Pwll Deri/Pwllcrochan

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.0 milltir (6.4 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Ymylon clogwyni, garw, gall fod yn wlyb ac yn fwdlyd mewn mannau, 1.4 milltir (2.2 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Clogwyni ymhlith yr uchaf yn Sir Benfro • golygfeydd o’r arfordir • y frân goesgoch • adar y môr • morloi
MWY O WYBODAETH: Byddwch yn ofalus iawn os ydych yn mynd i draeth Pwllcrochan.

Mae’r clogwyni rhwng Pwll Deri a Pwllcrochan ymhlith yr uchaf o gwmpas arfordir Penfro ac maen nhw’n lleoliad gwych i gerdded.

Chiliwch am adar y môr ac, o gwmpas copa’r clogwyni, y frân goesgoch. Mae’r frân goesgoch yn brin o amgylch Prydain ond yn aml gellir gweld yr adar hyn ar hyd y darn hwn o arfordir.

Maen nhw’n hawdd eu hadnabod wrth eu lliw du sgleiniog a’u pig a choesau pinc llachar. Yn aml, fe welwch chi’r frân goesgoch wrth iddi chwilio am bryfed ymhlith y blodau gwyllt niferus sy’n ffynnu yn y glaswellt byr sy’n tyfu ar gopa clogwyni’r môr.

Yn gynnar yn yr haf, mae’r llwybr ym Mhenbwchdy yn pasio trwy luwchfeydd o flodau, gan gynnwys clustog Fair a gludlys arfor. Ar yr arfordir rhwng Pen-caer a Phenmaendewi ceir rhai o’r
golygfeydd mwyaf dramatig yn y Parc Cenedlaethol.

Mae’n dirwedd o bentiroedd a baeau, a grëwyd yn ystod y cyfnod Ordoficaidd – rhwng 500 a 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Roedd y llosgfynyddoedd yn weithgar yn yr ardal, gan boeri llifoedd lafa a oerodd i ffurfio creigiau igneaidd caled iawn.

Mewn mannau, ni chyrhaeddodd y graig dawdd yr arwyneb, gan oeri’n araf o dan y ddaear.

Dros miliynau o flynyddoedd, mae’r mewnwthiadau igneaidd wedi gwrthsefyll erydiad lawer yn well na’r creigiau cyfagos gan ddod yn glegyr caregog fel Garn Fawr, ychydig i’r gogledd o’r llwybr hwn.

Ffurfiwyd y pentiroedd arfordirol hefyd, fel Penbwchdy, o greigiau igneaidd sydd wedi gwrthsefyll erydiad yn well na baeau fel Pwllcrochan, sydd o graig Ordoficaidd fwy meddal.

Mae Pwll Deri a Phwllcrochan yn lloches i’r gymuned fawr o forloi llwyd sy’n byw ar hyd arfordir gogleddol Sir Benfro. Yn hwyr ym mis Awst ac ym mis Medi a Hydref mae morloi’n rhoi genedigaeth mewn cildraethau tawel fel y rhain.

Mae Ian Meopham, Parmon Sector y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Yn yr Hydref mae yna siawns dda iawn o weld morloi bach newydd-anedig.

Os ydych chi’n eu gweld nhw, ceisiwch beidio â tharfu ar y fam trwy fod mor dawel â phosib, aros o dan linell y gorwel a chadw’ch pellter.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM888372

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau