Penrhyn Angle

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 9.3 milltir (14.9km) 5 awr, Adrand deheuol 7.1 milltir (11.4km) 3 awr 30 munud

CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Angle 366/388, CoastalCruiser

CYMERIAD: Egniol a serth mewn mannau, caeau a da byw, ymyl clogwyni, 0.6 milltir (1.0 km) o gerdded ar isffyrdd

CHWILIWCH AM: Pentref Angle gyda phensaernïaeth Trefedigaethol Indiaidd unigryw • gorsafoedd bad achub hen a newydd •Ynys Thorn • hen sefydliadau rhyfel • taith hyfryd trwy’r coetir gyda golygfeydd da o’r Daugleddau ar adran ogleddol y llwybr

MWY O WYBODAETH: Edrychwch ar y tablau llanw ar gyfer y llwybr llanw isel.

Mae Penrhyn Angle yn dirwedd drawiadol, ddigysgod. Mae’r traeth bach yng Ngorllewin Angle yn wynebu aber dyfrffordd y Daugleddau ac mae’n gallu cael ei ddyrnu gan y gwyntoedd cryf, ond ar ddiwrnod da mae’n lle gwych i bori trwy’r pyllau creigiau.

Tu hwnt i Fae Gorllewin Angle mae Ynys Thorn, gyda’i chaer o Oes Fictoria. Dyma un o saith caer, sy’n dyddio o ail hanner yr 19eg ganrif, i amddiffyn y Daugleddau.

Wedi’u hadeiladu i amddiffyn yn erbyn bygythiad o Ffrainc a ddaeth i ddim, yn fwy ddiweddar mae’r Caerau wedi cael eu hailenwi’n ‘Palmerson’s Follies’ ar ôl yr Arglwydd Palmerston, Prif Weinidog y dydd.

West Angle Bay, Pembrokeshire, Wales, UK

Mae’r llwybr hefyd yn cynnwys Bae Angle, darn cysgodol o fwd a thywod sy’n denu adar gwyllt a rhydwyr pan fydd y llanw’n isel. Mae’r bae yn fwrlwm o adar yn ystod y gaeaf gyda heidiau mawr o bibyddion y mawn, cornicyllod a phibyddion coesgoch i’w gweld.

Mae gan bentref Angle draddodiad morol cyfoethog ac arferai fod yn gymuned bysgota brysur. Un stryd o fythynnod yw’r pentref, ar gefndir o gaeau ag arnynt ôl canrifoedd o amaethu stribed canoloesol – arwydd o hanes hir Angle.

Chwiliwch hefyd am sawl adeilad canoloesol gan gynnwys capel pysgotwyr, colomendy a’r Tŷ Tŵr tri llawr unigryw, a adferwyd yn ddiweddar gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Adeiladwyd y Tŷ Tŵr sy’n dyddio o’r 1300au hwyr fel cartref caerog ar gyfer arglwyddi’r faenor yn Angle.

Efallai mai ‘yswiriant’ ydoedd ar adeg o densiwn gwleidyddol gyda Ffrainc neu yn erbyn morladron ysbeilgar.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM860027

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau