Penrhyn Dale

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 6.6 milltir (10.6 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Dale 315/316, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, pen clogwyn, graddiannau serth yn y coetir, caeau a da byw,
0.9 milltir (1.5 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Caer Oes Haearn • olion odyn galch • bae coediog • caer Fictoraidd• golygfeydd i fyny dyfrffordd Aberdaugleddau • Amddiffynfa arfordirol Blocws y Gorllewin • goleudy • adar y môr.

Ar y daith gerdded hon cewch fwynhau clogwyni dramatig, treftadaeth gyfoethog a golygfeydd godidog. Mae’r disgrifiad a ganlyn wedi’i ysgrifennu fel pe baech yn cerdded mewn cyfeiriad clocwedd.

Y dyddiau hyn mae Dale yn lleoliad prysur a phoblogaidd ar gyfer hwylio a hwylfyrddio ond mae traddodiad morwrol hir gan y pentref. Yn y 16eg ganrif hwn oedd un o borthladdoedd pwysicaf Sir Benfro gydag enw am fod yn guddfan i smyglwyr, ac roedd llongau’n parhau i gael eu hadeiladu yn Dale tan y 1850au.

Ceir clogwyni serth o Hen Dywodfaen Coch ar hyd y penrhyn, gyda llyfndir ar frig y clogwyn sydd bron yn wastad – canlyniad erydu gan y tonnau pan oedd y môr 200 o droedfeddi’n uwch
tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Does prin unrhyw goed o gwbl ar benrhyn Dale ond mae’r daith gerdded hon yn mynd drwy lethrau hir i lawr at y môr sy’n anarferol gan eu bod yn goediog iawn.

Mae Caer Dale yn cynnig golygfeydd rhagorol ar hyd Dyfrffordd Aberdaugleddau. Codwyd y gaer Fictorianaidd y tu mewn i gaer lawer mwy o faint o’r Oes Haearn ac roedd yn rhan allweddol o amddiffynfeydd Aberdaugleddau yn y 19eg ganrif.

Erbyn hyn mae’n Ganolfan Astudiaethau Maes i fyfyrwyr bioleg forol. Profiad amheuthun yw dringo i lawr i Fae Castlebeach. Mae ymdeimlad o fod ymhell o bob man yn y dyffryn bach coediog, ac yn aml mae’r traeth bychan yn gwbl wag. Edrychwch am adfeilion hen odyn galch, lle byddai calchfaen yn cael ei losgi i greu calch at ddefnydd amaethyddol.

Y tu hwnt i’r bae mae Llwybr yr Arfordir yn dringo at un o bwyntiau uchaf y daith gan gynnig golygfeydd rhagorol o’r Aber ac ar draws Bae Watwick.

Gerllaw ceir adeilad amddiffynnol arall, sef y West Blockhouse mawreddog sy’n dyddio o oes Fictoria. Erbyn hyn mae’n llety gwyliau, ac mae ei leoliad wedi’i guddio’n dda.

Wrth ei ymyl ceir tri thŵr llywio – mae’r rhain, ynghyd â’r un sengl ym Mhwynt Watwick, yn llywio tanceri wrth iddyn nhw ddod i mewn i’r ddyfrffordd.

Watwick Bay, Dale

Mae cyswllt brenhinol hanesyddol rhwng Mill Bay â brwydr Seisnig enwog. Glaniodd Harri Tudur (Brenin Harri’r VII yn ddiweddarach) ym Mill Bay ym mis Awst 1485 gyda llu o 2,000 o ddynion.

Bu lluoedd Tudur yn teithio am rai wythnosau at Faes Bosworth, gan gasglu cefnogwyr ar y ffordd. Gyda’i fuddugoliaeth ar Faes Bosworth enillodd Harri deyrnas a rhoddwyd brenin i Loegr a anwyd yn Sir Benfro.

Penrhyn y Santes Ann yw safle mwyaf heulog Cymru ac yma ceir rhai o’r cyfraddau glaw isaf drwy’r rhanbarth, felly mae’r tebygolrwydd o allu gweld y golygfeydd godidog dros y dŵr i Ynys Sgogwm yn ffafriol ar y cyfan.

Ym Mhenrhyn y Cobbler’s gwelir plygiadau yn rhai o’r clogwyni dramatig lliwgar. Sgogwm oedd Arsyllfa Adar gyntaf Prydain, a sefydlwyd ym 1933, ac fel ei chymdogion, Sgomer a Middleholm, caiff ei chydnabod bellach yn rhyngwladol am ei bywyd gwyllt.

Mae Sgogwm yn hafan i balod, gwylanod coesddu, gwylogod, mulfrain ac adar drycin Manaw. Bydd ambell i frân goesgoch, pedryn drycin, hebog, boncath, a chynffonwen hefyd i’w gweld ar yr ynys ac yn ardal Penrhyn y Santes Ann.

Mae llamhidyddion a dolffiniaid hefyd i’w gweld yn rheolaidd o’r dyfroedd ger y penrhyn. Dywed Haydn Garlick, cyn Barcmon Adran y Gorllewin Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd wedi bod ar hyd y daith hon: “Bydd cerddwyr yn dod ar draws brain coesgoch, cigfrain a hebogau, ac ar hyd ochr orllewinol y daith, gallen nhw fod yn ddigon lwcus i weld tystiolaeth o foch daear. Mae Penrhyn y Santes Ann yn cynnwys dau o chwe goleudy’r sir, gydag un yn cael ei ddefnyddio fel llety gwyliau, a’r llall yw’r unig oleudy sy’n gweithio ar dir mawr Sir Benfro.”

Mae’r daith hefyd yn mynd heibio i safle canolfan lyngesol fawr o’r ail ryfel byd yn Kete. Cafodd ei defnyddio yn ystod y rhyfel fel Ysgol Cyfeirio Awyr y Llynges Frenhinol ar gyfer hyfforddi technegwyr radar a swyddogion cyfeirio ymladdwyr.

Yna comisiynwyd canolfan Kete fel HMS Harrier ym 1948, gan weithredu fel Ysgol Feteoroleg y Llynges Frenhinol tan iddi gau ym 1961. Ychydig iawn sydd ar ôl o’r safle a’i adeiladau helaeth a’i ffyrdd bellach.

Mae Bae Gorllewin Dale yn draeth tywodlyd deniadol sy’n boblogaidd â syrffwyr.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM815046

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau