Porthgain

Teithiau Byr

PORTHGAIN, YNYS BARRY

PELLTER: 2.5 milltir (4.0 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llanrhian 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Pen clogwyn, clos fferm, cerdded ar heolydd bach. 2 sticil. Grisiau, 1 giât mochyn.

Cerddwch yn ôl i fyny’r heol ac, wedi pasio’r mynegbost ar y chwith, trowch i’r dde i lawr trac mynediad i Fythynnod Gwyliau Ynys Barry.

Trowch i’r dde (dilynwch gyfeiriad y mynegbost) a dilynwch y trac mynediad drwy’r fferm ac ar ddiwedd yr iard fferm croeswch y sticil o’ch blaen i’r trac.

Dilynwch y trac, yna ar ôl ail giât trowch i’r chwith dros y sticil yn y giât a dilynwch y llwybr pentir, gan gadw’r ffens ar y dde.

Ewch drwy’r giât a throwch i’r dde i Lwybr yr Arfordir, ewch drwy’r giât mochyn wrth y grisiau i’r traeth ac ar ôl croesi’r bont droed, parhewch yn syth ymlaen ar y llwybr sydd agosaf at y ffens.

Dilynwch y llwybr amlwg o gwmpas ac wrth ymyl y gweithfeydd segur arhoswch ar y llwybr sydd agosaf at y ffens. Wrth y fforc gyda’r postyn marcio llwybr, cymerwch y llwybr i’r chwith tuag at y giât mochyn a’r grisiau.

Trowch i’r dde ar y gwaelod, yn ôl i’r arhosfan bysiau a’r maes parcio.

PORTHGAIN, GWEITHFEYDD BRICIAU

PELLTER: 0.7 milltir (1.2 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llanrhian 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Peth ymyl clogwyn, seth mewn mannau, cwarrau na ddefnyddir mwyach. Dim sticlau. Grisiau, 2 giât mochyn.

Cerddwch yn ôl i’r heol, a throwch i’r dde arno i’r llwybr troed, ychydig bach ar ôl y blwch ffôn.

Dilynwch y llwybr i’r dde, yna ar draws trac mynediad. Ewch yn syth ymlaen trwy’r giât, yna giât mochyn, ac ar ôl cyrraedd y postyn marcio llwybr trowch i’r dde.

Ewch drwy’r giât mochyn, i lawr y grisiau, ac ar y gwaelod trowch i’r dde yn ôl i’r arhosfan bysiau a’r maes parcio.

PORTHGAIN, TRWYN ELEN

PELLTER: 1.0 milltir (1.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llanrhian 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymyl clogwyn, caeau ag anifeiliaid, rhan fer o’r daith yn serth. 2 sticil.

Cerddwch i’r harbwr a chymerwch y llwybr i’r dde o’r llithrffordd. Trowch i’r dde’n siarp cyn y giât a dilynwch y trac heibio tŷ. Wrthi i chi gyrraedd y trac tarmac, parhewch i fyny’r tyle, gan
anelu am y mynegbost o’ch blaen.

Croeswch y sticil i’r chwith a dilynwch y llwybr pentir, gan gadw’r wal ar y dde, yna croeswch sticil garreg a throwch i’r chwith i Lwybr yr Arfordir.

Dilynwch y llwybr i’r pegwn gwyn ac yna i lawr i’r giât. Dilynwch y llwybr i lawr i’r heol a’r arhosfan bysiau/maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM802320

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau