Pwll Deri tuag at Benbwchdy

Taith Fer

PELLTER/HYD: 0.7 milltir (1.1 km) 30 munud bob ffordd
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: 3 camfa, cerdded ar isffyrdd, 100m cyntaf o Llwybr yr Arfordir yn serth, dod yn hawdd i gymedrol gydag arwyneb anwastad.

O’r maes parcio, cerddwch i’r dde ar hyd yr heol, heibio’r heneb i Dewi Emrys (bardd enwog lleol) ac ar draws y sticil cyntaf ar y dde (Rhif 114).

Ar ôl y sticil, mae yna lethr sydd â graddiant o tua 1 mewn 5 am 50m ac ar ei waelod mae yna bedair o risiau ac yna ail sticil (rhif 115).

Dyma rhan anoddaf y daith ac ar ôl y fan hon mae yna lethrau pantiog gyda graddiannau o 1 mewn 10 i lawr am 35m ac yna 1 mewn 5 am 10m (i lawr), 1 mewn 10 am 10m (i fyny) fel a ddangosir ar y map.

Croeswch y trydydd sticil ar ddiwedd y daith hon ac mae yna sedd! Ar y cyfan, mae’r daith hon yn wastad ac mae yna olygfeydd gwych o Fae Pwll Deri lle y gallwch weld y morloi a’u rhai bach yn yr hydref.

Ffeil o Ffeithiau
Y penrhyn i’r gogledd yw Penbrush lle mae gweithgarwch folcanig wedi cynhyrchu lafâu clustog (pillow lavas). Y pwynt uchel tu ôl yw Garn Fawr, Bryngaer Oes Haearn, ac yn syth ymlaen mae Dinas Mawr (gweler y map), caer bentir o’r Oes Haearn.

Yr adeilad gwyn i’r gogledd yw Hostel Ieuenctid Pwll Deri. Gellir gweld (a chlywed) y frân goesgoch yn yr ardal hon – edrychwch am aderyn du gyda phig a choesau coch.

Yn yr Hydref, mae’r morloi’n defnyddio’r mannau bach o siâl yn y bae igael eu rhai bach. O’r maes parcio, mae yna olygfeydd gwych i’r de o Penberry, Carn Llidi, Carnedd Lleithr a’r pegwn uchel ar Ynys Dewi.

Er bod 100m cyntaf Llwybr yr Arfordir yn dipyn o her, mae’r golygfeydd yn werth yr ymdrech ac mae’r llwybr, ar y cyfan, yn wastad ac yn fflat.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM891381

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi