PELLTER/HYD: 3.1 milltir (4.9 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Celtic Coaster 403 (*tymhorol, galw a teithio)
CYMERIAD: Taith ar ynys, ymylon clogwyni, serth mewn mannau
CHWILIWCH AM: Ynys wych, arfordirol, golygfeydd o’r prif dir • morloi a llamhidyddion • amrywiaeth wych o adar • ceirw coch • blodau arfordirol
MWY O WYBODAETH: NI CHANIATEIR CWN AR YR YNYS. Ffoniwch Ganolfan Ymwelwyr Tyddewi (01437 720392) am ddiwrnodau/amserau/costau croesi mewn cwch ayb.
Diolch i ddau fryn Ynys Dewi mae gan yr ynys broffil trawiadol pan fyddwch chi’n ei weld o’r prif dir. Wrth agosáu, fe welwch chi fod yr ynys yr un mor drawiadol gyda’i eangderau o weundir agored a chlogwyni mawreddog.
Mae Ynys Dewi yn un o warchodfeydd yr RSPB a rhwng Ebrill a Gorffennaf, mae’r ynys yn fwrlwm o wylanod coesddu, gweilch y penwaig heligogod ac mae gwylan y graig yn nythu yn y cytrefi ar wyneb clogwyni’rynys.
Mae’r frân goesgoch a thinwynion hefyd yn bridio ar Ynys Dewi, ac fe sefydlodd cyn-berchennog hyddgre o geirw coch yma. Yn wahanol i Sgomer, nid oes pâl i’w weld ar Ynys Dewi.
Mae nhw’n bridio mewn tyllau a chredir eu bod wedi dioddef yn nwylo poblogaeth ysglyfaethus llygod mawr yr ynys. Mae’r ynys hefyd yn gartref i gytref fawr o forloi llwyd.
Mae’r morloi bach – sy’n wyn fel yr eira, yn ystod eu hwythnosau cyntaf- yn cael eu geni ar ddiwedd yr Haf. Ynys Dewi yw’r mwyaf o deulu o ynysoedd ac ynysigau sy’n gorwedd oddi ar begwn gorllewinol Penrhyn Tyddewi.
Mae’r môr o amgylch yn ddarostyngedig i lanwau eithafol ac mae gan yr ardal hanes iasoer; gwelwyd llawer o longddrylliadau yma.
Fe ddywedodd George Owen, yr hanesydd Tuduraidd, am y dŵr o amgylch Ynys Dewi, eu bod yn ‘pregethu athrawiaeth angheuol i gynulleidfaoedd y gaeaf a heb fod yn glodwiw mewn un dim’.
Mae’r cysylltiad rhwng Ynys Dewi a’r eglwys gadeiriol ar draws y dŵr yn Nhyddewi yn un cryf. Mae un stori yn sôn am sut y gwnaeth Sant Justinian, cyfaill y cyffeswr Dewi Sant, ymddeol i
Ynys Dewi ond iddo flino ar yr holl ymwelwyr a ddaeth ar draws un o’r sarnau a gysylltai’r ynys a’r prif dir.
Pan weddïodd y saint am gael gwared ar y sarn, dywedir bod bwyell enfawr wedi ymddangos ac wedi torri’r sarn i mewn i’r gyfres o greigiau a elwir bellach yn The Bitches.
Efallai ei bod hi’n gyd-ddigwyddiad bod Justinian wedi cael ei ddienyddio ar Ynys Dewi gan ei ddilynwyr.
Yn ôl chwedloniaeth, fe gododd ei ben o’r llawr ac yna cerdded ar draws Swnt Dewi at y pentir, gan farw ble saif ei gapel yn awr.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM700237
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau