Penrhyn Santes Ann

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.4 milltir (7.0 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Dale 315/316, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymylon clogwyni, gweddol wastad, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Amddiffynfa arfordirol Blocws y Gorllewin • goleudy • adar y môr.

Clogwyni dramatig, treftadaeth gyfoethog a golygfeydd gwych

Mae yna glogwyni serth o Hen Dywodfaen Coch ar hyd y penrhyn, gyda llwyfandir bron yn wastad ar gopa’r clogwyni – canlyniad erydiad a dorrwyd gan y tonnau pan yr oedd y môr 200 troedfedd yn uwch rhyw 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Penrhyn Santes Ann ar benrhyn Dale yw’r man mwyaf heulog yng Nghymru ac mae yma rhai o’r ffigurau glawiad isaf yn yr ardal, ac felly, yn gyffredinol, mae’r siawns o weld golygfeydd gwych ar draws y dŵr i Sgogwm yn lled dda.

Yn Cobbler’s Head, mae yna ffoldiadau gwych o glogwyni lliwgar dramatig. Sgogwm oedd Arsyllfa Adar cyntaf Prydain. Fe’i sefydlwyd yn 1933 ac, fel ei chymdogion, Sgomer a Middleholm, mae nawr yn cael cydnabyddiaeth ryngwladol am ei bywyd gwyllt.

Mae Sgogwm yn lloches i’r pâl, y gwylanod coesddu, heligogod, mulfrain gwyn a phalod Manaw. Mae’r frân goesgoch, yr aderyn drycin, yr hebog tramor, y bwncath a’r tinwyn hefyd yn ymweld â’r ynys a’r ardal o amgylch Penrhyn Santes Ann.

Mae llamhidyddion a dolffiniaid yn nodwedd reolaidd yn y dŵr oddi ar y pentir. O Flocws y Gorllewin, mae yna olygfeydd gwych ar draws Dyfrffordd Aberdaugleddau at benrhyn Angle.

Roedd Blocws y Gorllewin yn gaer Duduraidd gynnar ac mae yna olion safleoedd gwn mwy modern.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM805029

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau