Penrhyn/Aberbach

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.7 milltir (4.3 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Dinas/Abergwaun 412, *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymylon clogwyni, lonydd, gweddol wastad, 600 m ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Adar môr • golygfeydd

Mae Aberbach yn draeth bach, hyfryd o ddiarffordd, o gerrig mân sy’n gorwedd ym mreichiau clogwyni isel (100 tr) sy’n frith o gildraethau a cheudyllau bach.

Defnyddir yr ardal yn helaeth gan syrffwyr caiac ac mae yna olygfeydd gwych allan i’r môr ac yn fewndirol tua bryniau cribog Carn Bica a Charn Gelli sy’n codi uwchlaw pentref Penrhyn.

Mae’r ehangder hwn o arfordir rhwng Ynys Dinas ac Abergwaun yn lle gwych i weld adar môr; chiliwch am wylanod, cigfrain, y frân goesgoch a’r hebog tramor ar y clogwyni gydag ambell i fulfran, gwalch y penwaig, heligog a mulfran wen.

Mae serennyn y gwanwyn, llyriad corn y carw, corbys a theim yn rhai o’r planhigion sy’n gallu tyfu’n dda yn y pridd tenau ar frig y clogwyn.

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM985381

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau