Porthstinan/Porth Clais

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.9 milltir (9.6 km) 3 awr (llwybr llygad i leihau i hanner amser)
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Celtic Coaster 403 o Dyddewi i Borthstinan (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: (2.7 km o gerdded ar y ffordd) arfordir garw, ymylon clogwyni
CHWILIWCH AM: Harbwr Porth Clais – golygfeydd at Ynys Dewi • Gorsaf bad achub Porthstinan

“Porth Clais yw fy hoff le ar yr arfordir hyd yn hyn,” meddai Rowland Hammett o Gerddwyr Cwm Clydach.

Mae’r clogwyni o amgylch Porthstinan wedi eu cysgodi rhag y tywydd gwaethaf gan Ynys Dewi felly, yn ogystal â’r wledd o flodau gwyllt yn y gwanwyn a’r haf (clustog Fair, serennyn, teim, crafanc y frân, gludlys) fe allwch ddisgwyl gweld y ddraenen ddu a gwyros yn dal yn dynn i’r clogwyni.

Glaswelltir a rhos arforol sydd ar y mwyafrif o’r tir mwy agored ar gopa’r clogwyni. Mae morloi llwyd yn bridio ar y traethau islaw o ddiwedd mis Awst er bod Ynys Dewi ei hun yn cynnal y
gytref fridio fwyaf yn y Parc.

Mae grym eithafol y llanw yn Swnt Dewi a dyfroedd cyflym y Bitches yn ganlyniad i’r cyfarfod rhwng dŵr Môr Iwerddon a Chulfor San Siôr sydd, diolch byth i adar y môr a llamhidyddion, yn dod â physgod i’r wyneb sy’n hawdd eu pigo pan fydd y llanw’r rhedeg.

Yn yr ardaloedd corsiog o amgylch Pwll-y-Trefeiddan chiliwch am yr ymerawdwr, gwas y neidr eurdorchog a gwas y neidr blewog a’r fursen fach goch a’r fursen ddeheuol.

Mae cudyllod glas, bwncathod a chudyllod coch yn bridio yn y prysglwyni helyg a hwyaid gwyllt, chwiwellod a chorhwyaid yn byw ar y pwll.

Dyma beth oedd gan Rowland Hammett i’w ddweud am y daith: “Porth Clais yw fy hoff le ar yr arfordir hyd yn hyn. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r porthladd. Yn gynnar yn y bore – gwylio’r llanw’n dod i mewn trwy fynedfa gul yr harbwr. Beth allai ddweud? Mae Borthstinan yn brofiad y mae’n rhaid i chi ei gael eich hun.”

Mae yna gryn dipyn o dystiolaeth o Gristnogaeth Geltaidd gynnar ar hyd y darn hwn o’r arfordir, chiliwch am Gapel a Ffynnon Sant Stinan ym Mhorthstinan, sydd hefyd yn gartref i Orsaf y Bad Achub.

Ar un adeg, harbwr Porth Clais ar aber yr afon Alun oedd y man lle daethpwyd â nwyddau i mewn ar gyfer yr eglwys gadeiriol yn Nhyddewi.

Mae Ian Meopham, Parcmon Sector y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi cerdded y daith hon. Mae’n dweud: “Darn gwych o Lwybr yr Arfordir os ydych am weld y frân goesgoch, mulfrain wen, mulfrain gwyrdd, mulfrain a chlochdarod y cerrig. Gellir gweld morloi trwy gydol y flwyddyn, ond mae yna gyfle gwych yn yr hydref i weld morloi llwyd newydd-anedig. Pan fydd dˆwr yn isel, gellir gweld llamhidyddion hefyd. Mae yna doreth o flodau arfordirol yn y gwanwyn, gyda sioe o flodau sy’n cynnwys corbys afu, gludlys arfor, clustog Fair a’r serennyn.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM721251

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau