Trefin tua’r tir

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.2 milltir (8.4 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefin 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Graddfa hwylus i gymedrol, lonydd tawel, caeau a da byw, ardaloedd o dir corsiog mewn tywydd gwlyb, 1.6 milltir (2.5 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Golygfeydd o Ben-caer • morlin garw • pentref Trefin • hen olion y felin yn Aberfelin, sy’n enwog oherwydd cerdd Gymraeg (gwyro ychydig oddi ar y llwybr)
MWY O WYBODAETH: 220 llath (200m) ar brif ffordd brysur. Defnyddiwch yr ymyl lle’n bosib.

Ar y llwybr uwchlaw Trefin mae yna olygfeydd gwych o arfordir gogleddol caregog Sir Benfro.

Crëwyd y dirwedd drawiadol gan ddigwyddiadau daearegol dramatig rhwng 500 a 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan yr oedd llosgfynyddoedd yn weithgar yn yr ardal.

Fe oerodd y lafa i ffurfio craig igneaidd arbennig o galed ac, mewn rhai mannau, ni chyrhaeddodd y graig dawdd yr arwyneb, gan oeri’n araf o dan y ddaear.

Dros filiynau o flynyddoedd, mae’r mewnwthiadau igneaidd hyn wedi gwrthsefyll erydiad yn well na’r haenau o’u cwmpas i ddod yn glegyr caregog i’r dwyrain ym Mhen-caer ac i’r gorllewin ym Mhenberi a Carn Llidi.

Mae Trefin yn bentref mawr sy’n agos at y môr ond sydd wedi ei osod yn ôl o’r môr. Mae ganddo gysylltiadau agos gyda’r môr, ac ychydig o daith ydyw o gilfachau Aberfelin ac Abercastell.

Yn y gorffennol, roedd y pentref yn gartref i forwyr ac roedd ganddo enw hefyd fel canolfan smyglo. Mae olion melin ddŵr a elwir yn Melin Trefin wedi eu gwarchod yn Aberfelin ac o’r felin y daeth enw’r cildraeth.

Roedd y felin yn un o ddau yn yr ardal a oedd yn eiddo i esgobion Tyddewi, a oedd yn berchen ar lawer o’r tir o amgylch Trefin. Malwyd gwenith a barlys yn y felin am bum canrif hyd nes cau’r felin ym 1918.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM841323

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi