Parrog Trefdraeth i’r Bont Haearn

Taith Cadair Olwyn

PELLTER: 0.6 milltir (1.0 km).
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefdraeth T5 (yn hygyrch i gadeiriau olwyn), Poppit Rocket (tymhorol, ddim yn hygyrch i gadeiriau olwyn)
CYMERIAD: Llwybr cadair olwyn ar lan afon wnaed i’r pwrpas o gerrig rholiog.

Llwybr o garreg roliog wnaed i’r pwrpas at safonau cymeradwy; croesgwymp yn ddibwys. Gall wyneb y llwybr orlifo yn y gaeaf, fe’i hatgyweirir bob gwanwyn.

Er bod y llwybr at ei gilydd yn wastad, mae arno rediadau ysgafn ac fe’i defnyddir yn aml gan seiclwyr.

Mae’r tirfeddiannwr yn caniatáu i bobl ifanc farchogaeth ceffylau ac yn caniatáu seiclwyr ar y llwybr hwn, ond mae defnydd o’r fath yn anaml.

Rhai seddau, clwydi yn y pen dwyreiniol. Toiledau ym maes parcio Stryd Hir, Trefdraeth.

Cadair olwyn 1.1 km.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN052397

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau