Y Gann

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 3.8 milltir (6.1 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth St Ishmaels 315/316, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Aber llanwol, llwybr yr arfordir, caeau a da byw, graddio cymedrol, coed, 1.1 milltir (1.75 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Cwm coediog yn Monk Haven • wal gastellog • adar coetir, rhydwyr, hwyaid ayb ar yr aber
MWY O WYBODAETH: Edrychwch ar y tablau llanw ar gyfer y daith ar yr aber a’r traeth.

Mae pâr o finocwlars yn ddefnyddiol iawn ar y daith hon sy’n eich arwain chi ar hyd glannau’r Gann, un o safleoedd gorau Sir Benfro am wylio adar, yn ogystal ag archwilio’r ardaloedd gwledig a’r arfordir i’r gorllewin o bentref St Ishmaels.

Mae’r grib hir o raean bras a elwir yn Pickleridge a’r pwll cyfagos yn gynefin anarferol ar gyfer bywyd gwyllt, ac mae’n cael ei fwydo trwy gydol y flwyddyn gan nentydd o ddŵr croyw ond hefyd yn cael ei foddi gan y môr pan fydd y llanw’n uchel.

Mae’r llwybr yn ymylu ar y dyddodiad anferth o dywod a graean sydd wedi casglu ar ymyl deheuol haenen iâ Môr Iwerddon rhyw 17,000 o flynyddoedd yn ôl.

Nid nodweddion naturiol yw’r pyllau sydd wedi gorlifo ac sy’n denu hwyaid a gwyddau; fe’u crëwyd pan yr oedd angen deunydd adeiladu ar gyfer safleoedd y Llu Awyr Prydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar benrhyn Dale ac yn Nhalbenni.

Mae rhydwyr ac adar gwyllt hefyd yn cael eu denu at y tir bwydo cyfoethog yn y Gann ei hun ac i forfa heli’r aber bach. Yn ystod yr haf, gellir gweld hwyaid yr eithin, piod y môr, ciachod, y pibydd coesgoch a’r pibydd coeswyrdd yn aml ac yn yr hydref mae’r coegylfinir a channoedd o linosod a phibyddion y waun yn mudo yma.

Mae uchafbwyntiau’r gaeaf o ran yr adar yn cynnwys grŵp mawr o sawl cant o ylfinirod sy’n clwydo ar y Gann. Trwy gydol y flwyddyn, chwiliwch am newydd-ddyfodiad i arfordir Penfro, y
crëyr bach copog.

Mae’r aderyn yn edrych fel crëyr bach, gyda choesau hir a phig fel cyllell ond plu gwyn llachar. Mae’r llwybr hefyd yn cynnwys bae bach Monk Haven, sy’n cael ei enw o fynachdy Cristnogol cynnar a oedd gerllaw, medde nhw. Roedd y porthladd yn arfer bod yn fan glanio ar gyfer pererinion a deithiau i Dyddewi.

Mae Haydn Garlick, Cyn Barmon Sector y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Dyma daith dda iawn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn os ydych chi’n hoffi adar, ond yn enwedig yn y gwanwyn a’r hydref pan fydd y mudwyr ar daith.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM822066

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau