Trefdraeth

Teithiau Byr

TREFDRAETH, TREF AC ABER

PELLTER: 1.3 milltir (2.0 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: cyfeiriwch at wefan Cyngor Sir Benfro
CYMERIAD: Cerdded ar balmentydd ag arwyneb, golygfeydd o’r aber. Dim sticlau na grisiau, y rhan fwyaf ag arwyneb.

O’r maes parcio, trowch i’r dde i’r heol. O’r arhosfan bysiau, cerddwch yn ôl ar hyd yr heol i’r dref. Trowch i’r dde ar y diwedd ac wrth y groesfan nesaf, trowch i’r dde i Heol Parrog (arwydd tuag at y Parrog).

Dilynwch yr heol i lawr ac, ar ôl y tai ar y dde, trowch i’r dde i Lwybr yr Arfordir wrth y mynegbost. Dilynwch y llwybr ar hyd yr aber ac wrth y mynegbost trowch i’r dde (arwydd YHA) i’r llwybr sy’n arwain tuag at Heol Santes Fair Isaf.

Wrth y groesfan, trowch i’r dde i East Street ac i’r dde eto wrth y groesfan nesaf  i Heol Hir, yn ôl i’r arhosfan bysiau a’r maes parcio.

TREFDRAETH, LÔN Y FELIN

PELLTER: 1.0 milltir (1.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: cyfeiriwch at wefan Cyngor Sir Benfro
CYMERIAD: Caeau a da byw, cerdded ar lôn dawel, coetir. 2 sticil. Grisiau, llethrau serth steep.

O’r maes parcio, trowch i’r dde i fynd ar y ffordd. O’r arhosfan bysiau, gallwch gerdded yn ôl ar hyd yr heol i’r dref. Ar y groesffordd, ewch yn syth ymlaen, i fyny Stryd y Farchnad.

Ewch yn syth dros y groesffordd nesaf, ac i fyny Stryd y Castell, sy’n troi’n llwybr. Ewch i fyny’r grisiau, trowch i’r dde, a dilynwch y llwybr tuag at y gyffordd ‘T’.

Ewch i’r chwith yno, ac i fyny Lôn y Felin. Ewch drwy’r giât wrth y grid gwartheg, a dilynwch y lôn i’r dde. Edrychwch am yr arwyddbost o’ch blaen ger y giât fetel.

Ewch drwy’r giât ac i lawr y llwybr cerdded. Ar ddiwedd y llwybr, ewch dros y sticil a dilynwch y llwybr troed amlwg sydd yn mynd i lawr y ffordd.

Croeswch y ffordd , trowch i’r dde, a’i ddilyn heibio i’r orsaf betrol. Yna, trowch i’r dde i Stryd Hir, ac yn ôl i’r arhosfan bysiau a’r maes parcio.

PARROG TREFDRAETH

PELLTER: 0.5 milltir (0.8 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: cyfeiriwch at wefan Cyngor Sir Benfro
CYMERIAD: : Golygfeydd o’r aber, peth cerdded ar heolydd bach. 2 sticil, 1 giât mochyn.

O’r arosfan bysys parhewch i fyny’r heol. O’r maes parcio trowch i’r dde arno i’r heol. Dilynwch yr heol am ychydig lathenni nes i’r llwybr troed ddechrau ar y dde.

Dilynwch y llwybr troed heibio i’r tai nes cyrraedd ‘Rock House’. Trowch i’r chwith i fyny’r heol ac, ar ôl y tai ar y dde, trowch i’r dde wrth y groesffordd ac i fyny’r trac mynediad.

Ychydig cyn i’r trac rannu’n ddwy, chwiliwch am sticil garreg yn y clawdd ar y dde, croeswch y sticil a dilyn y llwybr wrth ymyl y cae, gyda’r clawdd ar y chwith.

Croeswch y sticil a dilynwch y trac ag arwyneb llydan am ychydig lathenni, yna cymerwch y llwybr rhwng ‘Maes y Brenin’ a ‘Bryn y Don’. Wedi cyrraedd Llwybr yr Arfordir, trowch i’r dde a dilynwch y llwybr glan môr.

Mae’r llwybr hwn yn cael ei orchuddio pan fydd y llanw’n uchel, ond pan fydd y llanw’n isel parhewch ar hyd y traeth a throwch i’r dde i fyny llithrffordd, yna i’r chwith ar unwaith, a dilynwch y llwybr yn ôl i’r maes parcio a’r arosfan bysys.

Pan fydd y llanw’n uchel, chwiliwch am risiau yn y wal lechi gydag arwydd ‘high tide alternative’ a cherddwch i fyny’r grisiau, trowch i’r chwith , gan aros yn agos at y wal (cadwch oddi ar y
glaswellt os gwelwch yn dda).

Trowch i’r dde ar ddechrau’r dreif ac i fyny’r grisiau gyferbyn. Dilynwch y llwybr caeedig o amgylch, i lawr y grisiau, yna trowch i’r chwith, yna i’r dde, at y llwybr yn ôl i’r llwybr glan môr.

Dilynwch y llwybr yn ôl i’r maes parcio a’r arosfan bysys.

 

TRAETH TREFDRAETH

PELLTER: 1.4 milltir (2.2 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: cyfeiriwch at wefan Cyngor Sir Benfro
CYMERIAD: Twyni tywod, traeth ac ychydig o gerdded ar gwrs golff. Dim sticlau na grisiau. Disgyniad anwastad arno i’ aber, tywod.

Chwiliwch am giât a mynegbost ar ffin y maes parcio gwaelod (neu ochr chwith). Ewch drwy’r giât ac yn syth ymlaen, gan ddilyn y marcwyr llwybr ar draws y cwrs golff.

Wedi gadael y cwrs golff, dilynwch y llwybr uwchben yr aber, ewch yn syth ymlaen at y mynegbost, yna trowch i’r dde’n siarp arno i’r aber, ychydig cyn y tˆy gwyn.

Dilynwch yr afon i lawr a, phan ddaw’r twyni tywod i ben, trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y traeth gan gadw’r twyni ar y dde.

Trowch i’r dde i fyny’r llithrffordd, yn ôl i’r arosfan bysys a’r maes parcio.

Dewch o hyd i deithiau'r Tref ac Aber/Lôn y Felin

Cyfeirnod Grid: SN054396

Dewch o hyd i daith y Parrog

Cyfeirnod Grid: SN048397

Dewch o hyd i daith y Traeth

Cyfeirnod Grid: SN054406

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau