac wedi gofyn i gyflenwyr leihau deunydd pacio plastig ar sawl eitem, sydd wedi bod yn llwyddiannus. Daethpwyd o hyd i gyflenwr newydd i ddarparu deunydd lapio swigod a thâp parsel di-blastig ar gyfer y ganolfan, a ddefnyddir i lapio eitemau cain adeg eu gwerthu. Roedd gweithdai celf Oriel y Parc dros yr haf hefyd yn canolbwyntio ar yr amgylchedd a’r defnydd o ddeunydd sydd wedi’i ailgylchu, sydd wedi’i addasu at ddibenion gwahanol, a deunydd naturiol.

    Adnewyddadwy: Mae’r Awdurdod yn ymchwilio i osod paneli solar ffotofoltäig yng Nghilrhedyn a safleoedd eraill yn y Parc Cenedlaethol. Cafodd adroddiad ymgynghorydd ei ddiweddaru yn ystod y flwyddyn oherwydd rhywfaint o gapasiti i allforio mwy i’r grid cenedlaethol.

    Cyfanswm a Gynhyrchir – Unedau o of kwh
    Categorïau 2021/22 2022/23
    Adnewyddadwy
    Adnewyddadwy ar y safle – gwres 167,994 249,264
    Adnewyddadwy ar y safle – trydan 16,436 4,789
    Prynwyd ynni adnewyddadwy – trydan 303,232 330,995

     

    Roedd problem gyda system ffotofoltäig OYP yn ystod y flwyddyn gan arwain at ffigwr is ar gyfer adnewyddadwy – trydan ar y safle o’i gymharu â 2021/22.


    Prosiectau Datgarboneiddio Cymunedol

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Yn ystod 2022/23 dyfarnwyd bron i £200,000 o Gronfa Datblygu Gynaliadwy’r Awdurdod i 12 prosiect cymunedol sy’n cyfrannu at ddatgarboneiddio ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Roedd hyn yn cyfateb i 97.18% o’r gronfa yn cael ei ddyrannu.

    Y prosiectau llwyddiannus oedd:

    • Cymdeithas Gymunedol Cilgeti a Begeli – £13,529 i osod paneli solar ar y Ganolfan Gymunedol.
    • Ambiwlans Sant Ioan Cymru – £17,176 i osod system solar ffotofoltäig gyda storfa fatri yn eu canolfan hyfforddi.
    • Neuadd Bentref Llandyfái – £7,296 i osod batri storio gwres yn lle boeler nwy ar gyfer gwresogi dŵr.
    • Tafarn Gymunedol White Hart, Llandudoch – £9,525 i inswleiddio’r to a gosod paneli solar.
    • Clwb Rygbi Peldroed Hwlffordd – £9,623 i osod paneli solar ffotofoltäig ar adeilad y clwb.
    • Canolfan Clydau – £11,663 i greu ystafell sychu dillad sy’n defnyddio ynni solar, a chysgodfan ddiogel i feiciau
    • Grŵp 1af Sgowtiau Johnston – £1,610 ar gyfer goleuadau solar ym maes parcio Neuadd y Sgowtiaid.
    • Ymddiriedolaeth Gymunedol Pater Hall – £3,016 tuag at insiwleiddio’r Neuadd Gymunedol.
    • Ffynnyone: Cadernid Cymunedol yng Ngogledd Ddwyrain Sir Benfro – £25,000, i ddarparu digwyddiadau tyfu bwyd ar gyfer y gymuned, yn dilyn cyfnod peilot llwyddiannus,
    • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – £61,634 tuag at gyflogi Swyddog Gweithredu Awyr Dywyll am dair blynedd.
    • Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod – £10,624 tuag at welliannau gwresogi, goleuo a lleihau ynni.
    • Ecodewi – £19,760 i redeg prosiect cymunedol 18 mis sy’n sbarduno gweithredu ar lawr gwlad i fynd i’r afael â newid hinsawdd..

     

    Cwblhawyd 11 o brosiectau datgarboneiddio yn 2022/23. Cwblhawyd 6 phrosiect yn 2021/22. Roedd y prosiectau a gwblhawyd yn 2022/23 yn cynnwys:

    • Tŷ Clwb Cymunedol Solfach – gosod paneli PV ar adeilad y clwb.
    • Marloes a Phentref Sain Ffraid – gosod system batri i ategu paneli PV.
    • Cymdeithas Gymunedol a Chwaraeon Arberth a’r Cylch (Tŷ Bloomfield) – gosod paneli PV.
    • Pwyllgor Pentref Ludchurch – gosod batris ar gyfer storio solar PV a sicrhau defnydd effeithlon o ynni a gynhyrchir trwy’r dydd.
    • Canolfan Gymunedol Hubberston a Hakin – gosod batris i elwa o’r trydan solar a gynhyrchir, yn enwedig gyda’r nos pan ddefnyddir y ganolfan yn rheolaidd.
    • Neuadd Bentref Llandyfái – gosod batri storio gwres i’w ddefnyddio gyda phaneli solar presennol.
    • Clwb Rygbi Tenby Unedig – gosod biniau ailgylchu a gorsafoedd casglu sbwriel ym mhob un o’r cyfleusterau chwaraeon yn y dref i leihau gwastraff a chynyddu ailgylchu.
    • Awel Aman Tawe – rhaglen addysgol arloesol sy’n lledaenu’r neges ar newid yn yr hinsawdd mewn ffordd arloesol, atyniadol a chreadigol. Gweithio gyda 6 ysgol gynradd leol.
    • Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Pater– cwblhau prosiect lleihau carbon, gan gynyddu inswleiddio mewn adeilad cymunedol.
    • Ecodewi – prosiect datgarboneiddio dan arweiniad y gymuned wedi’i gwblhau, gan godi ymwybyddiaeth gymunedol a gweithredu i newid ymddygiadau, datgarboneiddio a storio carbon yn Nhyddewi.
    • Cydnerthedd Cymunedol Fynnone Gogledd-ddwyrain Sir Benfro – cwblhawyd brosiect peilot hau i’w dyfu. Ehangu’r gofod tyfu ar 2 safle yng Nghilgerran a Blaenffos, cynnal cyrsiau tyfu bwyd a diwrnod lles cymunedol.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy nid yn unig yn cefnogi lleihau allyriadau carbon i grwpiau cymunedol sy’n darparu cyfleusterau cymunedol ond hefyd yn helpu i leihau eu costau ynni yn ystod yr argyfwng costau byw. Dywedodd Canolfan Gymunedol Hubberston a Hakin bod gosod y batri eisoes wedi lleihau 45% ar eu costau cyfleustodau.

     


    Gwyrddu Amaethyddiaeth

    [Dyletswydd Adran 6]

    Sicrhawyd cyllid drwy Grant Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i gyflawni ail gam y cynllun peilot Gwyrddu Amaethyddiaeth. Nod y prosiect hwn yw gweithio gyda’r sector amaeth i gefnogi gweithgareddau datgarboneiddio a dal a storio carbon. Cafodd 2 brosiect ynni adnewyddadwy, 1 prosiect cynaeafu dŵr glaw a 3 prosiect storio carbon / seiclo eu cymeradwyo yn ystod y cam cyntaf.

    Cafodd telerau’r Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy eu newid yng nghyfarfod yr Awdurdod Parc Cenedlaethol fis Hydref 2022 i gynnwys gwneud penderfyniadau ar gyfer y cynllun peilot Gwyrddu Amaethyddiaeth, i sicrhau llywodraethu da a bod yn dryloyw.

    Roedd y Pwyllgor wedi cymeradwyo pedwar prosiect newydd yn 2022/23 i’w hariannu drwy’r peilot. Gan gynnwys:

    • Gosod system oeri adfer gwres a phaneli rheoli digidol ar gyfer y tanc dŵr.
    • Gosod storfa batri 50kwh.
    • Gosod pwmp gwactod, peiriant oeri plât banc dwbl, a system adfer gwres.
    • Gosod system adfer gwres a phwmp gwactod cyflymder amrywiol.

    Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

    Cwblhawyd y gwaith o osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan i greu rhwydwaith ar draws y sir yn gyfan yn 2022/23. Mae’r rhwydwaith wedi’i chynllunio i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ar draws Sir Benfro i fynd i’r afael ag anghenion gwefru cerbydau trydan y trigolion, ymwelwyr, ac i gefnogi ac annog y newid i gerbydau trydan. Mae lleoliadau gwefru cyflym wedi’u dewis i fod yn “hybs” cyrchfannau i ymwelwyr, ac maent wedi’u lleoli yn agos i’r rhwydwaith cefnffyrdd a’r prif derfynfeydd fferi yn Sir Benfro. Mae’r un unedau gwefru â Chyngor Sir Penfro wedi’u gosod i sicrhau dull cydgysylltiedig a darpariaeth ddi-dor ar draws y sir. Roedd angen datrys rhai mân broblemau a materion ‘swyddfa gefn’ ynghylch taliadau am y cyflenwad trydan.

    Defnyddiwyd pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio APCAP 6,634 o weithiau (118,944 Kwh) yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 1,322 (22,046 Kwh) yn 2021/22. Gwefrydd Dôl y Bragdy, Saundersfoot oedd y mwyaf poblogaidd yn cael ei ddefnyddio 1,829 o weithiau, ac yna pencadlys Parc Llanion, Doc Penfro yn cael ei ddefnyddio 785 o weithiau. A’r amser cyfartalog a gymerir i wefru oedd 1.47 awr.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Roedd gwaith partneriaeth APCAP a Chyngor Sir Penfro ar ddatblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws Sir Benfro a’r Parc yn golygu bod Sir Benfro, o’r 1af o Orffennaf 2023, yn dal i fod yn rhif 1 yng Nghymru o ran y nifer o bwyntiau gwefru cerbydau trydan batri oedd ar gael fesul pen o’r boblogaeth. Mae Sir Benfro hefyd yn yr 20% uchaf ledled y DU. Mae hyn i’w weld yn y map a ganlyn gan yr Adran Drafnidiaeth.

     


    Ymgysylltu

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Cafwyd 522 o gyflwyniadau yn 2022/23 gan y prosiect ffotograffiaeth o’r arfordir sy’n newid, lle mae aelodau’r cyhoedd yn anfon lluniau o bostiadau ffotograffiaeth pwynt sefydlog a’u rhannu ag APCAP i gofnodi newidiadau yn y dirwedd. Roedd hyn yn cymharu â 486 yn 2021/22 ac yn dangos poblogrwydd parhaus y prosiect hwn gydag aelodau o’r cyhoedd sy’n cerdded yn y Parc.

    Roedd 4,736 o gyfranogwyr mewn digwyddiadau a gweithgareddau cyhoeddus – yn canolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio a chynaliadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys cynnal Diwrnod Byw’n Gynaliadwy yng Nghastell Henllys a digwyddiad Tywyn yng Nghaeriw. Roedd Tywyn yn brofiad o oleuadau Nadolig a ddyluniwyd â phwyslais ar ddefnydd ynni isel, drwy ddefnyddio tua 85% yn llai o ynni na goleuadau ffilament traddodiadol. Roedd ymwelwyr hefyd yn gallu pweru rhai o’r addurniadau yn yr Ardd Furiog eu hunain, drwy neidio ar gefn beic i gynhyrchu ynni drwy bedlo.

    Cyfrannodd 122.5 o ddiwrnodau gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol at weithgareddau glanhau traethau, blaendraeth ac afonydd yn 2022/23, o’i gymharu â 117 yn 2021/22.

    Roedd 645 o gyfranogwyr yn sesiynau rhaglen addysg APCAP a oedd yn canolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio a chynaliadwyedd.

    Roedd 5,055 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau rhaglen cymunedol ac ymgysylltu allgymorth yn canolbwyntio ar Newid Hinsawdd/Datgarboneiddio.


    Plannu Coed Cymunedol

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Roedd 1,182 o Goed / Coed Ifanc wedi’u plannu drwy’r prosiect Plannu Coed Cymunedol 70@70 gyda’r Cynghorau Cymuned, Tref a Dinas. Mae 37% o Gynghorau Cymuned, Tref a Dinas wedi cymryd rhan mewn Prosiect Plannu Coed Cymunedol hyd yn hyn, gyda 18 o gymunedau yn cynnal prosiectau plannu coed yn ystod 2022/23. Ymhlith y gweithgareddau plannu coed cymunedol oedd y canlynol:

    • Plannu coed afalau, gwifwrnwydden y gors a’r griafolen ar ochr y ffordd yn Nhrewyddel.
    • Plannu amrywiaeth o goed ffrwythau i greu perllan fach yng Nghae Chwaraeon Cymunedol Llawhaden.
    • Plannu coed ffrwythau ac aeron ym Mynwent Eglwys Castell Gwalchmai.
    • Plannu 30 o goed ar hyd ffin cae chwarae Ysgol Maenclochog ac amrywiaeth o goed yn y mannau agored ym mhentref Maenclochog .
    • Plannu gwrych a choeden afalau newydd yn ardal chwarae Trefin.
    • Plannu clawdd ger y comin ar Fynydd Sutton.
    • Adfywiogi clawdd ger Neuadd Bentref Nanhyfer.
    • Plannu amrywiol goed gan gynnwys coed afalau surion ac afalau bwyta yng Nghae Capel Cas-lai.
    • Prosiectau plannu yng Ngardd Gymunedol Cilgeti, o gwmpas Hostel Ieuenctid Maenorbŷr, Maes Chwaraeon Saundersfoot ac ardal chwarae Angle lle plannwyd cymysgedd o goed brodorol i greu perthi a choedlannau mewn mannau cymunedol.
    • Roedd cymunedau Amroth, Martletwy, Uzmaston a Boulston a Chaeriw wedi dosbarthu eu coed coffa i aelodau o’r gymuned i’w cymryd a’u plannu eu hunain.

     
    Mae’r coed afalau a ddarparwyd i gymunedau wedi bod yn fathau a dyfwyd yn lleol ac sy’n gweddu i’r hinsawdd yn Sir Benfro.

    Cyfrannodd 355.5 o ddiwrnodau gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol at weithgareddau Plannu Coed yn 2022/23 o’i gymharu â 246.5 yn 2022/23.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Parhaodd gwirfoddolwyr APCAP i gymryd rhan a chefnogi cynllun blaengar Partneriaeth Natur Sir Benfro o blannu coed, cynllun sydd wedi bod yn rhedeg ers 2019/20. Daeth bydwraig leol at y bartneriaeth ar ôl cael ei hysbrydoli gan gynllun Plant! Llywodraeth Cymru, sy’n plannu coeden am bob plentyn a enir yng Nghymru. Mae’r prosiect yn golygu bod cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat ac unigolion yn cydweithio i blannu 1,300 o goed bob blwyddyn i gynrychioli nifer y babanod sy’n cael eu geni yn Sir Benfro. O’r tymor plannu 2022/23, mae 6,560 o goed newydd wedi’u plannu o dan y prosiect, gan ddefnyddio 775 o oriau gwirfoddoli. Yn ogystal â’r plannu coed, mae Archaeolegydd Cymunedol APCAP wedi defnyddio’r safle i hyfforddi gwirfoddolwyr i arolygu a gwneud gwaith cynnal a chadw ar Henebion Cofrestredig, gan olygu nad yw’r Heneb Gofrestredig ar y safle bellach ar gofrestr Cadw o henebion sydd mewn perygl.

     


    Canllaw ar Leoli Coed a Choetiroedd

    [Dyletswydd Adran 6]

    Mae’r Awdurdod wedi bod yn datblygu canllawiau cynllunio atodol ar Goed a Choetiroedd. Bydd y canllawiau hyn yn helpu i sicrhau bod gweithgareddau ehangach ar ddal a storio carbon yn seiliedig ar blannu coed yn y Parc yn briodol ac yn cymryd i ystyriaeth y goeden iawn yn y lle iawn. Yn ystod y flwyddyn cymeradwyodd yr Aelodau i’r canllaw atodol hwn fynd allan ar gyfer ymgynghori, a daw’r ymgynghori i ben fis Mai 2023.


    Gweithgareddau mawndir

    [Dyletswydd Adran 6]

    Mae’r mawndiroedd yn chwarae rhan bwysig o ran dal a storio carbon. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn rhan o brosiect partneriaeth LIFEquake, a sicrhaodd yr Awdurdod grant ar wahân o £20,000 a mwy oddi wrth CNC ar gyfer gwaith ychwanegol ar adfer mawndiroedd dros fisoedd y gaeaf. Ymhlith y gweithgareddau a gynhaliwyd eleni mae’r canlynol:

    • Defnyddiwyd coleri Dim Ffens, a brynwyd gyda chyllid gan Gwyrddu Amaethyddiaeth, ar Weunydd SoDdGA Blaencleddau, Mynachlog-ddu. Mae gwartheg Rhuddgoch yn gwisgo’r coleri ar ddarn o dir caeedig ac ar y comin cyfagos (Waun Cleddau), gan fod ardaloedd corsiog dwfn yn y ddau safle lle bu’n rhaid winsio gwartheg allan o’r gors ar ôl iddynt grwydro yno. Mae’r ap Dim Ffens yn caniatáu i’r ardaloedd hyn gael eu heithrio o’r uned bori, gan gadw’r gwartheg yn ddiogel. Nid oedd y naill safle na’r llall wedi cael ei bori ers blynyddoedd oherwydd y peryglon i dda byw.
    • Yn Rhydiau, mae pori wedi’i gyflwyno am y tro cyntaf ers bron i 20 mlynedd gan fod y safle bellach yn ddiogel i’r stoc. Defnyddir geifr i reoli’r helyg a’r mieri rhag aildyfu, sydd wedi bod yn llethu’r llystyfiant ar y mawndir ac yn raddol sychu’r safle.
    • Mae Atalfeydd Tân wedi’u torri ar y mawndir yn Rhos Hescwm, comin gerllaw Dinas. Mae gwirfoddolwyr wedi clirio’r coed a’r prysgwydd sy’n aildyfu ar y safle er mwyn helpu i atal y mawn rhag sychu ac ocsideiddio.
    • Mae rhododendron wedi’i drin â chwistrelliad coesyn ar SoDdGA Comin Trerhos.
    • Mae gwaith ffensio wedi’i wneud ar dir March Pres, Pont-faen, fel y gellir parhau i bori merlod. Hefyd cwblhawyd darn newydd o ffens ar Gomin Wern (y ddau yn ardal fawnog a thir comin) a Maes yr Wyn.

    Cydweithio a gwybod mwy

    Cynhaliwyd gweithdy i’r Aelodau i roi adborth ar ganfyddiadau Adroddiad Ymgynghori Small World ar yr asesiad o ôl troed carbon Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r llwybr arfaethedig i Sero Net.

    Roedd y staff wedi llenwi holiadur cymudo a mynychu gweithdy, gan gyfrannu at Brosiect Llywodraeth Cymru ar Newid Ymddygiad y Sector Cyhoeddus, a hwyluswyd gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

    Bu swyddogion APCAP yn rhan o’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Ymaddasu i Newid Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro. Cynhyrchwyd y strategaeth gan ymgynghorwyr ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro. Mae’r strategaeth wedi’i defnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu cynllun cyflawni APCAP ar ymaddasu i newid yn yr hinsawdd.

    Yn ystod y flwyddyn parhaodd swyddogion i fynychu cyfarfodydd panel Strategaeth Hinsawdd CLlLC.


    Trafnidiaeth Gynaliadwy

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Yn ystod y flwyddyn comisiynodd APCAP adroddiad ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth i glustnodi dulliau o reoli materion sy’n ymwneud â cherbydau hamdden. Mae hyn yn cynnwys cymryd i ystyriaeth bod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn cyrraedd mewn car neu gerbyd modur. Penodwyd yr ymgynghorwyr yn ystod 2022/23 ac mae’r gwaith hwn yn parhau.

    Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol yn 2022/23. Cynyddodd nifer y teithwyr ar ffigyrau 2021/22 ond nid ydynt wedi gwella i gyfanswm cyn y pandemig eto. Effeithiwyd ar rai gwasanaethau gan ddiffyg gyrwyr a dim ond gwasanaeth cyfyngedig iawn y gellid ei gynnig ar gyfer rhannau o dymor 2022.

    Graff yn dangos Ffigurau Bysiau Arfordirol ar gyfer Mai i Fedi yn dangos gostyngiad yn y niferoedd o 2018/29 i 2020/21 gyda chynnydd graddol i 2022/23.

    Yn ystod 2022/23 mae swyddogion wedi bod yn gweithio tuag at lansio Cynllun Llogi E-feiciau yn Oriel y Parc a ariennir drwy Y Pethau Pwysig. Mae’r prosiect wedi wynebu rhai heriau ac oedi oherwydd cymhlethdod datblygu cynllun o’r fath hon ac effaith proses ailstrwythuro. Mae’r gwaith yn parhau gyda disgwyl i’r cynllun gael ei lansio yn 2023/24.


    Gwydnwch Llwybr yr Arfordir – Cynyddu Cydnerthedd

    Parhaodd PCNPA i gynnal gweithgareddau i gynyddu gwytnwch llwybrau ac i ymateb i effaith erydiad arfordirol a chylchoedd tywydd gwael a stormydd arnynt. Yn ystod 2022/23:

    • Cyflogwyd peirianwyr ymgynghorol i baratoi cynlluniau ar wal gynnal Llwybr yr Arfordir yn Angle a’r groesfan llanw yn y Gann, Dale.
    • Bu’r contractwr yn gwneud gwaith atgyweirio brys ar groesfan Sandy Haven.
    • Disodlwyd dwy bont droed â strwythurau mwy cydnerth a gwydn i wrthsefyll llifogydd.
    • Aethpwyd ati i wneud gwaith sylweddol i ddargyfeirio Llwybr yr Arfordir ym Mhorth-y-raw, Solfach ar ôl cael caniatâd gan Cadw a Gorchymyn Gwyro Llwybr Cyhoeddus. Roedd yn ofynnol dargyfeirio gan fod llwybr presennol Llwybr yr Arfordir mewn perygl gan fod y glogwyn yn ansefydlog ac yn erydu. Bydd y llwybr newydd yn sicrhau parhad hirdymor Llwybr yr Arfordir ar dir sefydlog.

     

     


    Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cysylltiad

    Ein Amcan Llesiant Cysylltiad: Creu Parc sy’n wasanaeth iechyd naturiol sy’n cefnogi pobl i fod yn fwy iach, yn fwy hapus ac yn fwy cysylltiedig â’r dirwedd, natur a threftadaeth.


    Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

    Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

    • Mae pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywyd mwy egnïol yn gorfforol drwy gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol, drwy hyrwyddo cyfleoedd hamdden awyr agored cynaliadwy.
    • Cefnogir pobl i roi gwybod bod cael mynediad i’r Parc Cenedlaethol wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.
    • Mae APCAP wedi helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau all gael effaith ar bobl o gefndiroedd amrywiol neu sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol rhag cysylltu â chyfleoedd natur a threftadaeth yn y Parc lle bo hynny’n bosibl.
    • Rhoi cymorth i alluogi pobl o bob oed i ddatblygu dealltwriaeth o’r Parc Cenedlaethol.
    • Mae’r seilwaith yn cael ei gynnal, gan gynnwys y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus, asedau treftadaeth a mannau mynediad i alluogi pobl i barhau i gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol a’i fwynhau.
    • Mae asedau hanesyddol yn y Parc Cenedlaethol yn cael eu gwarchod a’u gwerthfawrogi

     

    Bydd cefnogi pobl i fanteisio ar y buddion llesiant yn gorfforol ac yn feddyliol o fod yn yr awyr agored ac ymgysylltu â natur a threftadaeth, yn cyfrannu at Gymru iachach a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Bydd chwalu’r rhwystrau i gynorthwyo ystod fwy amrywiol o bobl i weithredu dros natur a threftadaeth neu i gael profiad o’r Parc, yn cefnogi Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru gydnerth. Cyfrannu at Ddangosyddion Cenedlaethol Cymru ar:

    • Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach
    • Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli
    • Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
    • Y ganran o’r bobl sy’n unig
    • Y ganran o’r bobl sy’n bresennol neu’n cyfranogi mewn
    • gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn
    • Y ganran o asedau dynodedig yr amgylchedd hanesyddol sydd mewn cyflwr sefydlog neu well
    • Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru

     

    Yn ystod y flwyddyn roedd ein gweithgareddau yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar ar iechyd a lles, gyfleoedd dysgu a mynediad i’r awyr agored a threftadaeth:


    Trosolwg Cysylltiad 2022/23

    Newid Sefydliadol

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Mae proses newid sefydliadol APCAP wedi arwain at sefydlu Tîm Ymgysylltu a Chynhwysiant newydd, penodi Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant newydd ac yn ystod y flwyddyn dechreuodd ddatblygu nifer o gynlluniau cyflawni a fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni yn y maes hwn. Bydd hyn yn darparu cyfleoedd pellach i ymateb i argymhellion a wnaed yn yr adroddiad Profiadau i Bawb. Cafodd gweithgareddau iechyd, llesiant a chynhwysiant yr Awdurdod eleni lefelau cadarnhaol o ymgysylltu gan ddangos adferiad da o effeithiau blaenorol Covid 19. Mae hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol.


    Cerdded â Chymorth

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Roedd 3,067 o gyfranogwyr mewn gweithgareddau cerdded â chymorth, gan gynnwys sesiynau Walkability, Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru (Sir Benfro) a Crwydryn Lles gwyllt yn 2022/23, o’i gymharu â 1,578 yn 2021/22. Roedd y rhain yn cynnwys:

    • Teithiau cerdded Dros Iechyd Gorllewin Cymru
    • Teithiau cerdded agored
    • Teithiau cerdded lles cefnogol ar gyfer Dementia
    • Teithiau cerdded atgyfeirio ymarfer corff, gan gynnwys cleifion cardiaidd
    • Sesiynau gydag Oriel VC ac Gwerthfawrogi Annibyniaeth
    • Sesiynau gyda MIND Sir Benfro yn gysylltiedig â’n Prosiect Gwreiddiau i Adferiad

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Mae Wild Well-being Wanderers yn grŵp a sefydlwyd i fod mor gynhwysol i gynifer o ddefnyddwyr â phosibl, gan gynnig cyfleoedd i brofi a rhoi cynnig ar lwybrau cerdded i bobl sydd ag anghenion symudedd a hygyrchedd gwahanol. Cynhaliwyd 3 digwyddiad ymgynghori i ddechrau gyda gweithwyr proffesiynol a darpar gyfranogwyr, a gofynnwyd iddynt sut ellir gwneud teithiau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn fwy hygyrch. Un o’r prif themâu yn yr adborth oedd gwybod ble i fynd a chael gwybodaeth fanwl am y daith gerdded. Dyma’r thema oedd hefyd yn amlwg yn adroddiad Profiad i Bawb APCAP, gyda’r gweithgaredd cerdded yn uchel ar y rhestr o’r ‘gweithgaredd a ffefrir’, ond cafodd materion yn ymwneud â hygyrchedd a ‘gwybod ble i fynd’ eu clustnodi fel rhwystrau i rai ynghyd â chost parcio ceir a diffyg cyfleusterau toiledau.

    Mae’r prosiect hwn wedi ceisio creu atebion i rai o’r rhwystrau hyn. Yn dilyn arweiniad gan yr adroddiad ‘Cefn Gwlad i Bawb’ gan Ymddiriedolaeth Fieldfare, cysylltodd y swyddog Dewch i Gerdded â Gwerth Annibyniaeth i ofyn a fyddent yn dymuno bod yn rhan o weithgor i dreialu cyfleoedd cerdded hygyrch. Mae Gwerth Annibyniaeth yn cynnig gwasanaethau dydd yn lleol i ddemograffeg eang o bobl sydd ag anableddau, felly o fewn un grŵp gallwn gael adborth amrywiol ar sut y gallwn wneud yn well, gan wneud y grŵp yn bartner delfrydol ar gyfer y prosiect hwn. Hefyd mae’n hanfodol cynnwys pobl sydd ag anableddau yn y gwaith hwn i sicrhau mai eu barn hwy sy’n llywio’r gwaith o ddatblygu’r gweithgarwch yn y maes hwn.

    Penderfynwyd dewis Coedwig Canaston fel y safle i gynnal grŵp cerdded misol gan fod y lleoliad yn weddol ganolog. Hefyd roedd y gwaith a wnaed gan Sustrans a CNC (sef ymgynghorai a sefydliad sy’n gefnogol i ddatblygu’r prosiect hwn) i wella’r llwybrau yn yr ardal hon, ynghyd â pharcio am ddim hefyd yn ei wneud yn lleoliad delfrydol. Roedd y posibilrwydd o gael llwybrau oedd yn addas i wahanol alluoedd cerdded hefyd yn golygu bod Coedwig Canaston yn lleoliad delfrydol ar gyfer rhaglen gerdded hygyrch. Roedd toiledau hefyd yn rhwystr ac rydym wedi prynu toiled symudol i’r anabl ynghyd â phabell i’w defnyddio ar y safle. Roedd offer i allu mynd ar deithiau cerdded hefyd yn rhwystr felly rydym yn darparu treic mynydd, ffon gerdded a ‘chymorth cerdded’ sy’n troi’n gadair olwyn. Hefyd mae gennym ddewis o esgidiau glaw a phonsios i’w gwisgo mewn tywydd gwlyb.

    Cyflwynwyd rhaglen o deithiau cerdded gan y swyddog Dewch i Gerdded gyda chymorth cydweithwyr yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol o grwpiau rhanddeiliaid.

    Rydym yn hyfforddi pob cyfranogwr Wild Wellbeing Wanderers mewn mordwyo. Bydd hyn yn galluogi’r staff (megis staff Gwerth Annibyniaeth) i ddefnyddio ein teithiau gwe i hwyluso defnyddwyr y gwasanaeth yn annibynnol i mewn i’r Parc Cenedlaethol drwy ddefnyddio ein teithiau gwe.

    Yn ystod ein sesiynau mae gennym ddeialog agored am y modd y gallwn ni helpu ymhellach i wneud pethau’n fwy hygyrch i gyfranogwyr y grŵp ac ar gyfer anableddau eraill, hynny yw, cyfranogwyr dall neu rannol ddall.

    Mae’r adborth yn hynod gadarnhaol, gyda’r staff a’r cyfranogwyr yn dweud gymaint y mae hyn yn gymorth i’w hiechyd meddwl, a’u bod yn edrych ymlaen at y sesiwn bob mis. Mae un o’n cyfranogwyr heb erioed o’r blaen wedi gallu cael mynediad i goetiroedd fel y gwnaeth yn ystod ein sesiynau oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus i’r ardaloedd hyn. Mae hyn hefyd wedi ysbrydoli’r staff a’r cyfranogwyr i ail-ymweld â’r ardal gyda’u teuluoedd.

     

    2022/23 oedd blwyddyn olaf cymorth ariannol Iechyd a Lles ar gyfer prosiect partneriaeth Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru. Ochr yn ochr â chyflwyno’r rhaglen gerdded ar draws ardaloedd partneriaeth Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, cynhaliwyd gweithgareddau gwerthuso ehangach i lywio effaith a chamau nesaf y prosiect. Ym mis Ebrill 2023/24, mae’r prosiect yn dechrau cyfnod o 9 mis o gyllid drwy gronfa gymunedol gydnerth CNC.

    Cafodd 183 o deithiau cerdded â chymorth eu harwain neu eu cefnogi gan arweinwyr gweithgareddau gwirfoddol.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Mae’r swyddog Cerdded er Lles Gorllewin Cymru/ Dewch i Gerdded wedi gweithio gydag Oriel VC i hyfforddi aelod o staff i gynnal teithiau cerdded lefel isel a hwylusir ar y cyd yn ardal Hwlffordd i’r rhai â symudedd cyfyngedig. Roedd dau o’r rhai a gymerodd ran yn y teithiau cerdded grŵp yn dymuno bod yn arweinwyr cerdded gwirfoddol yn dilyn eu profiad gyda’r grŵp. Roedd un ohonynt yn defnyddio cadair olwyn ac yn defnyddio ein treic mynydd ar gyfer gwirfoddoli, ac mae’r ddau yn gyn-filwyr. Fel arweinwyr teithiau cerdded gwirfoddol maent bellach yn cynorthwyo gyda’n grŵp cerdded Wild Wellbeing Wanderers a’r grwpiau Dewch i Gerdded. Mae’r ddau yn dweud gymaint y mae’r teithiau cerdded hyn a gwirfoddoli wedi bod o fudd iddynt. Mae Oriel VC bellach yn cynnal teithiau cerdded wythnosol ar gyfer Cerdded er Lles Gorllewin Cymru, gyda chydlynydd y prosiect ond yn rhoi mewnbwn cyfyngedig.

     


    Cynllun Symudedd Awyr Agored

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Parhaodd APCAP i wella mynediad i draethau arobryn Sir Benfro a mannau awyr agored eraill trwy ddarparu ystod o offer symudedd gan gynnwys cadeiriau olwyn traeth. Yn ystod y flwyddyn ehangodd yr Awdurdod yr ystod o offer sydd ar gael gan ddefnyddio cyllid o gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru. Mae’r offer ar gael i’w llogi am ddim o wahanol leoliadau o amgylch yr arfordir neu’n uniongyrchol gan yr Awdurdod. Mae’r rhan fwyaf o’r offer ar gael i’w llogi o leoliadau poblogaidd ger yr arfordir diolch i’r busnesau lleol sydd wedi cytuno’n garedig i ddod yn westeion.

    Mae ystod yr Awdurdod o offer symudedd wedi’i ddylunio a’i weithgynhyrchu yn arbennig i’w ddefnyddio ar draethau tywodlyd a phob math o dir awyr agored, gan gynnwys offer sy’n addas ar gyfer plant yn ogystal ag oedolion.

    Roedd 399 o archebion ar gyfer cadeiriau olwyn traeth ac offer symudedd yr Awdurdod yn 2022/23. Nid yw hyn yn cynnwys archebion ychwanegol ar gyfer sgwteri symudedd yng nghanolfannau’r Awdurdod.

    Cafodd y Prosiect Symudedd Awyr Agored hefyd ei hyrwyddo ar-lein, diolch i animeiddiad a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Bournemouth ar gyfer gŵyl gêm gyfrifiadurol ac animeiddio fwyaf BFX UK. Mae’r animeiddiad yn cynnwys y math o gadeiriau olwyn traeth sydd wedi’u dylunio’n arbennig ac sydd ar gael i’w llogi mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas Arfordir Penfro.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Mae tîm parcmyn yr Awdurdod yn cefnogi Ysgol Preseli i gyflwyno disgyblion newydd i’r ardal leol a Bryniau Preseli drwy ei theithiau cerdded Cwrs Croeso. Eleni roedd gan un disgybl broblemau symudedd, a threfnodd staff APCAP i’r gadair olwyn treic mynydd fod ar gael er mwyn iddo allu cymryd rhan.

     


    Gweithgareddau Cynhwysiant Cymdeithasol ac Allgymorth

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Ymgysylltwyd â 7,168 o gyfranogwyr trwy ein gweithgareddau/sesiynau cynhwysiant cymdeithasol ac allgymorth yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 3,111 yn 2021/22 ac mae’n uwch na’r lefelau cyn y pandemig. Mae’r cynnydd hwn o 130% yn adlewyrchu’r cynnydd mewn cerdded â chymorth, Gwreiddiau i Adferiad a sesiynau blynyddoedd cynnar a sesiynau Llwybrau parhaus.

    Nod y prosiect Gwreiddiau i Adferiad yw gwella iechyd meddwl a lles corfforol trwy roi mynediad unigolion i’r Parc Cenedlaethol a darparu sesiynau sgiliau ymarferol. Cyflwynir Gwreiddiau i Adferiad mewn partneriaeth gan APCAP a Mind Sir Benfro ac fe’i cefnogir trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan fis Medi 2024. Mae’r prosiect wedi cyflawni:

    Lansiad llwyddiannus o leoliadau Hwb Gwreiddiau i Adferiad yn Hwlffordd, Penfro ac Abergwaun. Gyda sesiynau rheolaidd yn cael eu cynnal ar draws yr holl ganolfannau.

    • Adnewyddu Gardd Mind Sir Benfro a chynhyrchu a gofal yn rhandir Gwreiddiau i Adferiad Llwynhelyg.
    • Tasgau gwirfoddoli ymarferol ac amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch, yn hwyl ac weithiau’n ymlaciol, gyda’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd.
    • Mae’r prosiect yn cynnwys mentoriaid sy’n cefnogi cyfranogwyr a gweithgareddau eraill sy’n digwydd o’r hybiau. Mae’r prosiect wedi bod yn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i fentoriaid gan gynnwys cyrsiau cymorth cyntaf, diogelu a bysiau mini.
    • Nod y prosiect yw cael ei arwain gan bobl ac mae gan y prosiect grŵp ‘cyfoedion i gyfoedion’, y mae’r aelodau’n cyfrannu at ddatblygu a rheoli’r prosiect drwy’r grŵp llywio.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Mae profiadau ac effaith gadarnhaol y prosiect ac ar gyfranogwyr yn cael eu dal ar dudalen Facebook Gwreiddiau i Adferiad – Mind Sir Benfro

     

    Parhaodd APCAP i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli â chymorth yn y Parc a’r ardaloedd cyfagos drwy ein prosiect Llwybrau. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i gael gwared ar rai o’r rhwystrau sy’n wynebu pobl sydd am gymryd rhan mewn gwirfoddoli ymarferol a mynd allan i archwilio cefn gwlad lleol. Mae hyn yn cynnwys darparu cludiant minbws ar gyfer llawer o’i weithgareddau. Yn ystod y flwyddyn parhaodd gwirfoddolwyr newydd i ymuno â’r grŵp a chymerodd cyfranogwyr ran mewn amrywiaeth o weithgareddau gwirfoddoli ymarferol gan gynnwys

    • Gosod gris newydd a gwell arwyneb a draeniad yng Nghoedwig Mynwar.
    • Gosod rhodfa sliperi rheilffordd dwbl ar lwybr troed ger Pointzcastle. Gwaith heriol oedd yn gofyn am waith tîm i gludo a lleoli’r sliperi trwm yn ddiogel.
    • Dau brosiect ffensio fel y gellir pori’r safleoedd ar gyfer cadwraeth, adeiladu giât a grisiau.
    • Cywain gwair ym Mynwent Dinbych-y-pysgod.
    • Casglu sbwriel o’r safle tân yn Pinch Hill y tu ôl i Draeth Niwgwl lle cafodd trelar llawn o boteli gwydr a chaniau tun eu casglu o’r lludw gan y Tîm Llwybrau a Wardeniaid Gwirfoddol.
    • Rheoli coetir a thocio coed ar un o’n safleoedd cadwraeth ger Jeffreyston.
    • Plygu perthi o gwmpas depo Llwynhelyg ac yn Ysgol Cas- mael.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Cynhaliwyd sesiwn werthuso ar gyfer gwirfoddolwyr Llwybrau gyda’r cyfle i fyfyrio ar eu profiad a dathlu eu cyflawniadau. Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol gyda chyfranogwyr yn darparu sgôr uchel ar gyfer cynwysoldeb ac agwedd gymdeithasol grŵp Llwybrau. Roedd hyn yn fudd annisgwyl i’r grŵp i rai ac roedden nhw’n teimlo eu bod wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi bod o fudd i’w lles. Roedd gwirfoddolwyr hefyd yn gwerthfawrogi’r amrywiaeth o dasgau a chyfleoedd a’r sgiliau newydd yr oeddent wedi’u meithrin oherwydd eu gwirfoddoli.

     

    Ymgysylltwyd â 1,338 o gyfranogwyr drwy ein gweithgareddau cynhwysiant cymdeithasol ac allgymorth gyda phobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau’r Genhedlaeth Nesaf yn cynnwys Ceidwaid Ieuenctid a’r Pwyllgor Ieuenctid, sesiynau ymarferol Gwobr Dug Caeredin a gweithgareddau gyda Chlwb Ieuenctid Point yn Abergwaun.

    Roedd 590 o gyfranogwyr yn y sesiynau blynyddoedd cynnar/cyn ysgol yn 2022/23. Roedd y rhan fwyaf o’r sesiynau hyn yn ymwneud â’r prosiect 1000 diwrnod cyntaf. Fodd bynnag, mae’r ffigur hefyd yn cynnwys taith gerdded natur a hwylusir gan staff Castell Henllys ar gyfer Can i Blant Penfro,

    Nod prosiect y 1,000 diwrnod cyntaf yw gweithio mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau lleol i greu a threialu cyfleoedd newydd, ystyrlon i blant cyn oed ysgol, eu rhieni, a gofalwyr i chwarae ym myd natur a dysgu am yr awyr agored. Cefnogir y gwaith hwn gan Dîm Blynyddoedd Cynnar Cyngor Sir Penfro. Gan weithio gyda lleoliadau a meithrinfeydd Dechrau’n Deg ar draws Sir Benfro, mae’r prosiect yn canolbwyntio’n benodol ar ardaloedd yn Sir Benfro lle mae amddifadedd gwledig a threfol. Mae’r sesiynau yn aml yn cynnwys dangos enghreifftiau o weithgareddau awyr agored o fewn ac o gwmpas safle’r feithrinfa, a gallant gynnwys mynd ati i archwilio’r ardal leol o fewn pellter cerdded rhesymol i bob meithrinfa. Hefyd mae’r prosiect yn datblygu adnoddau (cardiau gweithgaredd a mapiau cymdogaeth) gyda’r bwriad o gefnogi meithrinfeydd a rhieni/ gofalwyr plant cyn oed ysgol i archwilio a threulio mwy o amser mewn mannau awyr agored. Fis Hydref roedd y prosiect wedi rhoi cyfle i 3 lleoliad meithrin yn Aberdaugleddau anfon plant i Berllan Sant Ffraid am fore o weithgareddau awyr agored ysbrydoledig.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd gweithgaredd â ffocws ar ymgysylltu â rhieni a phlant cyn ysgol yn Noc Penfro/ Penfro, drwy weithio gyda Dechrau’n Deg Sir Benfro. Recriwtiwyd rhieni drwy’r meithrinfeydd lleol gan gynnwys Dechrau’n Deg, Sir Benfro. Cyflwynwyd ystod o sesiynau fel rhan o raglen y prosiect (gyda’r sesiynau wedi’u lleoli i ddechrau yn Oriel VC yn Noc Penfro ac sydd bellach wedi’u lleoli yn Nhŷ’r Ffowndri, Penfro). Cafodd y cyfranogwyr gyfle i archwilio mannau agored lleol gan gynnwys Gerddi Cymunedol y Tabernacl, Coedydd Holyland, Comin Penfro, a Gerddi Muriog Ystagbwll a Gerddi Coetir Colby. Ymhlith y gweithgareddau oedd chwarae synhwyraidd drwy ddefnyddio blawd llif, pridd, tywod, hadau adar, swigod, peintio mwd, peintio mwyar duon, sialcio, chwarae dŵr, chwilio am drychfilod bach, plannu hadau, bomiau hadau a modelu clai.

    Hefyd roedd swyddog prosiect y 1,000 Diwrnod Cyntaf wedi mynychu cyfres o sesiynau agored i deuluoedd yn Noc Penfro, gan weithio ochr yn ochr â Phlant Dewi ar safle fferm 21G ger Ysgol Harri Tudur. Cyflwynwyd rhaglen o weithgareddau awyr agored i blant bach a’u rhieni.

     

    Roedd 2,233 o gyfranogwyr mewn digwyddiadau cyhoeddus wedi’u teilwra i wahanol anghenion yn 2022/23. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau tawel yng Nghastell Henllys, digwyddiad wedi’i deilwra ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yng Nghastellmartin, plant sy’n rheoli’r castell yng Nghaeriw, Parti Te Pen-blwydd yn 70 oed yng Nghoedwig Canaston, a gweithdai celf a chrefft mannau cynnes yn Oriel y Parc. Roedd 718 o gyfranogwyr mewn Clybiau a Gweithdai Celf  OYP yn 2022/23, o’i gymharu â 163 yn 2021/22.


    Gwirfoddolwyr

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Cyfrannodd gwirfoddolwyr 2,847 o ddiwrnodau gwirfoddoli yn 2022/23, roedd hyn o’i gymharu â 2,294 yn 2021/22 ar draws ystod o gyfleoedd mynediad, cadwraeth, treftadaeth, llysgennad ymwelwyr, garddio, archaeoleg gymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli safle.

    Roedd 3,797 o gyfranogwyr mewn gweithgareddau gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol a oedd yn cynnwys gweithgarwch corfforol yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 2,650 yn 2021/22.

    Mynychodd 96 o wirfoddolwyr sesiynau hyfforddi gwirfoddolwyr a hwyluswyd gan yr Awdurdod yn 2022/23, sy’n cymharu â 290 yn 2021/22.  Mae’r Awdurdod wedi gweld gostyngiad yn nifer y cyfranogwyr mewn sesiynau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, mae cyfleoedd hyfforddiant gwirfoddoli yn tueddu i gael eu heffeithio gan brosiectau penodol sydd â chyllid ar gyfer hyfforddiant gwirfoddolwyr ac mae hyn yn achosi amrywiadau ar draws y blynyddoedd. Roedd yr hyfforddiant yn ystod y flwyddyn yn cynnwys hyfforddiant bws mini MiDAS, ymwybyddiaeth iechyd meddwl, daeareg a chod morol a monitro bywyd gwyllt.


    Rhwydweithiau a Chydweithio Iechyd

    Parhaodd APCAP i gefnogi’r gwaith o hwyluso Rhwydwaith Iechyd Seiliedig ar Natur Gorllewin Cymru, gyda’r grŵp yn parhau i fod yn weithgar ar lwyfan Basecamp. Sefydlwyd cyfarfodydd cychwynnol a phlatfform Basecamp ar gyfer y rhwydwaith Allan ac o Gwmpas (oedd â’r nod o adeiladu ar waddol Dewch i Gerdded Sir Benfro). Fodd bynnag, gohiriwyd y gwaith o ddatblygu’r rhwydwaith ymhellach yn dilyn ailstrwythuro a newidiadau personél. Bydd ymwneud â’r rhwydwaith hwn yn y dyfodol yn cael ei adolygu fel rhan o adolygiad ehangach o’r rhwydweithiau cysylltiedig ag iechyd yr ydym yn rhan ohonynt ac yn eu hwyluso. Bydd ymgysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol hefyd yn rhan o’r adolygiad.


    Addysg

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Roedd 8,395 o gyfranogwyr yn rhaglen addysg yr Awdurdod yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 8,143 yn 2021/22. Mae’r ffigur yn dangos adferiad o effaith y pandemig yn 2019/20 lle’r oedd y niferoedd yn 2,234, fodd bynnag, nid yw nifer y cyfranogwyr wedi dychwelyd i’r 10,000 a welwyd cyn y pandemig.  Roedd 6,819 o gyfranogwyr mewn sesiynau dysgu awyr agored yn 2022/23 mae hyn yn cymharu â 6,846 yn 2021/22.

    O ran y canolfannau, roedd gan Gastell Henllys 2,433 o gyfranogwyr yn ei raglen addysg yn 2022/23, ac roedd hyn o’i gymharu â 1,950 yn 2021/22. Cynnydd o 25%. Roedd y ganolfan yn parhau i ddenu ysgolion o’r tu allan i Sir Benfro. Roedd gan Gaeriw 1,351 o gyfranogwyr yn ei rhaglen addysg yn 2022/23, ac roedd hyn o’i gymharu â 595 yn 2021/22. Cynnydd o 127%.

    Mae Gwreiddiau/Roots yn brosiect partneriaeth a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, APCAP gyda chefnogaeth ariannol South Hook LNG. Mae’n darparu sesiynau dysgu awyr agored deniadol a’i nod yw meithrin gwell dealltwriaeth o gynhyrchu bwyd lleol a darparu cymorth i ddatblygu mannau awyr agored.

    Mae partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS), a gydlynir gan APCAP, yn rhwydwaith o sefydliadau arbenigol, penaethiaid ac ymgynghorwyr awdurdodau lleol. Nod y bartneriaeth yw cefnogi ysgolion i annog plant i ymgysylltu’n llawn â’u hamgylchedd lleol a magu hyder yn yr amgylchedd hwnnw. Yn ystod 2022/23 lansiwyd gwefan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro gydag amrywiaeth o adnoddau ac astudiaethau achos i gefnogi ysgolion gyda’u siwrneiau dysgu awyr agored.

    Ymhlith y gweithgareddau ysgol awyr agored a gefnogwyd gan y prosiect Gwreiddiau a chydlynydd PODS yn 2022/23 oedd:

    • Ymweliadau Blodau’r Berllan ac Afallen â Sain Ffraid ar gyfer ysgolion yng nghlwstwr Aberdaugleddau.
    • Ysgol nos Mwg a Rwg yn ysgol Neyland, i syllu ar y sêr, coginio ar dân agored, a golau llusern.
    • Ymweliad ysgol Johnston â Fferm East Hook am ddiwrnod o astudio dolydd a hwylusodd Springboard i ddatblygu llwybr pren hygyrch i ardal cylch tân yr ysgol.
    • Cyflwyno sesiynau Gwobr John Muir yn ysgol Gelliswick.
    • Diwrnod dathlu Ysgolion Awyr Agored ym Mharc Gwledig Maenor Scolton. Roedd 130 o blant o naw ysgol wahanol wedi mynychu.
    • Roedd cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro wedi cyfrannu at weithdy ar Newid Hinsawdd gydag Ysgol Gynradd Pennar fel rhan o’u mini COP 27.

     
    Parhaodd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro i gefnogi digwyddiadau hyfforddi athrawon, gan gynnwys:

    • Digwyddiad a gynhaliwyd yn Johnston gyda dros 60 o athrawon o Sir Benfro a De Cymru i arddangos yr ymarfer dysgu awyr agored ar safle’r ysgol.
    • Sesiwn hyfforddi a gynhelir gan Ysgol Gynradd Neyland yn edrych ar sut i ‘greu a rheoli pwll ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.
    • Sesiwn hyfforddi yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro ar ‘ddylunio tiroedd ysgolion ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.’
    • Sesiwn hyfforddi yng Nghastell Caeriw lle ymunodd athrawon â sesiwn gyfranogol yn edrych ar y Cwricwlwm newydd i Gymru a Dysgu yn yr Awyr Agored.
    • Sesiwn sgiliau byw yn y gwyllt i athrawon ym Maenor Scolton.
    • Gweithdy tiroedd ysgol yn Ysgol Gynradd Eglwys Loegr St Marks.
    • Hyfforddiant ‘Llongddrylliad’ mewn partneriaeth â thîm Addysg Cyfoeth Naturiol Cymru.

     
    Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer prosiect Addysg Tirweddau Dynodedig a ariennir drwy’r Gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy tan fis Mawrth 2025. Nod y prosiect yw creu set o adnoddau dysgu pwrpasol ar gyfer pob un o’r 8 Tirlun Dynodedig yng Nghymru. APCAP yw’r prif sefydliad wrth gyflawni’r prosiect. Mae Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro a thîm addysg CNC hefyd yn rhan o’r prosiect.


    Archaeoleg Gymunedol

    Parhaodd APCAP i gyflawni ei gynllun Diogelu Henebion Archeolegol, gan weithio gyda gwirfoddolwyr i fonitro a datblygu rhaglen waith sy’n canolbwyntio ar ein henebion sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae’r Archeolegydd Cymunedol hefyd yn ymwneud ag ymweliadau ar y cyd â gwirfoddolwyr fel rhan o raglen hyfforddi barhaus i’r gwirfoddolwyr. Yn 2022/23 fel rhan o’r cynllun, gwnaed 152 ymweliad â henebion gan wirfoddolwyr treftadaeth ac roedd 18 o henebion lle gwnaed gwaith gwella/cynnal a chadw. Cyfrannwyd 30 diwrnod gwirfoddol at fonitro treftadaeth gysylltiedig â gwirfoddolwyr yn 2022/23, o’i gymharu â 47.5 yn 2021/22.

    Parhaodd APCAP i gydweithio ac ymgysylltu â Heddlu Dyfed Powys, Cadw ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed drwy’r cynllun Gwarchod Treftadaeth, sy’n ceisio ymateb i achosion o droseddau treftadaeth yn y Parc. Gwyddys am 22 o droseddau treftadaeth yn ystod 2022/23. Yn ystod mis Mehefin, cynhaliodd yr Awdurdod, mewn cydweithrediad â gwirfoddolwyr treftadaeth a Heddlu Dyfed-Powys, dros 20 o batrolau i safleoedd mewn perygl yn ystod heuldro’r haf. Sefydlwyd gweithgor cyfathrebu yn ystod y flwyddyn i ganolbwyntio ar yr agwedd cyhoeddusrwydd a chyfathrebu o Gwarchod Treftadaeth. Yn ystod Ionawr 2023, cynhaliwyd ymweliad Gwarchod Treftadaeth rhwng yr Archaeolegydd Cymunedol a chydweithwyr o Heddlu Dyfed-Powys a Cadw â Phentre Ifan i edrych ar ddigwyddiad trosedd treftadaeth ar y safle. Hefyd roedd yr Awdurdod wedi cefnogi sesiwn hyfforddiant ar-lein ar gyfer timau plismona cymdogaeth yn Nyfed-Powys. Traddodwyd sgyrsiau ar droseddau treftadaeth ac ar y cynllun gwarchod treftadaeth gan y Parc Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, Cadw, ac Amgueddfa Cymru.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Mae gwybodaeth monitro a gyflwynir gan wirfoddolwyr fel rhan o’r cynllun Diogelu Henebion Archaeolegol yn gymorth i’r Archaeolegydd Cymunedol i ddatblygu rhaglenni gwaith ar gyfer gwella, a chynnal a chadw safleoedd. Mae’r prosiect hwn hefyd yn cefnogi’r fenter ehangach Gwarchod Treftadaeth, gyda digwyddiadau troseddau treftadaeth yn cael eu clustnodi gan wirfoddolwyr yn ystod ymweliadau monitro a chamau adferol yn cael eu rhoi ar waith lle bo modd.

    Cyflawnwyd gwaith cadwraeth, gan gynnwys gwaith ailgyfuno carnedd gron o’r oes efydd ar Foel Eryr gan un o’r parcmyn ardal a’r archaeolegydd cymunedol.

    Bu grŵp o wirfoddolwyr mewn partneriaeth â’r parcmon ardal a’r Archaeolegydd Cymunedol yn gwneud gwaith cadwraeth ar y safleoedd lle’r oedd ymwelwyr wedi tarfu arnynt, gan gynnwys Carnedd Gron Carn Briw PE544 a Gwersyll Carn Ingli PE011.

    Trefnwyd rhaglen waith ar gyfer Colomendy Maenorbŷr gan gynnwys clirio prysgwydd a gosod panel dehongli newydd.

    Bu’r Archaeolegydd Cymunedol a’r parcmon ardal yn gwaredu graffiti o Foel Drygarn. Gwaredwyd y graffiti yn rhannol o Furiau Tref Dinbych-y-pysgod.

    Cliriwyd pyllau tân o fewn yr odyn galch restredig gradd II yn Sain Ffraid gan yr archaeolegydd cymunedol mewn partneriaeth â’r tîm prosiect CHERISH.

    Yn ystod mis Gorffennaf, roedd ymweliad gwirfoddolwr treftadaeth â siambr gladdu wedi gweld tystiolaeth o dân gwersyll yn ardal fewnol yr heneb. Cyfeiriwyd y mater hwn at yr heddlu, rhoddwyd patrolau ychwanegol yn eu lle, a chynhaliwyd cyfarfod gyda’r tirfeddiannwr, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i drafod strategaeth lliniaru.

    Roedd gwirfoddolwyr treftadaeth wedi sylwi bod ymwelwyr wedi tarfu ar garnedd o’r Oes Efydd. Rhoddodd y gwirfoddolwyr y cerrig yn ôl yn y garnedd i rwystro mwy o ymddygiad o’r math hwn.

    Bu’r Archaeolegydd Cymunedol mewn partneriaeth â’r tîm parcmyn yn clirio prysgwydd gyda grŵp o wirfoddolwyr ar gaer bentir rhestredig yn y Gorllewin o’r enw Rhathlan Aberfelin.

    Mae’r Archeolegydd Cymunedol hefyd wedi bod yn defnyddio dronau i gynnal arolygon i gynhyrchu modelau 3D fel y gellir monitro materion dros amser.

     

    Parhaodd y gwaith yn ystod y flwyddyn ar baratoi deunydd esboniadol digidol. Roedd contractwyr wedi’u comisiynu i gynhyrchu cynnwys ar gyfer Foel Drygarn a’r Hen Gastell, ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed oedd yn gyfrifol am roi’r arbenigedd ar y safle i arwain yr ail-greu. Addaswyd y prosiect gyda chydweithrediad tîm prosiect CUPHAT gan na fu unrhyw ymateb i’r tendr cychwynnol. Mae digwyddiadau ymgysylltu cymunedol wedi’u cynnal i helpu i lywio’r gwaith datblygu, gan gynnwys sesiynau gydag Ysgol Bro Ingli. Yn ystod mis Ionawr, cafodd y panel dehongli newydd a’r panel cod QR eu gosod yng Nghaer Abergwaun.

    Mae Archeolegydd Cymunedol yr Awdurdod hefyd wedi cefnogi prosiectau cymunedol ehangach yn 2022/23 gan gynnwys:

    • Arweinir y gwaith cloddio yng nghaer bentir Porth-y-Rhaw gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed.
    • Cynhaliwyd taith gerdded dywysedig ar thema treftadaeth Sain Ffraid, a thaith gerdded thema archaeoleg Penrhyn Dewi ar y cyd â thîm prosiect CHERISH.
    • Darparu sgwrs yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod am archaeoleg yn y Parc Cenedlaethol.
    • Parhau i ymgysylltu â Chyngor Cymuned Nanhyfer a Phrifysgol Durham o ran Castell Nanhyfer, gan gynnwys llunio brîff ar gyfer gwaith cadwraeth ar y tŵr sgwâr.

     
    Roedd Arolwg LIDAR o’r Preseli yn wynebu nifer o heriau yn ystod y flwyddyn, gyda’r contractwr yn methu â chynnal arolygon o’r awyr mewn amserlenni y cytunwyd arnynt. Parhaodd y mater hwn ar ôl cytuno ar amserlen ddiwygiedig i’r gwaith gael ei gwblhau yn ystod gaeaf 2022/23. Erbyn diwedd mis Mawrth roedd y contractwr wedi cadarnhau bod y data lidar wedi’i gasglu’n llawn a’u bod yn gweithio ar brosesu’r data.

    Yn ystod mis Hydref, darparodd yr Awdurdod dair sesiwn hyfforddi i gefnogi gwirfoddolwyr i ddefnyddio, dadansoddi a chynnal arolygon maes mewn perthynas â’r data awyr. Arweiniwyd y sesiynau hyfforddi gan hwylusydd hyfforddiant gyda chefnogaeth gan yr Archeolegydd Cymunedol, staff eraill yr Awdurdod ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed fel rhan o’u prosiect CUPHAT. Roedd dau o’r sesiynau yn cynnwys gwirfoddolwyr APCAP ac roedd y sesiwn arall yn cynnwys myfyrwyr o Goleg Sir Benfro.


    Niferoedd a Phrofiad Ymwelwyr – Caeriw a Chastell Henllys

    Gwelodd Caeriw gynnydd o 27.6% mewn ymwelwyr o’i gymharu â 2021/22, gyda nifer yr ymwelwyr yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig. Gwelodd Castell Henllys gynnydd o 46.2% yn nifer yr ymwelwyr o’i gymharu â 2021/22, gyda nifer yr ymwelwyr yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.

    Graff tueddiad ar gyfer niferoedd ymwelwyr Caeriw a Chastell Henllys yn dangos gostyngiad o 2018/19 i 2020/21 gyda chynnydd i lefelau uwch na 2018/19 yn 2022/23.

    Cadwodd Caeriw a Chastell Henllys eu sgôr Trip Advisor (1-5) o 4.5 a sgôr Google Review (1-5) o 4.6.


    Digwyddiadau Cyhoeddus

    Roedd 33,830 o gyfranogwyr yn rhaglen digwyddiadau a gweithgareddau cyhoeddus APCAP mewn canolfannau ac o amgylch y Parc yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 22,080 yn 2021/22.

    O ran digwyddiadau’r Awdurdod a gynhelir o amgylch y Parc:

    • 34% o’r farn bod ein digwyddiad yn ardderchog/da
    • 67 oedd y sgôr adborth ar gyfartaledd (1-5) ar gyfer “Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi fy nghyffroi neu fy ysbrydoli gan dirwedd a morlun y Parc Cenedlaethol.”
    • 41 oedd y sgôr adborth ar gyfartaledd (1-5) ar gyfer ” Gwnaeth i mi fod eisiau gwybod mwy am natur, bywyd gwyllt neu dreftadaeth y lle arbennig hwn.”
    • 38 oedd y sgôr adborth ar gyfartaledd (1-5) ar gyfer “Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi fy ysgogi i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw, a fydd o fudd i’r amgylchedd ac yn gwella fy lles a lles pobl eraill.”
    • 18 oedd y sgôr adborth ar gyfartaledd (1-5) ar gyfer “Roeddwn i’n gallu ymlacio a mwynhau’r amser gyda ffrindiau a theuluoedd.”

     
    Cymerodd 16,403 o bobl ran mewn digwyddiadau a gweithgareddau hanesyddol a hwyluswyd gan yr Awdurdod yn 2022/23, o’i gymharu â 12,477 yn 2021/22.

    Yn ystod mis Tachwedd, cynhaliwyd digwyddiad Diwrnod Archaeoleg 2022 yng Ngholeg Sir Benfro. Roedd hyn yn dilyn fformat hybrid gyda gwylwyr hefyd yn gallu gwylio drwy Zoom. Cafwyd cyfanswm o tua 170 o gyfranogwyr, derbyniwyd adborth cadarnhaol am y digwyddiad a derbyniwyd sylwadau ac awgrymiadau gwerthfawr i helpu i lywio digwyddiadau yn y dyfodol.


    Hawliau Tramwy

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Roedd 87.19% o’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn agored ac yn hygyrch gan gyrraedd safon ansawdd ar ddiwedd 2022/23, mae hyn yn cymharu ag 86.87% yn 2021/22 a 2020/21.

    Roedd gostyngiad o 20.7% yn # pobl sy’n defnyddio llwybrau troed o 7 cownteri sefydlog Llwybr Arfordir o’i gymharu â 2021/22, fodd bynnag, mae’r nifer yn uwch na lefel cyn y pandemig. Roedd cynnydd o 4.7% yn # pobl sy’n defnyddio llwybrau troed o 4 cownteri sefydlog Hawliau Tramwy mewndirol o’i gymharu â 2021/22. Cynnydd o flwyddyn i flwyddyn ers 2018/19.

    Graff tueddiad ar nifer y bobl sy'n defnyddio llwybrau troed o gownteri sefydlog. Dangos cynnydd graddol parhaus ar gyfer cownteri hawliau tramwy mewndirol o 2018/19 - 2022/23. Gyda gostyngiad o 2019/20 yn y niferoedd ar gyfer 2020/21 yn cynyddu ar gyfer 2021/22 ond yn gostwng ychydig ar gyfer 2022/23 ar gyfer cownteri llwybrau'r arfordir.

    Roedd gostyngiad o 39.9% ym mhryderon am safonnau ynglŷn â Llwybr yr Arfordir a Hawliau Tramwy Mewndirol o’i gymharu â 2021/22. Gyda 188 o bryderon wedi ei derbyn yn 2022/23, o’i gymharu â 313 yn 2021/22 a 200 yn 2021/22.

    Cadwodd Llwybr Arfordir Penfro ei sgôr Trip Advisor (1-5) o 5.

    O ran y rhaglen waith hawliau tramwy cwblhawyd y nifer canlynol o dasgau’r rhaglen waith yn 2022/23:

    • 387 o dasgau rhaglen waith torri llwybrau’r arfordir, mae hyn yn cymharu â 303 yn 2021/22.
    • 710 o dasgau rhaglen waith torri hawliau tramwy mewndirol, mae hyn yn cymharu â 667 yn 2021/22.
    • 379 o dasgau rhaglen waith cynnal a chadw llwybrau’r arfordir, sy’n cymharu â 534 yn 2021/22.
    • 468 o dasgau rhaglen waith cynnal a chadw hawliau tramwy mewndirol, mae hyn yn cymharu â 996 yn 2021/22.

     

    Parhaodd APCAP i weithio gyda Chyngor Sir Penfro i gefnogi’r Fforwm Mynediad Lleol. Parhaodd cyfarfodydd y fforwm i gael eu cynnal yn ystod y flwyddyn ac roedd yn cynnwys cyfarfod yn Solfach i weld materion yn ymwneud â chynnal a gwella hawliau tramwy cyhoeddus yn y Parc Cenedlaethol. Rhoddodd y Fforwm ymateb ymgynghori i Lywodraeth Cymru ynghylch cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac anfonwyd ymateb i ymgynghoriad Cynllun Lles ar gyfer Sir Benfro.

    Yn ystod 2022/23 cafodd dau lwybr cyhoeddus eu hadfer yn y Rhoch a Dinas. Mae tîm y Parcmyn a gwirfoddolwyr wedi parhau i gario allan gwaith mynediad ymarferol i gefnogi prosiect Llwybrau at Les Ramblers Cymru yn ardal Brynberian sy’n gweithio i adfer pedwar llwybr cyhoeddus a chreu llwybrau cerdded cylchdaith newydd.

    Effaith Bositif Sbotolau: Yn ystod 2022/23 roedd pobl yn gallu mwynhau’r llwybr cerdded newydd yn Llwybr Pwll Cornel, Trefdraeth a agorwyd yn swyddogol ar 12 Mai 2022.

    Mae’r llwybr troed yn 1.75km o hyd ac mae’n cefnogi mynediad i ddôl a choetir hynafol lled-naturiol. Fe’i crëwyd yn dilyn galw cynyddol yn lleol am lwybr cerdded oddi ar y ffordd i gysylltu Nanhyfer a Trefdraeth trwy lan yr afon.

    Yn 2017 dechreuodd y prosiect a chynhaliwyd arfarniad cynaliadwyedd.

    Ers hynny, trafodwyd dau Gytundeb Rheoli S39, sicrhawyd cyllid o Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru a adeiladwyd y llwybr.

    Cyfrannodd 8 grŵp gwirfoddol a myfyrwyr 934 awr o amser at greu’r llwybr trwy 36 diwrnod gweithredu gwirfoddol / cymdeithasol dan arweiniad Parcmon y Gogledd.  Caniataodd dau dirfeddiannwr fynediad dros eu daliadau tir.

    Yn ogystal â chreu llwybr lle nad oedd un yn bodoli o’r blaen, mae arwyddocâd strategol gan greu’r llwybrau oherwydd ei gysylltiad â’r rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus cyfagos a’i gysylltiad uniongyrchol â Llwybr Arfordir Cymru.

    Yn ogystal â chwrdd â’r galw gwreiddiol, mae hefyd wedi creu amrywiaeth o gyfleoedd cerdded cefn gwlad newydd i ymwelwyr a thrigolion cymunedau lleol.

     


    Teithiau Cerdded

    Roedd 4,374 o gyfranogwyr mewn teithiau cerdded dan arweiniad staff a gwirfoddolwyr APCAP yn 2022/23, o’i gymharu â 2,472 yn 2021/22.

    Lawrlwythwyd 17,397 o fapiau gwe teithiau cerdded o wefan APCAP yn 2022/23, o’i gymharu â 27,721 yn 2021/22 a 42,065 yn 20219/20. Gall hyn adlewyrchu newidiadau mewn ymgysylltu ar-lein, gyda phobl yn defnyddio gwybodaeth ar dudalen we yn lle lawrlwytho PDF. Lawrlwythwyd 510 o fapiau gwe teithiau cerdded cadair olwyn o wefan APCAP yn 2022/23, o’i gymharu â 919 yn 2021/22.


    Prosiectau a Gwaith Mynediad

    Gohiriwyd y gwaith o greu llwybr pren i Draeth Poppit yn ystod y flwyddyn, gan fod gwaith ehangach yn cael ei wneud ar ddatblygu Uwchgynllun ar gyfer y safle. Daeth y cynnig gan y Clwb Achub Bywyd Syrffio. Mae grŵp rhanddeiliaid y mae APCAP a Chyngor Sir Penfro yn rhan ohono wedi cael ei ddatblygu i edrych ar ddichonoldeb y cynigion.

    Parhaodd prosiect mynediad Castell Caeriw i gael ei ohirio ac mae’n dal i fod yn y cam cynllunio cychwynnol.  Lluniwyd cynlluniau manwl ar gyfer gwahanol elfennau a chamau’r prosiect. Mae’r gwaith yn parhau a chyn gynted ag y bydd cynlluniau’n cael eu cwblhau, byddant yn cael eu cyflwyno ar gyfer caniatâd perthnasol gyda’r disgwyliad y bydd rhywfaint o’r gwaith yn dechrau yn 2023/24.

    Cynhaliwyd ystod o waith gwella mynediad a chyrraedd ar draws meysydd parcio a safleoedd, a ariannwyd drwy’r gronfa Y Pethau Pwysig.

     

     


    Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cymunedau

    Ein Amcan Llesiant Cymunedau: Creu cymunedau bywiog, cynaliadwy a llewyrchus yn y Parc lle gall pobl fyw, gweithio a mwynhau.


    Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

    Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

    • Mae ymwelwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymunedau lleol ac i Rinweddau Arbennig y Parc.
    • Gweithio’n agosach gyda chymunedau’r Parc Cenedlaethol i ddeall a chefnogi blaenoriaethau lleol yn well.
    • Mae cymunedau’r Parc Cenedlaethol yn fywiog, yn gynaliadwy ac yn llewyrchus.
    • Mae gan breswylwyr ac ymwelwyr opsiynau effeithiol a chynaliadwy (gan gynnwys defnyddio’r rhwydwaith hawliau tramwy) i deithio o gwmpas y Parc Cenedlaethol.
    • Mae gwaith yr Awdurdod yn cyfrannu at fywyd Sir Benfro drwy gefnogi cynnal gweithgareddau Cymraeg, diwylliannol, hamdden a chymunedol.

     

    Bydd hyrwyddo twristiaeth adfywiol yn y Parc a helpu ymwelwyr i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r cymunedau lleol ac i adfer byd natur, yn cefnogi Cymru gydnerth, Cymru lewyrchus, a Chymru o gymunedau cydlynol.

    Drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill i wella cyfleoedd diwylliannol, treftadaeth a’r Gymraeg yn y Parc, byddwn yn cefnogi Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac yn cefnogi Cymru iachach. Yn cyfrannu at y Cerrig Milltir Cenedlaethol i Gymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac at y dangosydd cenedlaethol ar y Canran o bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn.

    Bydd gweithgareddau ehangach o Greu Lleoedd sy’n cefnogi tai fforddiadwy yn y Parc yn cyfrannu at Gymru o gymunedau cydlynol, Cymru fwy cyfartal, Cymru iachach a Chymru lewyrchus.

    Roedd ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar gymunedau, twristiaeth adfywiol a’r Gymraeg:


    Trosolwg Cymunedau 2022/23

    Newid Sefydliadol

    Mae proses newid sefydliadol APCAP wedi arwain at sefydlu Tîm Twristiaeth Adfywiol newydd a phenodi Pennaeth Twristiaeth Adfywiol newydd. Yn ystod y flwyddyn dechreuodd yr Awdurdod ddatblygu cynlluniau cyflawni sy’n canolbwyntio ar Gefnogi Twristiaeth Adfywiol drwy’r Economi Ymwelwyr a Chefnogi Bywyd Sir Benfro a fydd yn cefnogi’r ddarpariaeth yn y maes hwn. Bydd y Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant newydd hefyd yn archwilio sut y gallwn ddatblygu fframwaith ar gyfer ymgysylltu â chymunedau drwy ddatblygu’r cynllun Cyflenwi Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc. Mae Polisi a Rheoli Datblygu bellach yn dod o dan Greu Lleoedd, gan bwysleisio’r rôl bwysig y maent yn ei chwarae wrth greu lleoedd cynaliadwy.


    Cynaliadwyedd a Digwyddiadau yn y Parc

    [Dyletswydd Adran 6]

    Roedd yr Awdurdod yn gweithio gyda phrifysgol ar ymchwil digwyddiadau cynaliadwy allanol. Caewyd y prosiect yn ystod y flwyddyn ar ôl iddo wynebu heriau oherwydd Covid a chynffon hir ddilynol y pandemig gan effeithio ar allu’r brifysgol i gyflawni’r prosiect. Fodd bynnag, mae’r gwaith cadarnhaol a wnaed o ran ISO20121 a phencampwriaeth rhwyfo arfordirol y byd yn Saundersfoot wedi rhoi cyfleoedd i’r Awdurdod ddysgu. Gall y gwersi a ddysgwyd helpu i lywio dulliau o gydweithio yn y dyfodol gyda darparwyr digwyddiadau i gynorthwyo’r gwaith o gynnal digwyddiadau cynaliadwy yn y Parc.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Roedd APCAP wedi cefnogi Pencampwriaethau Rhwyfo Arfordirol a Sbrintiau Traeth y Byd a gynhaliwyd yn Saundersfoot i gyflawni eu dyhead i fod y cyntaf yn y byd i gynnal cystadleuaeth rhwyfo ac ennill ardystiad ISO am ddigwyddiad cynaliadwy ISO20121.

    Secondiwyd Swyddog APCAP fel Rheolwr Cynaliadwyedd y digwyddiad. Datblygwyd system o reoli digwyddiad cynaliadwy fyddai’n gwella’r modd o reoli effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y digwyddiad. Er mwyn helpu’r digwyddiad i fod yn fwy cynaliadwy, bu trefnwyr y digwyddiad yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn Sir Benfro a’r gymuned rhwyfo yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i helpu i glustnodi pa faterion oedd angen talu sylw iddynt. Datblygwyd set o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol. Roedd gweithio i lwyddo i gyflawni’r dangosyddion hyn yn bwysig ond y dysgu parhaus o’r dangosyddion fel rhan o’r broses ISO fydd o’r pwys mwyaf.

     

    Roedd APCAP wedi bod yn ymgysylltu ag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eraill i gytuno ar gyfres o ddangosyddion twristiaeth gynaliadwy. Fodd bynnag, penderfynodd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y DU beidio â bwrw ymlaen â datblygu set o ddangosyddion oherwydd cymhlethdod mesurau ystyrlon sy’n cael eu rhoi ar waith ar draws pob Parc Cenedlaethol. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn edrych i archwilio yn y dyfodol sut y gall ddatblygu set o ddangosyddion sy’n gysylltiedig â dull twristiaeth adfywiol.


    Rheoli Hamdden

    [Dyletswydd Adran 6]

    Parhaodd yr Awdurdod i ymwneud â materion rheoli hamdden yn 2022/23. Gan gynnwys y canlynol:

    • Diweddaru’r ddogfen Rheoli pwysau ymwelwyr a phrofiadau ymwelwyr ar gyfer tymor 2022.
    • Roedd swyddogion APCAP wedi parhau i ymgysylltu â Fforwm Diogelwch Dŵr Sir Benfro yn ystod y flwyddyn, gan gyfrannu at ddau grŵp yn gweithredu blaenoriaethau Diogelwch Dŵr ar Fadau Dŵr Personol (jetskis a badau) a Padlfyrddau Sefyll. Roedd adolygiad o dymor 2022 yn dangos mai dim ond dau ddigwyddiad gwrthgymdeithasol gan fadau dŵr personol oedd wedi’u cofnodi, ac ar ôl cwblhau pob cam gweithredu y cytunwyd arnynt yn ystod 2022, cytunodd aelodau’r grŵp i ganolbwyntio eu blaenoriaethau ar faterion eraill yn ystod 2023. Mae APCAP wedi ymrwymo i gadw cofnod o ddigwyddiadau er mwyn sicrhau pe bai problemau’n codi eto y gallwn fynd i’r afael â’r problemau hynny yn brydlon. Roedd y grŵp Padlfyrddau Sefyll wedi adolygu data achub yr RNLI oedd yn dangos cynnydd esbonyddol yn y defnydd o Padlfyrddau Sefyll dros y 3 blynedd diwethaf a chytunwyd ar gyfres o gamau gweithredu oedd yn ymwneud yn bennaf ag addysg a hyrwyddo a rhannu cyngor diogelwch rhwng partneriaid a’n cynulleidfaoedd.
    • Y tîm Parcmyn yn ymgysylltu â Fforwm Arfordirol Sir Benfro a’r Grŵp Siarter Awyr Agored. Bu’r Parcmyn yn cysylltu â’r cyhoedd a’r Grŵp Siarter Awyr Agored ynghylch defnyddio Pwll y Wrach yn ystod y tymor geni morloi. Codwyd arwyddion ar y safle yn gofyn i bobl beidio â mynd i mewn i’r pwll ar ôl 1 Awst. Hefyd bu’r gwasanaeth Parcmyn yn cyfarfod ag aelodau o’r gymuned leol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Fforwm Arfordirol Sir Benfro i ystyried y cynnydd yn y defnydd hamdden a wneir o Fae Ceibwr. Codwyd nifer o bryderon gan gynnwys parcio a tharfu ar fywyd gwyllt.
    • Cynhaliwyd Grŵp Hamdden a Mynediad Blynyddol Maes Tanio Castellmartin ar 12 Hydref. Mae’r cyfarfod hwn, sy’n cael ei gadeirio gan APCAP, yn dod â chynrychiolwyr grwpiau hamdden a sefydliadau lleol ynghyd i gwrdd â Rheolwyr Maes Tanio y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae hyn er mwyn sicrhau y manteisir i’r eithaf ar gyfleoedd mynediad a hamdden ar y meysydd tanio milwrol, a bod defnyddwyr yn cael eu briffio’n dda a’u bod yn deall y defnydd milwrol a wneir o’r maes a’r hyfforddiant sy’n digwydd yno. Ni chodwyd unrhyw faterion arwyddocaol o ran tymor 2022.
    • Parhaodd APCAP i weithio’n agos a chwrdd â Croeso Sir Benfro, fel y Sefydliad Marchnata Cyrchfan, i adolygu ein dull hyrwyddo ar y cyd yn gyson drwy gydol 2022/23.

     
    Yn dilyn ailstrwythuro’r sefydliad, mae grŵp mewnol gyda staff perthnasol o bob tîm wedi’i sefydlu ar gyfer 2023/24 i adolygu a chynllunio ein dull rheoli hamdden yn y dyfodol.


    Parcmyn Haf

    Roedd parcmyn haf allan ar draethau a safleoedd y Parc Cenedlaethol yn ystod tymor 2022, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor i ymwelwyr gan ddefnyddio’r fan wybodaeth symudol a’r garafán wybodaeth lle bo hynny’n bosibl. Roedd gweithgareddau’r cyhoedd yn cynnwys pyllau creigiau, crancio ac edrych ar sbwriel a llygredd plastig morol. Cymerodd 2,662 o bobl ran mewn digwyddiadau pop yp yn 2022/23, o’i gymharu â 4,644 yn 2021/22. Cysylltodd parcmyn haf â 2,666 o bobl drwy ymgysylltu â busnes, gwybodaeth i dwristiaid a rhwydweithio cyhoeddus cyffredinol yn 2022/23 o’i gymharu â 4,488 yn 2021/22. Mae hyn yn adlewyrchu mai dim ond 2 parcmyn haf oedd yn cael eu cyflogi yn 2022/23 o’i gymharu â phedwar yn 2021/22 pan roddwyd cyllid ychwanegol ar waith mewn ymateb i bwysau cynyddol gan ymwelwyr.


    Llwybrau Celtaidd a Chysylltiadau Hynafol

    Parhaodd yr Awdurdod i gymryd rhan mewn dau brosiect partneriaeth sy’n gysylltiedig â threftadaeth twristiaeth sy’n cryfhau’r cysylltiadau rhwng Iwerddon a Gorllewin Cymru. Mae’r ddau brosiect wedi derbyn arian o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Gronfa Gydweithredu Iwerddon Cymru.

    Casgliad wedi’i frandio o brofiadau twristiaeth sy’n annog teithwyr i ymweld â De-ddwyrain Iwerddon a Gorllewin Cymru trwy gynnig nifer o brofiadau treftadaeth ddiwylliannol hudolus a diledryw yw Llwybr Celtaidd. Yn 2022/23 parhaodd y prosiect i gael sylw yn y wasg ar draws ystod o gyhoeddiadau a allfeydd ar-lein a hwyluso teithiau i’r wasg. Comisiynodd y bartneriaeth gyfres o ddelweddau o ansawdd uchel a fydd ar gael (am ddim) drwy wefan Llwybrau Celtaidd i fusnesau lleol eu defnyddio er mwyn hyrwyddo’r ardal. Cynhaliwyd adroddiad annibynnol yn asesu llwyddiant menter y Llwybrau Celtaidd hyd yma.

    Prosiect sy’n atgyfodi’r cysylltiadau hynafol rhwng Gogledd Wexford a Gogledd  Sir Benfro, Iwerddon a Chymru, er mwyn creu twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarthau hyn a rhwng y rhanbarthau hyn yw Cysylltiadau Hynafol. Yn 2022/23 cynhaliwyd adroddiad annibynnol yn asesu llwyddiant menter Cysylltiadau Hynafol hyd yma. Roedd gweithgareddau’r prosiect yn 2022/23 yn cynnwys:

    • Cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi ‘Llysgennad Twristiaeth’ am ddim.
    • Gweithgareddau i gefnogi sefydlu llwybr pererindod newydd.
    • Ymgyrch farchnata raddol ar gyfer Gogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford, gyda’r ail gam yn canolbwyntio’n benodol ar lwybr y pererinion.
    • Arddangosfa gelfyddydol ‘Sifft’ yn Oriel y Parc wedi’i hariannu.
    • Arweiniodd Archeolegydd Cymunedol APCAP daith gerdded dywysedig i ddisgyblion o Iwerddon ac Ysgol Penrhyn Dewi o amgylch Capel Sant Padrig a Penmaen Dewi.

    Awyr Dywyll

    [Dyletswydd Adran 6]

    Cafodd Swyddog Prosiect Awyr Dywyll ei recriwtio yn ystod diwedd 2022/23 i weithredu Prosiect Sir Benfro Awyr Dywyll. Wedi’i ariannu gan CDC a TCLlC Arfordir Gwyllt, bydd swyddog prosiect yr Awyr Dywyll yn gweithio gyda busnesau, cymunedau ac unigolion i leihau golau amhriodol a’i ddefnydd ynni cysylltiedig a’i allyriadau carbon dros gyfnod o dair blynedd. Bydd hyn hefyd yn helpu i adfer coridorau nosol a chynorthwyo cydnerthedd rhywogaethau yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan restr o faterion goleuo a chostau adfer a gomisiynwyd gan APCAP a Chyngor Sir Penfro. Bydd cymunedau a gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn monitro effaith.


    Gwefan

    Roedd gan yr Awdurdod 290,110 o brif ddefnyddwyr gwefan yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 295,656 yn 2021/22. Roedd gan yr Awdurdod 936,219 o olygfeydd tudalennau’r prif wefan yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 1,096,366 yn 2021/22.


    Nifer a phrofiad ymwelwyr – Oriel y Parc

    [Dyletswydd Adran 6]

    Gwelodd Oriel y Parc gynnydd o 28.1% mewn ymwelwyr o’i gymharu â 2021/22, fodd bynnag, mae nifer yr ymwelwyr yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn y pandemig. Gwelodd oriel Oriel y Parc ostyngiad o 2.1% mewn ymwelwyr o’i gymharu â 2021/22, gyda nifer yr ymwelwyr yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn y pandemig.

    Graff tueddiad rhif ymwelwyr OYP yn dangos gostyngiad mewn ymwelwyr rhwng 2018/29 a 2020/21 gyda'r nifer yn cynyddu'n raddol ar gyfer 2022/23 ond nid yn ôl i lefelau 2018/19. Gwelodd oriel OYP ostyngiad yn y niferoedd yn 2020/21 ac mae wedi gweld cynnydd graddol ond nid i niferoedd 2018/19.

    Arhosodd sgôr Trip Advisor Oriel y Parc (1-5) yn 4.5, gyda’i sgôr Google Advisor yn parhau i fod yn 4.4.

    Yn 2022/23 cafodd ymgynghorwyr o’r cwmni The Creative Core eu cyfarwyddo i gynnal adolygiad o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi i sicrhau bod y ganolfan yn cyd-fynd â gweledigaeth ac amcanion esblygol APCAP. Gan gynnwys ystyried y newidiadau i dwristiaeth yn dilyn y pandemig Covid 19. Roedd yr adolygiad yn golygu ystyried ymchwil perthnasol, a chynhaliwyd ystod o weithgareddau ymgynghori yn ystod 2022/23. Gan gynnwys arolygon ymwelwyr, sesiwn galw heibio i’r preswylwyr, gweithdy i’r rhanddeiliaid, ac ymgysylltu â staff ac Aelodau Amgueddfa Cymru ac APCAP. Bydd yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau yn 2023/34.

    Yn ystod 2022/23 cynhaliodd Oriel y Parc arddangosfa Ar Garreg eich Drws, a guradwyd gan Amgueddfa Cymru. Nod Ar Garreg eich Drws oedd ysbrydoli pawb i archwilio’r natur, y ddaeareg a’r archaeoleg sy’n bodoli o’n cwmpas, a mwynhau’r manteision iechyd a lles ddaw yn sgîl hynny. Cafodd amrywiaeth o fideos yn gysylltiedig â’r arddangosfa eu cynnwys ar wefan Oriel y Parc, ynghyd â dolenni i apiau ffôn clyfar all helpu pobl i adnabod a chofnodi’r natur y maent yn ei weld yn eu gardd, neu hwnt ac yma.

    Cynhaliwyd gweithgareddau cynllunio a pharatoi gydag Amgueddfa Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gefnogi’r arddangosfeydd dwyieithog ar y llyfr a werthodd orau ‘Geiriau Diflanedig’. Bydd yr arddangosfa yn Oriel y Parc hefyd yn cynnwys eitemau o gasgliadau hanes natur Amgueddfa Cymru. Defnyddir yr eitemau hyn i amlygu lefel y colledion bioamrywiaeth ac egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud i geisio atal y dirywiad hwnnw.


    Gwariant Lleol

    Treuliwyd 52.72% o wariant Awdurdod yn lleol (cod post SA) yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 51.13% yn 2021/22.


    Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Parhaodd yr Awdurdod i ymgysylltu â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro gan gynnwys cymryd rhan yn natblygiad ei Gynllun Lles newydd. Mae’r prosiectau o fewn y Cynllun Llesiant newydd yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant newydd yr Awdurdod:

    Prosiectau Cynllun Llesiant Sir Benfro Amcanion Llesiant PCNPA
    Lleihau Toldi ac Anghydraddoldeb Cysylltiad. Cymunedau.
    Cryfhau Cymunedau Cymunedau
    Bioamrywiaeth a’r Argyfwng Natur Cadwraeth
    Ymddasu i Newid yn yr Hinsawdd Hinsawdd
    Datgarboneiddio a Sero Net Hinsawdd

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Parhaodd yr Awdurdod i ymwneud â gweithgor tlodi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro. Yn gysylltiedig â hyn, trafododd grŵp cynllun gweithredu ymgysylltu’r Awdurdod opsiynau o ran sut y gallai’r Awdurdod gefnogi gwaith y grŵp hwn ac ymatebion i argyfwng costau byw yn ystod misoedd y gaeaf. Mewn ymateb darparwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau a mannau cynnes am ddim yng Nghastell Caeriw, Castell Henllys ac Oriel y Parc yn ystod misoedd y gaeaf. Yn ogystal, datblygwyd menter dan arweiniad staff i gasglu dillad awyr agored, a roddwyd wedyn i Dezzas Cabin.

     


    Gweithgareddau y Genhedlaeth Nesaf

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Parhaodd yr Awdurdod i gefnogi gweithgareddau’r Genhedlaeth Nesaf trwy ei Bwyllgor Ieuenctid a’i Parcmyn Ieuenctid.

    • Roedd cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid yn parhau i gael eu cynnal yn ystod y flwyddyn. Gyda rhai yn cael eu cynnal ar-lein a nifer yn cael eu cynnal yng Ngholeg Sir Benfro. Cyflwynir cofnodion y cyfarfodydd hyn i’r Aelodau drwy APC ac mae Aelod o’r Awdurdod hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor.
    • Cwblhawyd drafft terfynol o’r Maniffesto Ieuenctid gan y Pwyllgor Ieuenctid. Ym mis Mawrth fe gyflwynodd aelod o’r Genhedlaeth Nesaf a Chydlynydd Ieuenctid a Chynhwysiant i’r NPA ar y Maniffesto Ieuenctid a dangoson nhw Ffilm er ddiweddaraf y Genhedlaeth Nesaf.
    • Defnyddiwyd y 3 phanel graffiti a grëwyd gan gyfranogwyr y Genhedlaeth Nesaf APCAP gydag artist lleol fel offeryn ymgysylltu mewn sesiynau gyda sawl ysgol dros y flwyddyn.
    • Cyflwynodd cyfranogwyr y Genhedlaeth Nesaf ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Ardoll Twristiaeth arfaethedig.
    • Mynychodd chwe aelod o’r Genhedlaeth Nesaf daith o amgylch Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a gynhaliwyd gan staff Awdurdod y Porthladd. Cynhwyswyd yr ymweliad fel rhan o gais gan y grŵp i gael mwy o wybodaeth am waith sy’n gysylltiedig ag amgylchedd ac economi’r Sir / Parc Cenedlaethol ac i gael gwell dealltwriaeth o opsiynau gyrfa yn lleol.
    • Cymerodd cyfranogwyr y Genhedlaeth Nesaf ran mewn ystod o sesiynau ymarferol gan gynnwys gwaith cloddio ger Jeffreyston, helpu warden safle Castell Caeriw i atgyweirio gwaith cloddio o amgylch pwll Melin Caeriw, cyflawni transect monitro Glöyn Byw ym Marloes, cymryd rhan mewn cyfrif adar a gwneud gwaith cynnal a chadw llwybrau troed ar ddarn o lwybr troed mewndirol o Nanhyfer. Aethant hefyd i weithdy gyda’r nod o ddatblygu sgiliau llywio a chael cyfle i roi cynnig ar gerfio llwyau.
    • Ym mis Mawrth mynychodd Parcmyn Ieuenctid sesiwn yng nghoedwig Canaston/Mynwyr gyda’r Swyddog Walkability, gan edrych ar y mater o hygyrchedd a symudedd yng nghefn gwlad. Cafodd aelodau’r grŵp gyfle i roi cynnig ar offer ar lwybrau lleol.

    Gweithredu Cymdeithasol

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Cyfrannwyd 482 o ddiwrnodau gweithredu cymdeithasol gan gyfranogwyr gweithredu cymdeithasol yn 2022/23, o’i gymharu â 267 yn 2021/22. Roedd yn cynnwys Grŵp Paratoi Milwrol a myfyrwyr Cwrs Cadwraeth Amgylcheddol Coleg Sir Benfro yn cymryd rhan mewn gwaith gwella llwybrau troed.


    Gweithgareddau Cymunedol

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Roedd 1,170 o weithgareddau prosiect/ymgysylltu cymunedol yn 2022/23, o’i gymharu â 959 yn 2021/22. Cynhaliwyd 63 o ddigwyddiadau cymunedol mewn Canolfannau heb gynnwys grwpiau cymunedol a ddefnyddiodd Oriel y Parc a Chastell Henllys yn 2022/23, o’i gymharu â 49 yn 2021/22.

    Roedd 73 o stondinwyr yn cymryd rhan mewn ffeiriau a digwyddiadau yn Oriel y Parc a Chaeriw yn 2022/23, o’i gymharu â 41 yn 2021/22.

    Cefnogwyd 160 o artistiaid a gwneuthurwyr crefftau gan Oriel y Parc yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â 38 yn 2021/22. Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys 30 o ddisgyblion o Ysgol Penrhyn Dewi a gafodd arddangosfa ffenestr ddarganfod.

    Mae’r holl Ganolfannau wedi bod yn datblygu eu cynnig cymunedol tra hefyd yn gweithredu fel canolfannau ar gyfer gweithgareddau ehangach yr Awdurdod.

    Mae uchafbwyntiau Caeriw yn cynnwys:

    • Mae Ystafell de Nest Caeriw yn yr ardd furiog yn parhau i fod yn fan cyfarfod poblogaidd i bobl leol.
    • Mae’r safle wedi dod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau cerdded â chymorth APCAP, gyda grwpiau’n cyfarfod yng Nghaeriw i ddefnyddio’r llwybrau o amgylch y safle fel taith gerdded hygyrch ac ystafell de Nest i gael lluniaeth. Maent wedi ychwanegu bwydlen lluniau i gynorthwyo’r rhai sydd ag anawsterau cyfathrebu i wneud eu harcheb.
    • Mae Caeriw wedi parhau i ddatblygu eu tîm gwirfoddoli, gan ganolbwyntio’n benodol ar gefnogi garddio ar y safle.
    • Yn 2022 cynyddodd eu polisi ‘mynediad am ddim’ i gynnwys y rhai sy’n byw yn Ward Caeriw a Trefyddion.
    • Cynhaliodd sioe ceir, diwrnod pwyso afalau a digwyddiad Elusen Sandy Bear.
    • Lansio digwyddiad newydd Nadolig gyda mynediad am ddim a gynhaliwyd am chwe wythnos rhwng canol Tachwedd a Nadolig 2022. Nod hyn oedd cynnig gweithgaredd am ddim i deuluoedd lleol yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol.

     
    Mae uchafbwyntiau Castell Henllys yn cynnwys:

    • Gall pobl sy’n byw yn ardal cod post Eglwyswrw a Meline gael mynediad am ddim i’r safle ar tystiolaeth o’u cyfeiriad cyfeiriad, mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl leol sy’n ymweld â’r safle ac yn mynd i ddathliad heuldro’r Gaeaf.
    • Tipi yn cael ei ddefnyddio gan Gymraeg i Blant Penfro.
    • Fel rhan o fenter mannau cynnes y gaeaf cynigwyd crefftau am ddim ar benwythnosau mewn cydweithrediad â Chaffi’r Caban.

     
    Mae uchafbwyntiau Oriel y Parc yn cynnwys:

    • Gweithiodd y Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr ochr yn ochr â grwpiau cymunedol i gynnal digwyddiad ymgynghori cymunedol ar yr arolwg twristiaeth a gwblhawyd yn gynharach yn y flwyddyn.
    • Parhau i ymgysylltu ag Eco Dewi gan gynnwys cefnogaeth i weithgareddau Wythnos Fawr Werdd ac ymgysylltu â’u menter gymunedau di-blastig. Fel rhan o’r Wythnos Werdd Fawr, cynhaliodd y ganolfan ddau ddiwrnod marchnad, a oedd yn cynnwys sgyrsiau gan grwpiau cadwraeth natur a bywyd gwyllt lleol yn ogystal â chynnal digwyddiad gwahoddiad yn unig ar gyfer Hinsawdd Cymru.
    • Grwpiau cymunedol yn parhau i logi ystafelloedd cyfarfod yn Oriel y Parc.
    • Ochr yn ochr â gweithdai crefft a gweithgareddau celf yr haf darparodd y ganolfan grefftau galw heibio am ddim yn ystod y penwythnosau yn ystod misoedd y gaeaf fel rhan o’r fenter mannau cynnes.
    • Cynnal lansiad cymunedol o fap darluniadol newydd o Dyddewi, digwyddiad dathlu’r Jiwbilî mewn partneriaeth â’r caffi a pherfformiad am ddim fel rhan o ŵyl gerddoriaeth Abergwaun.
    • Cynnal gorymdaith draig lwyddiannus yn Nhyddewi ar 4 Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Ymunodd ysgolion, grwpiau cymunedol ac aelodau’r cyhoedd yn y dathliadau. Wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad cynhaliwyd gweithdai celf gydag ysgolion i helpu plant i greu eu Dreigiau ar gyfer yr orymdaith. Roedd y ganolfan hefyd yn croesawu cynrychiolwyr y Gadeirlan fel rhan o’u pererindod Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth ac yn dyst i ‘oleuo’r garreg’ yng Nghwrt OyP.
    • Cynhaliodd y Ganolfan Farchnad Haf a Nadolig yn cefnogi amrywiaeth o wneuthurwyr crefftau a busnesau lleol.

    Cwricwlwm Newydd a Gweithgareddau Cynefin

    Hwyluswyd 146 o sesiynau ysgol yn ymwneud ag elfen gynefin y cwricwlwm newydd gan yr Awdurdod yn 2022/23, gyda 5,035 o gyfranogwyr. Mae hyn yn cymharu â 5,848 o gyfranogwyr ar draws 137 o sesiynau yn 2021/22. Mae’r sesiynau’n galluogi cyfranogwyr i ymchwilio i’w hardal leol, eu hamgylchedd a’u treftadaeth.

    Roedd 69.23% o ysgolion yn ardal y Parc Cenedlaethol yn cymryd rhan mewn sesiynau dysgu awyr agored a hwyluswyd gan yr Awdurdod, o’i gymharu â 69.23% yn 2021/22. Roedd 75.81% o ysgolion Sir Benfro yn cymryd rhan mewn sesiynau dysgu awyr agored a hwyluswyd gan yr Awdurdod yn 2022/23, o’i gymharu â 59.68% yn 2021/22.

    Yn ystod y flwyddyn datblygwyd a darparwyd Diwrnodau Darganfod Cynefin i nifer o ysgolion, gan gynnwys:

    • Teithiau i Castell Pîl ar gyfer Ysgol Aberdaugleddau ac Ysgol Caer Elen
    • Taith gerdded mynydd yn canolbwyntio ar y pwnc “Bywyd ar y tir” ar gyfer Ysgol Neyland
    • Sesiwn ar “Pam ddylen ni ofalu am Barciau Cenedlaethol?” ar gyfer Ysgol Harri Tudur/Henry Tudor School
    • Taith gerdded leol gydag ysgol Hook a Coastlands ac artistiaid lleol i gyflwyno mapiau bywyd gwyllt lleol i’w defnyddio ar App Explorer Cymru Gyfan
    • Sesiwn dosbarth Parcmon ar fapiau ar gyfer Ysgol Llanychllwydog fel rhan o brosiect “Perci Ni”.

     
    Cynhaliwyd gweithdai addysgwyr ar gyfer Timau Castell Henllys a Chastell Caeriw. Roedd gweithdy Castell Henllys yn canolbwyntio ar anghenion dysgu amgen ac archwiliodd gweithdy Caeriw strategaethau i wneud mwy o ddefnydd o’r Felin ar gyfer ymweliadau ysgol.


    Gweithgareddau ac Ymgysylltu yn yr Iaith Gymraeg

    Darparwyd 44 o ddigwyddiadau a gweithgareddau APCAP yn Gymraeg yn 2022/23, gyda 1,010 o gyfranogwyr. Mae hyn yn cymharu â 37 o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn 2021/22 gyda 414 o gyfranogwyr.

    Yn 2022/23 parhaodd gweithgareddau i gefnogi datblygiad Castell Henllys fel Hyb Iaith Gymraeg. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys:

    • Cynnal fersiynau Cymraeg o’u Sesiynau Profiad yr Oes Haearn / Experience the Iron Age a chynnal sesiynau Dished y Dysgwyr.
    • Parhaodd Cymraeg i Blant Penfro i gyflwyno eu sesiynau rhad ac am ddim i blant cyn oed ysgol gan ddefnyddio’r tipi ar y safle. Bu staff Castell Henllys yn cydweithio â’r trefnwyr i gynnal digwyddiad rhad ac am ddim ar y cyd a oedd yn cynnwys taith gerdded natur a sesiwn naturiol greadigol i ddysgwyr Cymraeg a’u teuluoedd.
    • Cynnal darlith ar draddodiad y Mari Lwyd sy’n rhan o ddiwylliant Cymreig sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf.
    • Cynyddu nifer y llyfrau i ddysgwyr Cymraeg yn ei siop ochr yn ochr â chael siocled i ddysgwyr Cymraeg ar werth. Mae’r tîm hefyd yn darparu cylchgronau a llyfrau Cymraeg i’r cyhoedd eu pori tra yn y caffi.

     

    Effaith Bositif Sbotolau: Mae Castell Henllys wedi parhau i gefnogi aelodau’r tîm i ddysgu Cymraeg gyda dau aelod o’r tîm yn cwblhau eu cyrsiau Sefydliad Dysgwyr Cymraeg, gan eu galluogi i ryngweithio yn y Gymraeg i lefel A2. Gwelodd y ganolfan gynnydd yn nefnydd y Gymraeg ymhlith y staff, gyda’r rhai sydd wedi bod ar gyrsiau yn dweud eu bod yn dechrau dysgu brawddegau ac yn gallu deall darnau o sgyrsiau Cymraeg maen nhw’n eu clywed.

     

    Cyflwynwyd 41 sesiwn rhaglen addysg yn Gymraeg yn 2022/23, gyda 1,229 o gyfranogwyr. Mae hyn yn cymharu â 43 sesiwn rhaglen addysg yn 2021/22, gyda 1,231 o gyfranogwyr.

    Yn 2022/23 cychwynnwyd gwaith ar Strategaeth Iaith Gymraeg newydd gyda gweithgor Aelodau a Swyddogion wedi’u sefydlu. Cyfarfu’r grŵp ddwywaith yn 2022/23 i adolygu’r strategaeth bresennol ac i edrych ar elfennau craidd i’w cynnwys yn strategaeth y dyfodol. Mae’r gwaith hwn yn parhau.

     

     



     Creu Lleoedd – Polisi a Gwasanaeth Cynllunio


    Polisi Strategol a Chydweithio

    Mabwysiadwyd y Canllawiau Cynllunio Atodol canlynol yng nghyfarfod APC fis Hydref 2022:

    • Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt – Canllawiau a baratowyd ar y cyd â Chyngor Sir Penfro.
    • Glo – Ansefydlogrwydd Tir.
    • Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwys Rhanbarthol.
    • Parthau Diogelu Mwynau.
    • Canllawiau Cynllunio Atodol Ardal Gadwraeth ar gyfer Ardal Gadwraeth Angle, Caerfarchell, Ynys Bŷr, Aber Bach, Maenorbŷr, Trefdraeth, Portclew, Porth-gain, Saundersfoot, Solfach, Tyddewi, Dinbych-y-pysgod a Thre-fin.

     
    Hefyd cymeradwyodd yr Aelodau i ganllawiau cynllunio atodol ar Forweddau a Chanllawiau Coed a Choetiroedd gael eu dosbarthu ar gyfer ymgynghori, gyda’r ymgynghoriad yn dod i ben ar y 26ain o Fai 2023.

    Parhaodd yr adolygiad o Ardaloedd Cadwraeth yn y Parc yn 2022/23, a disgwylir i’r holl adolygiadau gael eu cwblhau yn gynnar yn 2023/24.

    Parhaodd yr Awdurdod i weithio gyda Chyngor Sir Penfro i fwrw ymlaen â pharatoi Canllawiau Cynllunio Atodol ar y cyd ar dai fforddiadwy a datblygu model perchnogaeth ar y cyd/Perchnogaeth Cost Isel.

    O ran Ail Gartrefi a Gosodiadau Tymor Byr, cyflwynwyd adroddiad i’r Aelodau yn APC mis Mawrth yn rhoi crynodeb o’r newidiadau deddfwriaethol a pholisi cynllunio Llywodraeth Cymru. Gan gynnwys goblygiadau’r newidiadau hyn ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio o dan y Cynllun Datblygu Lleol 2 ar hyn o bryd ac o ran opsiynau sy’n ymwneud â Chyfarwyddyd Erthygl 4. Mae swyddogion hefyd wedi bod yn edrych ar waith sy’n cael ei wneud yng Ngogledd Cymru ynghylch rôl Cyfarwyddiadau Erthygl 4.

    Yn ystod 2022/23 gweithiodd yr Awdurdod ar y cyd â Chyngor Sir Penfro ar Asesiad o Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro. Oherwydd y diwygiadau a awgrymir ar hyn o bryd i Bolisi Cynllunio Cymru, bydd angen gwneud rhagor o waith i wirio’r awgrymiadau seilwaith gwyrdd strategol a nodir yn yr Asesiad.

    Parhaodd APCAP i fanteisio ar gyfleoedd i ddylanwadu ar faterion cynllunio rhanbarthol. Bu’r swyddogion yn mynychu cyfarfodydd grŵp POSW Gorllewin Cymru, cyfarfodydd cysylltiedig â’r cyd-bwyllgorau corfforedig, a chyfarfodydd grŵp cynllunio rhanbarthol ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol. Roedd APCAP yn rhan o’r Asesiad Strategol rhanbarthol o Ganlyniadau Llifogydd a gwblhawyd fis Tachwedd 2022, a bydd yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer llunio Cynllun Datblygu Strategol i Dde-orllewin Cymru.


    Perfformiad Cynllunio

    Mae’r perfformiad yn erbyn Cynllun Datblygu Lleol 2 gan gynnwys dangosyddion tai fforddiadwy yn cael eu cofnodi yn adroddiad monitro blynyddol y cynllun datblygu lleol. Mae’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

    Nid yw perfformiad cynllunio a gorfodi wedi dychwelyd i lefelau perfformiad cyn pandemig eto. Mae swyddogion yn mynd i’r afael â’r ôl-groniad a gododd yn ystod Covid a chyfnod pan oedd y tîm yn brin o staff. Mae clirio ceisiadau hŷn mwy cymhleth sy’n aml yn gofyn am gytundeb A.106 yn ystumio’r diwrnodau cyfartalog a gymerir i bennu ffigwr cais. Mae swyddogion yn lleihau’r ôl-groniad ond tra byddant yn gwneud hynny bydd yn cael effaith ganlyniadol negyddol o ran cyfartaledd diwrnodau i’w pennu. Mae’r Cyfarwyddwr Creu Lleoedd, Datgarboneiddio ac Ymgysylltu a Rheolwr Rheoli Datblygu i adolygu’r ddarpariaeth Gorfodi ar ôl methu â recriwtio ar gyfer swydd newydd yn 2022. Yn ystod 2022/23 parhaodd y prosiect APAS, a ddylai gefnogi prosesau gwell ar gyfer gweinyddu ceisiadau cynllunio, gyda chyfarfodydd bob pythefnos gydag AGILE i fonitro cynnydd, gyda staff yn profi’r system a’r rhyngwyneb newydd. Ymatebwyd i Gynghorau Cymuned wrth i faterion godi, ond mae rhaglen ymgysylltu i ddarparu hyfforddiant yn cael ei hymchwilio.

    Mae data meincnodi perfformiad cynllunio ar gyfer awdurdodau cynllunio eraill ar gael ar dudalennau Cynllunio Llywodraeth Cymru.

    Mesur 2020/21 2021/22 2022/23 Targed
    % y ceisiadau cynllunio a benderfynwyd o fewn y cyfnodau amser gofynnol 66.31 72.73 75 80 (Llywod
    Cymru)
    Yr amser cyfartalog a gymerwyd i benderfynu ar bob cais cynllunio mewn diwrnodau 109.75 117.25 123.75 <67 days (Llywod
    Cymru)
    % y penderfyniadau a wnaed gan Aelodau yn erbyn argymhelliad swyddogion (argymhelliad) 7.14 6.45 8.33 <5% (Llywod
    Cymru)
    % yr apeliadau a wrthodwyd 75 37.5 57.14 >66% (Llywod
    Cymru)
    Ceisiadau am gostau mewn apêl adran 78 a ganiatawyd yn ystod y cyfnod adrodd 0 2 0 0 (Llywod
    Cymru)
    % y ceisiadau cynllunio a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig 92.45 94.13 93.53
    #  y ceisiadau cynllunio a gofrestrwyd 553 680 599 Tuedd
    % y ceisiadau cynllunio a gymeradwywyd 92.45 85.23 92.81 Tuedd
    % yr achosion gorfodaeth a ymchwiliwyd (o fewn 84 diwrnod) 78.15 79.46 86.67
    Amser cyfartalog a gymerir i ymchwilio i achosion gorfodi mewn diwrnodau 71.75 124 106.25
    Amser cyfartalog a gymerir i gymryd camau gorfodi mewn diwrnodau 103 96.75 94.75

     

    Cafodd 21 cais am waith i goed gwarchodedig eu penderfynu yn 2022/23, o’i gymharu â 26 yn 2021/22. Ni wnaed unrhyw orchmynion cadw coed newydd yn 2022/23 na 2021/22. Cynyddodd canran yr adeiladau sydd mewn perygl, yn seiliedig ar arolwg Cadw o 5% yn 2021/22 i 5.5% yn 2022/23. Penderfynwyd ar 19 cais adeilad rhestredig o dan gynllun dirprwyedig CADW yn 2022/23, o’i gymharu â 30 yn 2021/22.

     

     



    Meysydd Newid Corfforaethol

    Roedd gweithgareddau meysydd newid corfforaethol yn ystod 2022/23 yn canolbwyntio ar y newid sefydliadol sy’n gysylltiedig â’r ailstrwythuro i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau a’r amcanion llesiant newydd. Roedd yr Awdurdod hefyd yn wynebu heriau cydymffurfio o ran y Syndrom Dirgryniad Llaw-Braich gyda’r staff yn dangos ymrwymiad cryf i fynd i’r afael â’r materion a glustnodwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Roedd y ddau ffactor wedi effeithio ar gapasiti’r staff neu’r llinellau amser i gyflawni yn erbyn meysydd eraill o newid neu wella corfforaethol.


    Rheoli Newid

    Strwythur Newydd yn ei Le

    Yn ystod 2022/23 yn dilyn ymgynghoriad â staff, cytunwyd ar strwythur newydd a recriwtiwyd penaethiaid newydd. Gyda strwythur newydd y sefydliad yn barod i’w lansio’n llawn o fis Ebrill 2023. Dechreuodd y gwaith ar ddatblygu cynlluniau cyflawni yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth gyda gweithdai cydweithredol yn cael eu cynnal ar gyfer swyddogion arweiniol perthnasol y Tîm Rheoli. Cafodd cyllidebau hefyd eu hailalinio yn erbyn y blaenoriaethau / amcanion llesiant newydd wrth baratoi ar gyfer 2023/24.


    Adolygiad Talu a Graddio

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Llithrodd yr amserlen ar gyfer cwblhau adolygiad tâl a graddfeydd yn ystod y flwyddyn oherwydd oedi o ran rheolwyr llinell yn cwblhau disgrifiadau swydd a holiaduron ac effaith ehangach ailstrwythuro sefydliadol. Mae West Midland Employers wedi’u penodi i gwblhau’r elfen dadansoddwr swyddi o’r Adolygiad Tâl a Graddfeydd. Dewiswyd cynrychiolwyr staff ar gyfer y panel graddio.

    Yn dilyn newidiadau personél mae rheolwr Adnoddau Dynol dros dro wedi’i benodi a fydd yn canolbwyntio ar sicrhau y cwblheir Adolygiad Tâl a Graddfeydd yn erbyn amserlenni diwygiedig ar gyfer 2023/24. Bydd y broses hon yn ystyried y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.


    Gwerthoedd Newydd

    Cafodd gwaith ar gwblhau gwerthoedd newydd yr Awdurdod ei oedi yn ystod 2022/23. Roedd hyn oherwydd bod AD ac Uwch Reolwyr wedi gorfod canolbwyntio ar flaenoriaethau eraill oedd yn gysylltiedig ag ailstrwythuro ac iechyd a diogelwch. Bydd y gwaith hwn yn cael ei barhau drwy’r Cynllun Cyflawni Llywodraethu a Gwneud Penderfyniadau i sicrhau bod set newydd o werthoedd yn cael ei rhoi ar waith gan ystyried mewnbwn blaenorol gan staff.


    Negeseuon Cyfathrebu sy’n cefnogi Amcanion newydd

    Roedd y cynnwys golygyddol a ddatblygwyd ar gyfer rhifyn 2023 o’r papur newydd i ymwelwyr Coast to Coast yn cynnwys ffocws ar negeseuon allweddol sy’n cefnogi amcanion llesiant newydd yr Awdurdod. Gydag adrannau penodol ar Troediwch yn Ysgafn – Twristiaeth Gynaliadwy, Mynediad i Bawb, Teithiau Cerdded yn y Parc, Newid yn yr Hinsawdd a bioamrywiaeth ynghyd â gwybodaeth am gyfleoedd hamdden, diwylliant a threftadaeth yn y Parc.

    Lansiwyd ymgyrch haf ymwelwyr cyfrifol tri Pharc cyn gwyliau diwedd mis Mai 2022, gyda gwaith yn cael ei wneud i sicrhau sylw yn y cyfryngau cenedlaethol ar gyfer materion sy’n gysylltiedig ag ymddygiad cyfrifol gan ymwelwyr, gan gynnwys tanau gwyllt, defnyddio barbeciw, diogelwch dŵr a sbwriel.

    Datblygwyd ymgyrch ‘Gaeaf o Les’ fel ymbarél ar gyfer yr holl gamau gweithredu ar draws y sefydliad  i wneud gydag argyfwng tlodi/costau byw, yn ogystal â gwaith parhaus sy’n gysylltiedig â lles cymunedol ehangach.

    Yn genedlaethol, roedd cynlluniau’n cael eu datblygu i weithio mewn partneriaeth gyda Thrafnidiaeth Cymru ar ymgyrchoedd marchnata trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer 2023.


    Arweinydd Strategol

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    APCAP sy’n cynnal Arweinydd Strategol Cynhwysiant, Amrywiaeth a Rhagoriaeth Llywodraethu ar gyfer tirweddau dynodedig Cymru. Mae’r Arweinydd Strategol wedi datblygu cynllun gweithredu ar draws y tri Parc a’r AHNEau fydd yn cefnogi’r Awdurdod yn gadarnhaol i ysgogi gwelliannau yng ngwaith yr Awdurdod ac ymagwedd ehangach at gydraddoldeb a chynhwysiant.


    Cynllun Hyfforddiant a Phrentisiaethau

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Yn ystod 2022/23 rhoddodd yr Awdurdod raglen hyfforddi ar waith ar gyfer y Tîm Rheoli Datblygu sydd wedi cefnogi recriwtio ar gyfer swyddogion cynllunio dan hyfforddiant a phenodwyd hyfforddai AD hefyd. Fodd bynnag, effeithiwyd ar y gwaith ar ddatblygu cynllun a fframwaith hyfforddai neu brentisiaeth ehangach gan gapasiti o fewn AD ac ailstrwythuro sefydliadol ehangach. Bydd y gwaith hwn yn cael ei barhau drwy’r Cynllun Darparu Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant


    Archwaeth Risg

    Yn 2022/23 parhaodd y gwaith o adolygu dull yr Awdurdod o reoli risg. Cynhaliwyd trafodaeth yn y Tîm Arweinyddiaeth i gefnogi diwygio cofrestr risg gyda chofrestr risg newydd wedi’i chyflwyno i Bwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol. Fodd bynnag, mae angen rhagor o waith ar archwaeth risg gydag Aelodau a’r Tîm Rheoli newydd. Bydd hyn yn parhau yn 2023/24 a bydd yn ystyried diwygiadau i ddull archwilio mewnol a fydd yn y dyfodol â ffocws mwy seiliedig ar risg.


    Ymwreiddio Dull Asesu Integredig

    [Dyletswydd Adran 6. Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Parhaodd asesiadau integredig i gael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd gwaith pellach ar adolygu’r templed a’r canllawiau drafft yn cael eu gohirio yn ystod y flwyddyn, o ran aros i Benaethiaid a Thîm Rheoli newydd gael ei sefydlu. Bydd y gwaith hwn yn cael ei barhau yn 2023/24 gyda thrafodaethau pellach a mewnbwn yn cael eu gofyn gan benaethiaid newydd ar ddatgarboneiddio ac agwedd bioamrywiaeth o’r asesiad ac offer lefel prosiect posibl eraill.


    Gweithredu 3CX yn OYP, CH a Caeriw

    Cafodd y system ffôn 3CX ei gweithredu’n llwyddiannus yn Oriel y Parc, Castell Henllys a Chaeriw yn gynnar yn 2022/23


    Gweithredu Microsoft 365

    Cyflwynwyd Microsoft Teams ar draws yr Awdurdod fis Ebrill a chrëwyd nifer o Dimau adrannol lefel uchel. Creodd tîm TG fideo cymorth a chynhaliwyd dwy sesiwn galw heibio i Staff yr Awdurdod ofyn ‘Cwestiynau Sut’ ynghylch y platfform Microsoft 365. Dosbarthwyd ap Teams i ddefnyddwyr ffonau symudol er mwyn cynyddu nifer y rhai nad ydynt yn defnyddio gliniadur yn rheolaidd ei ddefnyddio.

    Yn dilyn rhedeg Pwyllgor yn llwyddiannus drwy Microsoft Teams a’i ffrydio’n fyw i Sianel YouTube Pwyllgorau APCAP, rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r platfform Lifesize.  Mae pob cyfarfod Pwyllgor a chyfarfodydd staff bellach yn cael eu cynnal yn rhithiol ar lwyfan Teams a’u ffrydio ar YouTube.

    Roedd Apiau Microsoft Power yn cael eu profi gan TG i ddisodli rhai o swyddogaethau coll y cyn safle Mewnrwyd ParcNet. Datblygwyd ap chwilio cysylltiadau i’r Awdurdod.

    Gohiriwyd gwneud gwaith pellach ar Teams a Sharepoint Migration oherwydd bod y tîm TG yn aros i’r gwaith o ailstrwythuro’r sefydliad gael ei gwblhau, heriau capasiti a newidiadau yn staff y tîm yn ystod y flwyddyn.


    Cynllun Gweithredu Gwirfoddolwyr – Adolygiad o Argymhellion

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Yn ystod 2023 diweddarwyd y cynllun gweithredu gwirfoddol i ystyried argymhellion yr adolygiad gwirfoddolwyr. Ymgynghorwyd â staff a gwirfoddolwyr fel rhan o’r broses hon. Cynhaliwyd gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn i wneud cynnydd yn erbyn camau gweithredu o fewn y cynllun. Nid yw pob cam gweithredu wedi’i gwblhau, gyda’r cynllun yn symud ymlaen i 2023/24 i ystyried ailstrwythuro a gallu staff i gyflawni yn ei erbyn.

    Parhaodd y fforwm gwirfoddol i gwrdd yn ystod y flwyddyn ac arweiniodd yr ymgyrch recriwtio at sawl aelod newydd ar gyfer y fforwm.

    Trefnwyd digwyddiad dathlu gwirfoddol yn Sain Ffraid, a fynychwyd gan 40 o wirfoddolwyr, uwch aelodau o staff a 2 Aelod Awdurdod. Cafodd gwirfoddolwyr gyfle hefyd i gwrdd ag Aelodau newydd fel rhan o ddigwyddiad a drefnwyd gyda Thîm Ceidwaid yn Nwyrain Freshwater. Roedd yn ddigwyddiad buddiol i’r ddwy ochr, gyda gwirfoddolwyr yn cael gwell dealltwriaeth o sut mae’r Awdurdod yn gweithio, a’r Aelodau yn ennill dealltwriaeth o ehangder y gweithgaredd gwirfoddoli.

    Cynhaliwyd cyfarfod yn ystod y flwyddyn gyda rheolwyr llinell wirfoddoli i roi cyfle i rannu a thrafod llwyddiannau, heriau a chyfleoedd.

    Yn dilyn treialu a chwblhau asesiad effaith diogelu data prynwyd y System Rheoli Gwirfoddolwyr – Better Impact erbyn diwedd 2022/23.

    Cynhaliwyd cynhadledd Swyddogion Gwirfoddoli Parciau Cenedlaethol y DU yn Nhyddewi, ac roedd hyn yn gyfle i arddangos gwaith gwirfoddoli APCAP ar gynhwysiant, amrywiaeth a mynediad.


    Llywodraethu a Chydweithio

    Cod Llywodraethu Corfforaethol

    Adolygodd swyddogion Cod Llywodraethu Corfforaethol yr Awdurdod i gryfhau ei aliniad â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Cymeradwywyd y Cod Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig gan Aelodau yn yr APC ar 26 Hydref. Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022/23 yn adlewyrchu’r Cod Llywodraethu Corfforaethol newydd.


    Cyfarfodydd Pwyllgor Hybrid a Gwe-ddarlledu

    Gosodwyd a phrofwyd offer ystafell werdd i gefnogi cynnal cyfarfodydd hybrid ar gyfer Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Phwyllgorau Rheoli Datblygu. Mae holl gyfarfodydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Pwyllgor Rheoli Datblygu bellach yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd aml-leoliad, tra bod pob Pwyllgor arall yn parhau i gael eu cynnal ar-lein.

    Cafodd 30 o bwyllgorau eu gwe-ddarlledu gyda 296 o olygfeydd yn 2022/23, o’i gymharu â 33 bwyllgorau eu gwe-ddarlledu gyda 506 o olygfeydd yn 2022/21.

    Roedd presenoldeb aelodau yn y Pwyllgor yn 89.69% yn 2022/23, roedd hyn yn gynnydd bach ar 87.24% yn 2021/22. Mae hyn yn erbyn targed o 75%.


    Sefydlu a Hyfforddi Aelodau Newydd

    Datblygwyd rhaglen sefydlu i baratoi ar gyfer y garfan newydd o Aelodau yn dilyn etholiadau llywodraeth leol fis Mai 2022. Gwahoddwyd Aelodau eraill hefyd i fynychu’r sesiynau fel sesiynau gloywi.

    Cyflwynwyd y broses Adolygu Datblygiad Personol yn ystod y flwyddyn, ac mae hyn yn helpu i gefnogi datblygiad rhaglenni hyfforddi ar gyfer Aelodau yn y dyfodol. Cwblhawyd 10 yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, efallai bod y dull wyneb yn wyneb wedi effeithio ar gyfraddau ymateb Aelodau Awdurdod Lleol oherwydd eu bod yn fwy cyfarwydd â chynnal asesiad ysgrifenedig o’u hanghenion hyfforddi, fel sy’n digwydd yng Nghyngor Sir Penfro. Bydd Swyddogion yn archwilio gyda’r Aelodau a oes angen unrhyw newidiadau i’r broses i gefnogi mwy o ADP i gael eu cwblhau. Mae pob un o benodiadau Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan mewn adroddiadau perfformiad blynyddol.

    Roedd presenoldeb aelodau mewn hyfforddiant yn 72.92% yn 2022/23, roedd hyn yn gynnydd ar 62.22% yn 2021/22. Yn erbyn y targed o 65%.


    Tirweddau Cymru/ Landscapes for Wales

    Ynystod 2022/23 parhaodd APCAP i gynnal tîm partneriaeth Tirweddau Cymru a chefnogi eu gwaith ar draws y tirweddau dynodedig.


    Cyllid ac Asedau

    Incwm Canolfannau

    Roedd canolfannau wedi cynyddu cynhyrchiant incwm yn 2022/23 o’i gymharu â 2021/22. Derbyniwyd £288,635.73 o incwm nwyddau Canolfannau yn 2022/23, cynnydd o 21% ar £238,425.38 yn 2021/22. Derbyniwyd £291,819.84 o incwm o fynediad yng Nghaeriw a Chastell Henllys yn 2022/23, cynnydd o 6% ar £274,189.12 yn 2021/22. Derbyniwyd £95,457.81 gan incwm arall Ganolfannau yn 2022/23, cynnydd o 68% ar £56,987.15 yn 2021/22.

    Derbyniwyd £144,349.34 gan werthiannau Caffi Castell Caeriw yn 2022/23, cynnydd o 24% ar £116,654.49 yn 2021/22. Derbyniwyd £28,331.00 o incwm rhent Caffi yng Nghastell Henllys ac Oriel y Parc yn 2022/23, mae hyn yn cymharu â £25,467 yn 2021/22.


    Anfonebau a delir ar amser

    Fe welodd yr Awdurdod ostyngiad mewn amser cyfartalog i dalu anfonebau. Cafodd 94.58% o anfonebau eu talu ar amser yn 2022/23, o’i gymharu â 97.43% yn 2021/22. Mae hyn yn erbyn targed o 97%.


    Codi Arian

    Parhaodd yr Awdurdod i gefnogi Ymddiriedolaeth Elusennol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel y nodir yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth. Darparodd yr Ymddiriedolaeth gyllid o £49,000 i’r Awdurdod yn 2022/23 tuag at waith Rhywogaethau Ymledol, Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, Prosiect Roots/Gwreiddiau, difrod stormydd ac ymgyrchoedd Gwyllt am Goetiroedd a Gwneud Mwy o Ddôl. Mae hyn yn cymharu ag £84,000 yn 2021/22.

    Codwyd £12,000 o noddi cynllun giât/mainc yn 2022/23 ar gyfer 20 nawdd, o gymharu â £16,200 yn 2021/22 ar gyfer 27 o nawdd

    Yn ystod y flwyddyn gohiriwyd yr adolygiad o fatrics blaenoriaethu prosiectau i alinio â blaenoriaethau newydd ac Amcanion Llesiant er mwyn galluogi’r adolygiad i ystyried cynlluniau cyflawni ar ôl eu cymeradwyo.


    Cynllun Sarn Caeriw

    Roedd trwydded a chaniatadau forol yn eu lle yn barod ar gyfer dechrau cam nesaf y gwaith. Fodd bynnag, mae gwaith wedi’i ohirio tan 2023/24 oherwydd problemau adnoddau a bod angen cwblhau atgyweiriadau mwy uniongyrchol yn gyntaf. Pob caniatâd i gael ei ymestyn.


    Datblygu Ystafell Werdd

    Yn 2023 cwblhawyd cynigion manwl a’u costio, a derbyniwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Datblygu’r Ystafell Werdd. Fodd bynnag, methodd proses dendro fis Rhagfyr 2022 ac ail-dendro fis Mawrth 2023 ar GwerthwchiGymru ag arwain at benodi contract. O ganlyniad, mae’r Awdurdod wedi bod yn archwilio dull arall o gaffael drwy ddefnyddio Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru.


    Cydymffurfiad

    Archwilio Cymru

    Yn ystod y flwyddyn cafodd yr Awdurdod adborth a set o argymhellion gan Archwilio Cymru yn seiliedig ar ei adolygiad Twristiaeth Gynaliadwy yn edrych ar y cwestiwn: “A yw’r Awdurdod yn gwneud popeth y gall i reoli twristiaeth gynaliadwy’n effeithiol yn y Parc Cenedlaethol?”

    Yn gyffredinol, canfuwyd bod: “Mae’r Awdurdod yn arwain o ran

    twristiaeth gynaliadwy yn y Parc Cenedlaethol, ond mae angen iddo fynegi ei weledigaeth, blaenoriaethu adnoddau, a chynnwys cymunedau a busnesau’n llwyr yn y broses o roi’r agenda hon ar waith.”

    Yn ystod y flwyddyn cymerodd yr Awdurdod ran yn adolygiad Archwilio Cymru ar Arallgyfeirio Incwm. Edrychodd yr adolygiad ar y cwestiwn “A yw’r Awdurdod wedi gosod systemau effeithiol i ystyried a chymeradwyo a ddylai ddilyn cyfleoedd newydd i wneud y gorau o incwm a sut?”

    Rhoddodd Archwilio Cymru set o argymhellion ac ar y cyfan fe wnaethant ddarganfod bod: “yr Awdurdod yn cryfhau ei gapasiti i ddilyn ffrydiau incwm newydd ond nid yw wedi cytuno ar egwyddorion i bennu lefel ei uchelgais.”

    Bu staff ac Aelodau hefyd yn cymryd rhan yn ystod y flwyddyn yn adolygiad Archwilio Cymru ar Lywodraethu.

    Cyflwynwyd papur hefyd i’r Aelodau yn yr APC ym mis Rhagfyr 2022 yn amlinellu ymateb APCAP i Barodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net – Archwilio Cymru.


    Archwilio Mewnol

    Roedd y Rhaglen Archwilio Fewnol a gynhaliwyd gan TIAA yn 2022/23 yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

    • Canolfan Ymwelwyr a Chaffi Castell Henllys
    • Gyflogres a Threuliau Staff
    • Rheoli Cadwraeth
    • Rheoli Perfformiad
    • Adfer Trychineb TGCh

     
    Yng nghyfarfod Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol yr Awdurdod a gynhaliwyd fis Gorffennaf 2023, rhoddwyd y farn archwilio a ganlyn ar gyfer 2022/23: “Mae TIAA yn fodlon, o ran y meysydd a adolygwyd yn ystod y flwyddyn, bod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro brosesau rhesymol ac effeithiol o reoli risg, rheolaeth a llywodraethu yn eu lle”. Adolygwyd un maes gan yr archwiliad mewnol, sef Adfer TGCh ar ôl Trychineb, lle aseswyd bod effeithiolrwydd rhai o’r trefniadau rheoli mewnol ond yn rhoi ‘sicrwydd cyfyngedig’. Gwnaed argymhellion ar wneud yr amgylchedd rheoli yn y maes hwn yn fwy cadarn, ac mae’r rheolwyr wedi derbyn yr argymhellion ac wedi cyflwyno ymatebion priodol.


    Dull Parhad Busnes

    Drafftiwyd cynllun parhad busnes newydd, ond ataliwyd cynnydd pellach wrth i swyddogion aros i gwblhau gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gweithredu Microsoft 365. Yn dilyn gweithgarwch archwilio mewnol, cytunwyd camau ac argymhellion newydd ar ddatblygu parhad busnes ac adfer trychinebau. Bydd y camau hyn yn cael eu gweithredu gan y Pennaeth Datgarboneiddio.


    Covid 19 – Gweithlu

    O fis Ionawr 2023 agorodd Llanion i’r holl staff sydd wedi’u lleoli yno i ddychwelyd, gyda busnes yn dychwelyd i’r arfer. Roedd staff yn gallu gofyn am weithio hyblyg, gyda rhai aelodau o staff a oedd wedi’u lleoli yn Llanion yn flaenorol bellach yn dewis gweithio gartref neu weithio yn hybrid. Gofynnwyd i reolwyr ailedrych ar yr holl Asesiadau Risg yng ngoleuni gweithrediadau busnes ‘arferol’, gan sicrhau bod Clefydau Heintus ac Anadlol (gan gynnwys Covid-19) yn cael eu hystyried ym mhob Asesiad Risg.

    Cynhaliwyd y cyfarfod staff wyneb yn wyneb cyntaf ers Covid 19 ym mis Mawrth yng ngholeg Sir Benfro, a derbyniwyd adborth cadarnhaol am y digwyddiad gan staff.


    Absenoldeb Salwch

    Gwelodd yr Awdurdod gynnydd mewn absenoldeb salwch yn 2022/23 o gymharu â 2021/22.

    Collwyd 579.07 o ddiwrnodau oherwydd absenoldeb salwch (ac eithrio salwch tymor hir) yn 2022/23, o gymharu â 482.83 o ddiwrnodau a gollwyd yn 2021/22. Cynnydd o 19.9%.

    Collwyd 1,027.57 diwrnod i absenoldeb salwch (gan gynnwys salwch hirdymor) yn 2022/23, o’i gymharu â 780.83 diwrnod yn 2021/22. Cynnydd o 31.5%.

    Yr oriau % cyfartalog a gollwyd o ganlyniad i absenoldebau salwch fesul gweithiwr (ac eithrio salwch hirdymor) ar gyfer 2022/23 oedd 1.72%, o’i gymharu â 1.51% yn 2021/22.

    Yr oriau % cyfartalog a gollwyd o ganlyniad i absenoldebau salwch fesul gweithiwr (gan gynnwys salwch hirdymor) ar gyfer 2022/23 oedd 3.01%, o’i gymharu â 2.41% yn 2021/22.

    Byddwn yn adolygu ein dull o gofnodi absenoldebau salwch yn 2023/24 i adlewyrchu’r arferion a’r datblygiadau AD gorau ym maes iechyd a lles gweithwyr ar ôl y pandemig.


    Syndrom Dirgryniad Llaw-Braich (HAVS) a Iechyd a Diogelwch

    Yn dilyn ymweliad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fis Rhagfyr 2022, derbyniodd yr Awdurdod Hysbysiad Gwella a arweiniodd at gyflymu nifer o gamau gweithredu cyn y tymor torri yn 2023.

    Roedd yr Hysbysiad Gwella hwn yn gosod amod ar yr Awdurdod i naill ai:

    1. Sicrhau bod y risg o ddirgryniad llaw-braich i’n gweithwyr yn cael ei ddileu yn llwyr.
    2. Lle nad yw’n rhesymol ymarferol i ddileu’r risg yn llwyr, a bod y lefel o ddod i gysylltiad â dirgrynu yn debygol o gael ei gyrraedd neu yn uwch, yna mae’r cysylltiad i’w leihau i lefel mor isel ag sy’n rhesymol ymarferol drwy sefydlu a gweithredu rhaglen o fesurau sefydliadol a thechnegol.

     

    Mae’r Awdurdod wedi ymateb yn gadarn drwy geisio cyflawni’r ddau ganlyniad uchod ond, oherwydd natur ein gwaith, gwneir hynny yn bennaf drwy roi cyfres fanwl o gamau gweithredu ar waith i leihau dirgrynu llaw-braich mor isel ag sy’n rhesymol ymarferol.

    Hefyd roedd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi rhoi cyngor i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol i “gynnal adolygiad o’ch polisïau a’ch trefniadau ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch ar draws eich sefydliad, a chynnal rhaglen wella tymor hwy” gyda chynnydd i’w “ystyried mewn unrhyw ymyriad y gallai’r Awdurdod Gweithredol ei wneud yn y dyfodol”. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Swyddog Prosiect Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod.

    Datblygwyd Cynllun Gweithredu ar Syndrom Dirgryniad Llaw-Braich a sefydlwyd grŵp monitro, i’w gadeirio gan y Prif Weithredwr, i olrhain cynnydd yn wythnosol.

    O ran digwyddiadau iechyd a diogelwch, roedd gan yr Awdurdod 1 RIDDOR (Digwyddiadau Adroddadwy i’r HSE) yn 2022/21, o’i gymharu â 2 ddigwyddiad adroddadwy yn 2021/22 a 2020/21. Mae hyn yn erbyn targed o 0.

    O ran # damweiniau (anaf) dros 3 diwrnod / hyd at 7 diwrnod yn absennol, parhaodd yr Awdurdod yn 2022/23 â’r duedd ar gyfer 2020/21 a 2021/22 o gael 0 damwain yn y categori hwn. Mae hyn yn erbyn targed o 0.

    Cafodd yr Awdurdod 19 o ddigwyddiadau ddamweiniau (anafiadau) mân yn 2022/23, mae hyn yn gynnydd ar 13 digwyddiad yn 2021/22 a 3 yn 2020/21. Yn dod ag ef yn nes at lefelau digwyddiadau cyn y pandemig, lle cafwyd 21 digwyddiad yn 2019/20 a 2018/19.

    Cafodd yr Awdurdod 5 achos o ddifrod cerbyd yn 2022/23 yr un nifer o ddigwyddiadau ag yn 2021/22 a gostyngiad o 1 o’i gymharu â 6 digwyddiad yn 2020/21. Mae’n parhau i fod yn is na lefelau digwyddiadau cyn y pandemig, lle cafwyd 9 digwyddiad yn 2019/20 a 15 digwyddiad yn 2018/19.

    Gwelodd yr Awdurdod gynnydd mewn achosion o wrthdaro yn 2022/23 gyda 6 digwyddiad wedi’u hadrodd. Dyma’r lefel uchaf o ddigwyddiadau gwrthdaro a adroddwyd ers 2015/16, y flwyddyn honno adroddwyd am yr un nifer o ddigwyddiadau. Byddai’r amrediad arferol rhwng 0 a 2 ddigwyddiad drwy gydol y flwyddyn. Mae achosion wedi cynnwys staff yn wynebu cam-drin geiriol a chyfarfodydd a galwadau ffôn gwrthdaro.

    Ni adroddwyd unrhyw ddigwyddiadau diogelu yn 2022/23, parhaodd hyn â’r 0 digwyddiad a adroddwyd yn 2021/22 a 2020/21.


    Diogelu Data

    Cwblhawyd 4 asesiad effaith diogelu data yn 2022/23, o’i gymharu â 3 yn 2021/22 ac 1 yn 2020/21.

    Ni dderbyniodd yr ICO unrhyw achosion o dorri rheolau diogelu data am yr Awdurdod yn 2022/23.Parhaodd hyn â’r duedd o ddim achosion o dorri rheolau diogelu data yn cael ei adrodd yn 2021/22 a 2020/21.

    Cymeradwyodd yr Aelodau bolisi CCTV newydd yn APC Mehefin.

    Mae hyfforddiant ar-lein diogelu data a hyfforddiant seiberddiogelwch wedi’u darparu trwy Data 2 Action. Mae gwaith yn parhau i sicrhau bod yr holl staff perthnasol wedi cwblhau’r hyfforddiant hwn.

    Mae gan yr Awdurdod Swyddog Diogelu Data allanol, a barhaodd i ddarparu cyngor arbenigol i staff yn ystod y flwyddyn. Mae Aelod wedi cael ei benodi fel Hyrwyddwr Diogelwch Seibr.

    Mae prosiect rheoli cofnodion wedi’i ddatblygu i fynd i’r afael â newidiadau rheoli cofnodion sydd eu hangen mewn ymateb i effaith y newid i Microsoft 365, effaith newidiadau sefydliadol ar F/Drive a’r angen i ddiweddaru dogfennau atebolrwydd ac arferion gwaith sy’n gysylltiedig â rheoli cofnodion.

    Bydd y prosiect hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach yn 2023/24.


    Cyfathrebu Polisïau

    Yn ystod y flwyddyn cychwynnwyd prosiect gwella corfforaethol sy’n canolbwyntio ar reoli a chyfathrebu polisïau a safonau corfforaethol. Y nod yw cynnal gweithgareddau a fydd yn arwain at greu Canolbwynt Polisi/ Dogfennau Corfforaethol newydd ar y fewnrwyd. Mae’r prosiect hwn yn parhau.


    Cyfathrebu Hygyrch a Chydymffurfiaeth Hygyrchedd y We

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Ym mis Ebrill fe wnaeth swyddogion gyfarfod i drafod cyfathrebu hygyrch a sut i ddatblygu ymhellach y gwaith ar egwyddorion cyfathrebu cynhwysol roedd y Swyddog Walkability wedi’i gyflwyno i’r grŵp. Datblygwyd adroddiad drafft ac argymhellion ar gyfathrebu hygyrch ar gyfer y Tîm Arwain. Fodd bynnag, yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod mis Ionawr y Grŵp Cynllun Gweithredu Ymgysylltu, gohiriwyd y gwaith hwn oherwydd newidiadau sefydliadol. Parhaodd gwaith ehangach gan feysydd gwasanaeth gyda bwydlen gyda lluniau yn cael eu creu ar gyfer y Caffi yng Nghaeriw a ffurflen caniatâd ffotograff hawdd ei darllen yn cael ei creu.

    Parhaodd y gwaith i wella hygyrchedd gwefannau, gan symud i meddalwedd monitro hygyrchedd newydd. Mae angen rhagor o waith ar ffeiliau PDF a dogfennau.


    Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (RG), Gwybodaeth Amgylcheddol (RGA), a Mynediad i Wybodaeth Bersonol.

    Yn 2022/23 gwnaed 10 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Mae hyn yn cymharu â 14 yn 2021/22 ac 16 yn 2020/21.

    Yn 2022/23 gwnaed 21 o geisiadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Mae hyn yn cymharu ag 16 yn 2021/22 a 24 yn 2020/21.

    Yn 2022/23 gwnaed 4 o geisiadau Mynediad i Wybodaeth Bersonol. Mae hyn yn cymharu â 2 yn 2021/22 a 0 mewn blynyddoedd blaenorol.

    Roedd ymateb i geisiadau RG, RGA a Mynediad i Wybodaeth Bersonol, yn enwedig achosion mwy cymhleth neu’r rhai yr oedd angen eu golygu am resymau diogelu data, wedi rhoi baich sylweddol ar y Tîm Rheoli Datblygu a’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd yn 2022/23.

    Yn 2022/23 gwnaed 90% o’r ymatebion Rhyddid Gwybodaeth (9 allan o 10) o fewn yr amserlenni gofynnol. Mae hyn yn erbyn targed o 100%. Mae hyn yn cymharu â 92.86% yn 2021/22 a 93.75% yn 2020/21.

    Yn 2022/23 gwnaed 85.71% o ymatebion Gwybodaeth Amgylcheddol (18 allan o 21) o fewn yr amserlenni gofynnol. Mae hyn yn erbyn targed o 100%. Mae hyn yn cymharu â 93.75% yn 2021/22 a 95.83% yn 2020/21.

    Roedd nifer o ymatebion yn 1-2 ddiwrnod allan. Bydd swyddogion yn archwilio a oes angen newid unrhyw beth o ran prosesau i atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol.

    Yn 2022/23 gwnaed 100% o’r ymatebion i Mynediad i Wybodaeth Bersonol (4 allan o 4) o fewn yr amserlenni gofynnol. Mae hyn yn cymharu â 50% (1 allan o 2) yn 2021/22.


    Cwynion

    Derbyniodd yr Awdurdod 24 cwyn yn 2022/23, roedd hyn yn gynnydd ar 10 cwyn a dderbyniwyd yn 2021/22 a 15 cwyn yn 2020/21. Roedd cwynion a dderbyniwyd yn 2022/23 yn ymwneud yn bennaf â chynllunio a newidiadau i daliadau tocynnau maes parcio tymhorol.


    Sylw y Cyfryngau

    Roedd 99.52% o sylw’r cyfryngau yn gadarnhaol neu’n niwtral yn 2022/23. Mae hyn yn erbyn targed o 85%. Mae hyn yn cymharu â 100% yn 2021/22 a 99.18 yn 2020/21


    Yr Iaith Cymraeg

    Derbyniodd yr Awdurdod un gŵyn ynghylch yr Iaith Gymraeg yn 2022/23 yn ymwneud â phaneli dehongli ym Melin Caeriw. Mewn ymateb i hyn bydd y paneli sy’n cael eu diweddaru yn gwbl ddwyieithog pan gânt eu disodli. Mae hyn yn erbyn targed o 0. Ni chyflwynwyd unrhyw gwynion ynghylch yr Iaith Gymraeg i’r Awdurdod yn 2021/22 a 2020/21.

    Derbyniodd Comisiynydd y Gymraeg un gŵyn ynglŷn â methiant honedig yr Awdurdod i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn 2022/23. Mae hyn yn erbyn targed o 0. Roedd y gŵyn yn ymwneud ag arwyddion uniaith Saesneg yn cyfeirio at “Poppit Sands” a “Poppit” yng nghyffiniau’r maes parcio yno. Roedd y gŵyn hefyd yn cyfeirio at arwyddion y Cyngor Sir. Penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg beidio ag ymchwilio i’r gŵyn gan nad oes enw Cymraeg swyddogol ar Poppit na Poppit Sands. Ni chyfeiriwyd unrhyw gwynion at Gomisiynydd y Gymraeg yn 2021/22 nac yn 2020/21.Roedd gan 41.62% o staff Sgiliau Cymraeg yn y gwaith Cymraeg Lefel 1 neu uwch ar ddiwedd 2022/23, mae hyn yn cymharu â 41% ar ddiwedd 2021/22.

    13.21% o swyddi newydd a swyddi gwag a hysbysebwyd â’r Gymraeg yn hanfodol yn 2022/23. Mae tuedd gyffredinol o % yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn o’r uchaf bwynt o 52.38% yn 2016/17. Mae’r Awdurdod wedi wynebu her o beidio â gallu recriwtio bob amser pan fydd y swydd wedi cael ei hysbysebu fel y Gymraeg yn hanfodol a gorfod ail-hysbysebu swyddi. Er mwyn goresgyn yr effaith y mae hyn yn ei chael ar sgiliau’r Gymraeg yn y gweithlu, mae’r Awdurdod wedi gosod gofynion dysgu Cymraeg ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer rhai swyddi gwag.

    Cwblhawyd 3 asesiad effaith y Gymraeg fel rhan o asesiadau integredig ehangach yn 2022/23, dyma’r un nifer a gwblhawyd fel rhan o asesiadau integredig ar gyfer 2021/22.


    Hyfforddiant Cydraddoldeb i Staff

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Roedd hyfforddiant Cydraddoldeb Ar-lein ar gael ar ELMS yn ystod 2022/23 ac mae bellach yn rhan o’r broses sefydlu.


    Asesiadau Effaith Cydraddoldeb.

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    Cwblhawyd 3 asesiad effaith integredig a oedd yn cynnwys effeithiau cydraddoldeb ac economaidd-gymdeithasol yn 2022/23, dyma’r un nifer a gwblhawyd fel rhan o asesiadau integredig ar gyfer 2021/22. Mae crynodebau asesiadau integredig wedi’u cynnwys mewn adroddiadau Pwyllgor perthnasol i’r Aelodau, roedd hyn yn cynnwys y cynnig i newid ym mhrisiau tocynnau parcio ceir tymor yn 2022/23.


    Data a Dadansoddi Cydraddoldeb mewn perthynas â Recriwtio a’r Gweithlu

    [Dyletswydd Cydraddoldeb]

    I alinio ag adroddiadau ffynhonnell ddata agored blynyddoedd blaenorol Llywodraeth Cymru, trwy’r tablau canlynol, mae’r holl ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 10 agosaf ac mae’r ffigurau o dan 5 wedi’u hatal ac yn cael eu dynodi gan *. Mae’r canrannau wedi’u talgrynnu a lle mae’r ffigurau’n is na 5 y ganran gyfatebol wedi’u hatal a’u dynodi gan *. Efallai na fydd cyfanswm yn swm oherwydd talgrynnu. Mae talgrynnu fel hyn hefyd yn helpu i gadw staff ac ymgeiswyr am swyddi’n ddienw. Mae hyn yn golygu na fydd newidiadau bach mewn amrywiaethgweithlu neu recriwtio neu gategorïau sydd â niferoedd isel yn cael eu adnabod o fewn data a gynrychiolir isod. Mae data’r gweithlu yn seiliedig ar nifer y bobl o’r dyfyniad diwedd mis ar 31 Mawrth 2023, o ganlyniad ni fydd rhai gweithwyr tymhorol yn cael eu dal yn y ffigurau.

    Fe hysbysebwyd 53 o swyddi gwag yn 2022/23, o’i gymharu â 63 yn 2021/22. Daw’r data ynghylch ymgeiswyr am swyddi o system ceisiadau am swyddi ar-lein.

    Nifer y Ceisiadau am Swydd yn Gyffredinol
    2020/21 2021/22 2022/23
    380 330 460

     

    Daw Data’r Gweithlu o System Rheoli Pobl yr Awdurdod. Ar ddiwedd 2022/23 cwblhawyd 58.45% o wybodaeth monitro cydraddoldeb ar system rheoli pobl yr Awdurdod, roedd hyn yn gynnydd ar 36% ar y system ar ddiwedd 2021/22. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn is na’r targed o 75 a 78.6% o wybodaeth monitro cydraddoldeb a gedwir ar system rheoli pobl flaenorol yr Awdurdod. Effeithiodd symud i’r system newydd yn 2021/22 ar lefel y data a ddelir, ac felly gywirdeb y data a ddefnyddir i asesu cynrychiolaeth o’r gweithlu. Oherwydd y gostyngiad yn y data monitro cydraddoldeb a gedwir, dylid gofalu o ran unrhyw gymariaethau rhwng blynyddoedd neu ddadansoddiad o ddata’r gweithlu. Bydd AD a chynghorydd strategol yn cefnogi gweithgareddau i annog staff i ddarparu’r data hwn, gan gynnwys esbonio beth fydd y data’n cael ei ddefnyddio ar gyfer a sut i ddiweddaru gwybodaeth ar y system. Gall staff gyrchu, adolygu a chwblhau eu data monitro cydraddoldeb yn uniongyrchol ar y system

    Nifer y Gweithwyr
    2020/21 2021/22 2022/23
    140 160 170

     

    Oedran

    Mae nifer yr ymgeiswyr yn parhau i fod ar ei uchaf ar gyfer y grŵp oedran dan 30 o’i gymharu â chromfachau oedran eraill, er bod y % wedi dychwelyd i lefelau 2020/21 yn dilyn cynnydd yn 2021/22. Mae newidiadau o amgylch categorïau a ddefnyddir wedi effeithio ar ddadansoddi rhwng blynyddoedd a gallant effeithio ar gywirdeb mewn perthynas ag ymgeiswyr y mae eu hoedran ar y ffiniau.

    Ymgeiswyr am Swyddi: Oedran
    Oedran 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    30 mlynedd ac iau 34%
    (130)
    42%
    (140)
    34%
    (160)
    14.7%
    (16-30)
    31- 40 26%
    (100)
    21%
    (70)
    21%
    (100)
    10.3%
    41-50 16%
    (60)
    12%
    (40)
    17%
    (80)
    10.8%
    51-59 16%
    (60)
    15%
    (50)
    19%
    (90)
    13.6%
    60 a throsodd

    5%
    (20)

    6%
    (20)
    6%
    (30)
    33.6%
    Gwell gennyf beidio â dweud/ Heb ei ddatgan 3%
    (10)
    3%
    (10)
    2%
    (10)
    Amherthnasol

     

    Mae’r data crwn yn dangos bod cynnydd wedi bod yng nghanran y gweithlu o dan 30 oed. Gyda gostyngiad bach ar draws pob cromfachau oedran eraill. Gostyngodd nifer y staff dros 41 oed o 76% yn 2021/22 i 68% yn 2022/23.

    Gweithwyr: Oedran
    Oedran 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    20 mlynedd ac iau *
    (*)
    *
    (*)
    5%
    (10)
    4.7%
    (16-20)
    21-30

    6%
    (10)

    6%
    (10)
    11%
    (20)
    10%
    31-40 19%
    (30)
    18%
    (30)
    16%
    (30)
    10.3%
    41-50 31%
    (50)
    29%
    (50)
    26%
    (50)
    10.8%
    51-59 25%
    (40)
    29%
    (50)
    26%
    (50)
    13.6%
    60 a throsodd

    19%
    (30)

    18%
    (30)
    16%
    (30)
    33.6%

     

    Yn ystod 2023/24 byddwn yn adolygu ein categorïau oedran a ddefnyddir ar gyfer cymharu rhwng blynyddoedd.

     

    Ailbennu Rhywedd

    Bu cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr swyddi a nodwyd o dan yr categori yr un peth, ac mae hyn o bosibl yn adlewyrchu gostyngiad yng nghanran y bobl heb ei ddatgan.

    Ymgeiswyr am Swyddi: Ailbennu Rhywedd
    Rhywedd Geni 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Yr un peth 97%
    (370)
    94%
    (310)
    98%
    (450)
    93.4%
    Nid yr un peth *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    0.3%
    Gwell gennyf beidio â
    dweud
    2%
    (10)
    3%
    (10)
    *
    (*)
    Amherthnasol
    Heb ei ddatgan

    *
    (*)

    3%
    (10)
    *
    (*)
    6.3%

     

    Anabledd

    Bu cynnydd bach yng % yr ymgeiswyr am swyddi sy’n nodi bod ganddynt anabledd. Bu gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr am swydd sy’n well ganddynt beidio ag ateb y cwestiwn hwn.

    Ymgeiswyr am Swyddi: Anabledd
    Anabledd 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Wedi nodi fel un sydd ag anabledd 5%
    (20)
    6%
    (20)
    7%
    (30)

    22%
    (Disabled under the Equality Act)

    Wedi nodi fel un sydd heb anabledd

    95%
    (360)

    88%
    (290)
    91%
    (420)
    78%
    (Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb)
    Gwell gennyf beidio â dweud *
    (*)
    6%
    (20)
    2%
    (10)
    Amherthnasol
    Heb ei ddatgan *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    Amherthnasol

     

    Mae’n anodd asesu newidiadau mewn patrymau o ran anabledd a phroffil y gweithlu oherwydd y cynnydd mewn gwybodaeth na ddatganwyd yn 2021/22, ar ôl symud i system Adnoddau Dynol newydd. Fodd bynnag, bu gostyngiad yn nifer y staff sydd ddim yn datgan. Mae’r data cyfredol yn dangos bod lai na 5 aelod o staff yn nodi bod ganddynt anabledd.

    Gweithwyr: Anabledd
    Anabledd 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Wedi nodi fel un sydd ag anabledd *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    22%
    (Anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb)
    Wedi nodi fel un sydd heb anabledd

    75%

    (120)

    *
    (*)
    28%
    (50)
    78%
    (Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb)
    Heb ei ddatgan 25%
    (40)
    100%
    (160)
    72%
    (130)
    Amherthnasol

     

    Ethnigrwydd

    Oherwydd y niferoedd bychain sy’n ymwneud ag Ethnigrwydd Eraill, nid yw’r grŵp hwn wedi cael ei ddatgyfuno yn y ddau dabl nesaf. Fodd bynnag, cydnabyddir ei bod yn bwysig ystyried cynrychiolaeth a phrofiadau yn ymwneud â gwahanol ethnigrwydd o fewn y categori Ethnigrwydd Arall.

    Mae’r Awdurdod wedi parhau i weld cynnydd bach yn y % o ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig nad ydynt yn wyn. Mae’r Awdurdod hefyd wedi gweld cynnydd bach yn nifer yr ymgeiswyr am swydd sy’n well ganddynt beidio â darparu’r wybodaeth hon.

    Ymgeiswyr am Swyddi: Ethnigrwydd
    Ethnigrwydd 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Gwyn 95%
    (530)
    94%
    (310)
    91%
    (420)
    97.6%
    Ethnigrwydd Arall *
    (*)
    3%
    (10)
    4%
    (20)
    2.3%
    Gwell gennyf beidio â dweud *
    (*)
    3%
    (10)
    4%
    (20)
    Amherthnasol
    Heb ei ddatgan

    5%
    (20)

    *
    (*)

    *
    (*)

    Amherthnasol

     

    Mae’n anodd asesu newidiadau mewn patrymau o ran ethnigrwydd a phroffil y gweithlu oherwydd y cynnydd mewn gwybodaeth na ddatganwyd yn 2021/22, ar ôl symud i system Adnoddau Dynol newydd. Fodd bynnag, bu gostyngiad yn nifer y staff nad ydynt yn datgan yn 2022/23, gydag 83% o staff yn nodi eu bod yn Wyn.

    Gweithwyr: Ethnigrwydd
    Ethnigrwydd 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Gwyn 71%
    (120)
    38%
    (60)
    83%
    (150)
    97.6%
    Ethnigrwydd Arall *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    2.3%
    Gwell gennyf beidio â dweud/ Heb ei ddatgan 29%
    (50)
    63%
    (100)
    17%
    (30)
    Amherthnasol

     

    Crefydd neu Gred

    Oherwydd y niferoedd bychain sy’n ymwneud â Chrefydd/Cred Arall, nid yw’r grŵp hwn wedi cael ei ddatgyfuno yn y ddau dabl nesaf. Fodd bynnag, cydnabyddir ei bod yn bwysig ystyried cynrychiolaeth a phrofiadau pobl sydd â gwahanol grefyddau a chredoau sy’n dod o dan y categori Crefydd/ Cred Arall.

    Mae’r Awdurdod wedi gweld cynnydd bach yn y % o’r ymgeiswyr sy’n nodi eu bod yn Grefydd/Cred Arall. Bu gostyngiad bychan yn nifer yr ymgeiswyr sy’n nodi nad oes ganddynt grefydd/ cred neu fel Cristion. Roedd gostyngiad bychan yn nifer y bobl oedd yn ffafrio peidio ag ateb.

    Ymgeiswyr am Swyddi: Crefydd neu Gred
    Crefydd neu Gred 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Dim Crefydd/ Cred 57%
    (210)
    55%
    (180)
    54%
    (250)
    43%
    Cristnogaeth 30%
    (110)
    27%
    (90)
    26%
    (120)
    48.8%
    Crefydd/ Cred Arall 5%
    (20)
    6%
    (20)
    9%
    (40)
    1.6%
    Gwell gennyf beidio â
    dweud
    8%
    (30)
    12%
    (40)
    11%
    (50)
    Amherthnasol
    Heb ei ddatgan *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    6.6%

     

    Mae’n anodd asesu newidiadau mewn patrymau o ran crefydd neu gred a phroffil y gweithlu oherwydd y cynnydd mewn gwybodaeth na ddatganwyd, yn dilyn symud i system Adnoddau Dynol Newydd. Mae’r data cyfredol yn dangos bod llai na 5 aelod o staff sy’n nodi bod ganddynt Grefydd/Cred arall.

    Gweithwyr: Crefydd neu Gred
    Crefydd neu Gred 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Dim Crefydd/ Cred 31%
    (50)
    13%
    (20)
    12%
    (20)
    43%
    Cristongaeth 31%
    (50)
    6%
    (10)
    12%
    (20)
    48.8%
    Crefydd/ Cred Arall *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    1.6%
    Gwell gennyf beidio â dweud / Heb ei ddatgan 38%
    (60)
    81%
    (130)
    74%
    (126)
    6.6%

     

    Rhyw

    Yn 2022/23 roedd mwy o ymgeiswyr gwrywaidd o gymharu ag ymgeiswyr benywaidd, mae hyn yn gwrthgyferbynnu â 2021/22 pan oedd mwy o ymgeiswyr benywaidd o’i gymharu ag ymgeiswyr gwrywaidd.

    Ymgeiswyr am Swyddi: Rhyw
    Rhyw 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Menyw 37%
    (140)
    52%
    (170)
    43%
    (200)
    51.3%
    Gwryw

    63%
    (240)

    45%
    (150)
    54%
    (250)
    48.7%
    Term Arall *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    Amherthnasol
    Gwell gennyf beidio â dweud *
    (*)
    3%
    (10)
    *
    (*)
    Amherthnasol
    Heb ei ddatgan *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    Amherthnasol

     

    Mae’r data crwn yn dangos canran uwch o staff benywaidd o’i gymharu â staff gwrywaidd yn 2022/23, gyda % o staff gwrywaidd yn gostwng o 47% yn 2021/22 i 44% yn 2022/23.

    Gweithwyr: Rhyw
    Rhyw 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Menyw 53%
    (90)
    53%
    (90)
    56%
    (100)
    51.3%
    Gwryw 47%
    (80)
    47%
    (80)
    44%
    (80)
    48.7%
    Gwell gennyf beidio â dweud / Heb eiddatgan *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    Amherthnasol

     

    Cyfeiriadedd Rhywiol

    Gwelodd yr Awdurdod ostyngiad bychan yng nghanran yr ymgeiswyr swyddi a oedd yn nodi eu bod yn LHD neu Arall yn 2022/23 yn seiliedig ar y data crwn.

    Ymgeiswyr am Swyddi: Cyfeiriadedd Rhywiol
    Cyfeiriadedd Rhywiol 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Heterorywiol 87%
    (330)
    82%
    (230)
    83%
    (380)
    89.8%
    Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol neu Arall 5%
    (20)
    7%
    (20)
    6%
    (40)
    2.3%
    Gwell gennyf beidio â dweud 8%
    (30)
    11%
    (30)
    6%
    (40)
    Amherthnasol
    Heb ei Ddatgan *
    (*)
    *
    (*)
    *
    (*)
    7.9%

     

    Mae’n anodd asesu newidiadau mewn patrymau o ran nifer y gweithwyr sy’n nodi eu bod yn LHD neu Arall oherwydd y cynnydd mewn gwybodaeth na ddatganwyd, yn dilyn symud i system Adnoddau Dynol newydd. Mae’r data cyfredol yn dangos bod llai na 5 aelod o staff sy’n nodi eu bod yn Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol neu Arall.

    Gweithwyr: Cyfeiriadedd Rhywiol
    Cyfeiriadedd Rhywiol 2020/21 2021/22 2022/23 Cyfrifiad 2021 – Sir Benfro
    Heterorywiol 59%
    (100)
    19%
    (30)
    24%
    (40)
    89.8%
    Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol neu Arall 6%
    (10)
    *
    (*)
    *
    (*)
    2.3%
    Gwell gennyf beidio â
    dweud

    6%
    (10)

    *
    (*)

    *
    (*)

    Amherthnasol
    Heb ei Ddatgan 31%
    (50)
    81%
    (130)
    76%
    (130)
    7.9%

     

    Gweithwyr a adawodd ein cyflogaeth yn ystod y flwyddyn/ newidiodd eu swydd

    Mae nifer y gweithwyr sydd wedi gadael yr Awdurdod wedi cynyddu rhwng 2021/22 i 2022/23. O’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, roedd cynnydd yn nifer y gweithwyr a newidiodd eu swydd yn ystod y flwyddyn. Yn adlewyrchu yn rhannol effaith ailstrwythuro sefydliadol. Mae hyn yn adlewyrchu’n rhannol effaith ailstrwythuro sefydliadol.

    Bydd y data isod yn cael ei ddadansoddi’n fewnol gan bersonél i nodi a oes angen unrhyw gamau pellach. Mae’r setiau ddata’n rhy fach ar gyfer adrodd ymhellach mewn modd ystyrlon ar draws unrhyw nodweddion gwarchodedig.

    Fodd bynnag, o ran proffil oedran rhannwyd y dadansoddiad yn weddol gyfartal ar draws y gwahanol grwpiau oedran.

    Gweithwyr a adawodd ein cyflogaeth yn ystod y flwyddyn
    2020/21 2021/22 2022/23
    10 20 30
    Gweithwyr a newidiodd eu swydd yn ystod y flwyddyn
    2020/21 2021/22 2022/23
    10 10 30

     

    Cwynion Cyflogaeth a Disgyblu

    Mae’r setiau data’n rhy fach ar gyfer adrodd gyda risg posib o adnabod unigolion. Bydd y data hwn yn cael ei ddadansoddi’n fewnol gan bersonél i nodi a oes angen unrhyw gamau pellach.

     

    Proffil Gweithlu yn erbyn y Math o Gontract/ Patrwm Gwaith: Rhyw

    Mae’r Awdurdod yn cefnogi trefniadau gweithio hyblyg ac mae ganddo gyflogeion sy’n gweithio ystod fawr o batrymau gwaith o ran nifer yr oriau dros ddiwrnodau amrywiol. Mae llawer o staff yn gweithio cynllun oriau hyblyg a gall yr holl staff ofyn am drefniadau gweithio hyblyg megis pythefnosau 9 diwrnod; caiff ceisiadau eu cymeradwyo fel rheol. Mae staff yn symud i mewn ac allan o drefniadau wrth i amgylchiadau newid.

    Math o Gontract/ Patrwm Gwaith Menyw Gwryw Cyfanswm
    2021/22 2022/23 2021/22 2022/23 2021/22 2022/23
    Llawn Amser 30 40 60 60 90 100
    Rhan Amser 60 60 20 20 80 80
    Parhaol 90 90 70 70 160 160
    Dros-dro 10 10 * * 10 10

     

    Proffil y Gweithlu yn erbyn Graddfeydd – Rhyw

    Mae’r Awdurdod yn cyflogi pobl mewn ystod eang o swyddi, a nifer ohonynt ag ond un deiliad swydd ac felly nid yw monitro yn ôl ‘swydd’ yn cael ei wneud. Rydym wedi cyfuno Graddau i atal adnabod unigolion. Nid oes unrhyw elfennau tâl sylweddol eraill sy’n daladwy ar ben y cyflog ar y raddfa. Nid yw’r ffigur yn cynnwys staff tymhorol a delir yn ôl taflen amser ac nad ydynt yn gyflogedig.

    Graff yn dangos proffil gweithlu yn erbyn gradd ar gyfer 2021/22 a 2022/23.


    Dadansoddi Hyfforddiant a Thâl

    Er mwyn galluogi dadansoddi pellach yn erbyn cyfleoedd hyfforddiant mae angen gwaith i wella dulliau recordio hyfforddiant o fewn yr Awdurdod. Wrth symud ymlaen dylai’r system Adnoddau Dynol newydd a weithredwyd yn 2021/22 gefnogi hyn. Cafodd gwaith dadansoddi’r Bwlch Cyflog Rhywedd ei wneud fel rhan o’r broses o adolygu’r Cynllun Cydraddoldeb a nodi a oedd angen amcan cydraddoldeb penodol. Fel rhan o’r adolygiad Talu a Graddio bydd dadansoddiad Bwlch Cyflog Rhywedd hefyd yn cael ei gynnal.