Maniffesto Ieuenctid

Galwad am newid

Nod y maniffesto hwn yw:

  • Bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a syniadau, gan helpu i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu grymuso, eu cynnwys a’u hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau.
  • Darparu dull clir a chydlynol o gynnwys pobl ifanc mewn cymunedau gwledig.
  • Nodi materion allweddol sy’n effeithio ar bobl ifanc, o ddiboblogi i ddiweithdra.
  • Deall bod gan bob person ifanc ddychymyg, creadigrwydd ac unigolrwydd, a dylid meithrin y doniau hyn i helpu datblygiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, er mwyn i’n holynwyr etifeddu ein Parc Cenedlaethol.

Ysbrydolwyd y Maniffesto gan waith a wnaed gan grwpiau o bobl ifanc o bob cwr o Ewrop, fel rhan o brosiect i greu Maniffesto Ieuenctid Ardaloedd Gwarchodedig, sy’n adlewyrchu barn a phrofiadau pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwarchodedig ac o’u cwmpas, ac mae’n nodi’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Darllenwch Maniffesto Ieuenctid UROPARC (agor mewn ffenest newydd).

  • Mae Maniffesto Cenhedlaeth Nesaf Sir Benfro yn ymateb i’r ddogfen honno ac yn ceisio adlewyrchu barn a phrofiadau pobl ifanc sy’n byw ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r cyffiniau
  • Bwriedir iddi fod yn ‘ddogfen Fyw’, gydag adolygiadau rheolaidd a bydd ymgynghori pellach â phobl ifanc yn ein hardal yn helpu i lunio fersiynau o’r maniffesto yn y dyfodol.

Dibenion y Parc Cenedlaethol

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol (a Sir Benfro)
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau a deall nodweddion arbennig y Parciau Cenedlaethol.
  • Wrth ddilyn y ddau bwrpas hyn, mae dyletswydd hefyd ar yr Awdurdod i feithrin lles economaidd a chymdeithasol y cymunedau sy’n byw yn y Parc.

Blaenoriaethau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Hinsawdd – Cyrchfan: Sero Net

Rydym yn Awdurdod sy’n anelu at gael Parc Cenedlaethol sero net a charbon niwtral.

Cysylltiad – Gwasanaethau Iechyd Naturiol

Mae pobl yn iachach, yn hapusach ac mae ganddynt fwy o gysylltiad â natur a threftadaeth.

Cadwraeth

Rhoi hwb i fioamrywiaeth a sicrhau nad yw’n dirywio. Mae natur yn ffynnu.

Cymunedau sy’n Ffynnu

Lleoedd y gall bobl fyw a gweithio ynddynt a’u mwynhau.

1. Grymuso Ieuenctid

Pobl ifanc yw dyfodol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae gofalu am ein tirwedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn BWYSIG i ni, ond rydym yn cael ein tangynrychioli ac nid oes gennym lais yn y broses o wneud penderfyniadau.

Rydyn ni eisiau cysylltu â’n cymuned a chael effaith ar y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar ein rhan! Dylai pobl ifanc gael eu trin yn gyfartal. Mae pob llais yn bwysig.

Beth allwch chi ei wneud?

  • Creu fforymau/cynghorau ieuenctid i gyflwyno anghenion a syniadau pobl ifanc i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
  • Darparu lle diogel i leisiau pobl ifanc gael eu clywed.
  • Cyflwyno cynlluniau sy’n galluogi oedolion a phobl ifanc i weithio ochr yn ochr.
  • Trefnu cyllid ar gyfer prosiectau ieuenctid.
  • Darparu rhaglenni cynefino sy’n galluogi aelodau’r bwrdd i ddeall pwysigrwydd cael cynrychiolaeth pobl ifanc.
  • Recordio cyfarfodydd pwysig a’u rhannu â Grwpiau Ieuenctid.

Cyfathrebu gyda phobl ifanc

  • Rhoi cyfleoedd i bobl ifanc rannu eu cyflawniadau a’u hannog i fynegi eu pryderon a’u barn i gynulleidfa hŷn.
  • Defnyddio llwyfannau ar-lein ar gyfer ymgynghoriadau ac arolygon, gan arwain at sesiynau wyneb yn wyneb i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n cysylltu â phobl ifanc.

 

2. Byw

Mae cefnogi pobl ifanc yn ardaloedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn helpu’r cymunedau i gadw mewn cysylltiad, ac yn helpu unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol. Yn aml, mae’n anodd teithio o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Er mwyn llwyddo a ffynnu, mae angen i bobl ifanc gysylltu â’r byd go iawn, a’r byd rhithwir.

Allwn ni ddim fforddio gadael i bobl ifanc gael eu gwthio allan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro oherwydd costau byw.

Seilwaith

  • Mae angen darparu cludiant fforddiadwy drwy gydol y flwyddyn.
  • Mae angen i gludiant hyblyg fod ar gael. Mae angen i amseroedd trafnidiaeth gyhoeddus fod yn realistig.
  • Mae angen i lwybrau trafnidiaeth fod yn glir ac yn gryno ac yn hawdd eu defnyddio.
  • Dylai tocynnau bws ysgol weithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Dylid hybu mynediad i’r rhyngrwyd ar draws y Parc Cenedlaethol er mwyn rhannu gwybodaeth.
  • Mae angen i lwybrau beicio fod wedi’u cysylltu’n well a bod yn fwy diogel.
  • Darparu llety diogel i osgoi cysgu allan a gweithredu troseddol.

Fforddiadwyedd

  • Cyflwyno cynlluniau i alluogi pobl ifanc i brynu nwyddau a gwasanaethau am bris fforddiadwy er mwyn caniatáu bodolaeth fforddiadwy yn yr ardal.
  • Cefnogi busnesau bach lleol i fod yn fwy annibynnol a chysylltiedig yn y gymuned.
  • Cyfyngu ar y farchnad ail gartrefi, er mwyn rhoi gwell cyfle i bobl leol lwyddo yn y farchnad dai.

Cymuned

  • Mae gan bobl ifanc hawl i fod yn rhan o ddiwylliant a hanes yr ardal.
  • Cysylltu â phobl ifanc a darparu cyfleoedd cymdeithasol a chyfleoedd i ymgysylltu.
  • Dylai pobl ifanc fod yn rhannu beth yw eu hymdeimlad o gymuned
  • Gall pobl ifanc rannu eu dealltwriaeth â phobl hŷn er mwyn helpu ei gilydd.
  • Creu mannau diogel, llawn hwyl i bobl o bob oed gysylltu â’i gilydd.

 

3. Dysgu

Mae angen i ni ddarparu cymunedau mwy hunangynhaliol, cydnerth ac amrywiol ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Rydyn ni eisiau rhannu, dysgu, cynnal a gofalu am ein diwylliant lleol a’n treftadaeth naturiol. Mae angen i ni fuddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer y DYFODOL. TROSGLWYDDO GWYBODAETH AC YSBRYDOLIAETH I GENEDLAETHAU’R DYFODOL.

Nod o ysbrydoli

  • Defnyddio llwyfannau cymdeithasol a rhaglenni digwyddiadau yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
  •  Defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithlon i ysbrydoli ymwybyddiaeth ac annog ymgysylltu.

Addysg am natur

  • Creu cyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu am eu tirwedd, eu treftadaeth a’u diwylliant lleol o oedran cynnar.
  • Darparu cyfleoedd sy’n grymuso’r person ifanc i fod yn abl ac yn hyderus yn yr awyr agored – gwirfoddoli, Rhaglenni Wardeniaid Iau ac ati.
  • Creu cysylltiadau rhwng ysgolion ac ardaloedd gwarchodedig, Parcmyn a Wardeniaid lleol.
  • Darparu hyfforddiant i staff addysgu er mwyn iddynt ganolbwyntio mwy ar yr awyr agored.
  • Annog cwricwla ysgolion i gynnwys addysg ar ffermio, bywyd gwyllt, y Parc Cenedlaethol a’r amgylchedd lleol.
  • Creu cysylltiadau â Chymdeithas Penaethiaid Uwchradd Sir Benfro.

Cefnogaeth

  • Cefnogi rhieni/gwarcheidwaid i ymgysylltu a mynd â’u teuluoedd allan yn yr awyr agored.
  • Darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau a hyder.
  • Creu mwy o fusnesau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc drwy ddarparu cyrsiau i ddysgu am hunangyflogaeth / bod yn berchen ar fusnes.
  • Datblygu gwirfoddoli fel ffordd o hybu cynnydd – profiad gwaith a chynlluniau gwirfoddoli a gwobrwyo i bobl ifanc.

 

4. Gweithio

Dydyn ni ddim yn credu y dylai ymdrechion i ddatblygu’r economi leol a darparu swyddi fod ar draul yr amgylchedd naturiol. Ni ddylai’r angen am arferion cyfeillgar i’r amgylchedd beryglu safon bywyd lleol.

Dylai swyddi pobl ifanc fod yn hyblyg, yn greadigol, yn arloesol ac yn gynaliadwy. Mae gan bob person ifanc greadigrwydd a thalentau y dylid eu meithrin i’n helpu ni i ddatblygu fel entrepreneuriaid ein cymunedau.

Cyfleoedd Gwaith

  • Mae pobl ifanc eisiau gweithio. Nid yw oedran yn creu rhwystr rhag bod eisiau gweithio a rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned leol.
  • Dylai cyfleoedd gwaith i bobl ifanc ffitio o gwmpas addysg, nid swyddi gwag tymhorol yn unig.
  • Dylai ysgolion a busnesau lleol ddatblygu partneriaethau a gofalu amdanynt, er mwyn cynnig swyddi a phrofiadau i bobl ifanc.
  • Dylai swyddi i bobl ifanc gynnwys cyfleoedd datblygu a chodiadau cyflog.

Mwy o Hyfforddiant

  • Rhoi hyfforddiant i bobl ifanc sy’n berthnasol ac yn fuddiol iddynt, gan roi cefnogaeth ac anogaeth iddynt.
  • Rhannu gwybodaeth a phrofiadau gyda phobl ifanc, i’w hysbrydoli i weithio yn eu cymuned.

Cyflogau Isel

  • Talu cyflog byw teg, i wrthbwyso’r costau o fyw mewn amgylchedd gwledig
  • Helpu gyda chostau byw drwy gymorthdaliadau trafnidiaeth, cymorth tuag at gostau tai a chyllid ar gyfer hyfforddiant pellach.
  • Ystyried lwfansau byw/grantiau i bobl ifanc sydd eisiau aros yn yr ardal.

 

5. Ein galwad i weithredu

Gadewch i ni roi ein Maniffesto Ieuenctid Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar waith a chreu dyfodol cynaliadwy ar
gyfer heddiw!

  • Cysylltwch â phobl ifanc, ysgolion lleol a chlybiau ieuenctid yn eich cymuned. Anogwch nhw i rannu eu barn ac ysbrydoli eraill.
  • Monitrwch a gwerthuswch eu cynnydd, gan gynnwys pobl ifanc yn y broses.
  • Ceisiwch am brosiectau cyllido sy’n ymgysylltu â phobl ifanc.
  • Rhowch eich cynlluniau prosiect ar waith go iawn.
  • Cydweithiwch i ddewis y materion blaenoriaeth yn y Maniffesto i roi sylw iddynt. Dechreuwch gynllunio prosiect ar y cyd, gan gynnwys pobl ifanc yn y penderfyniadau.
  • Adroddwch a rhowch gyhoeddusrwydd i’ch syniadau, eich cynnydd a’ch canlyniadau ar-lein ac mewn deunydd wedi’i argraffu.

Cadwch mewn cysylltiad â Chenhedlaeth Nesaf Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i rannu eich profiadau – dysgu ac ysbrydoli! I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen Cenhedlaeth Nesaf, neu chwiliwch am #CenNesafArfordirPenfro ar cyfryngau cymdeithasol.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i greu dyfodol cyffrous i fyd natur, ardaloedd gwledig a phobl ifanc.