Parc Slebech

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.1 milltir (3.4km) 1 awr. Dilynwch y saethau gwyn, os gwelwch yn dda.
CYMERIAD: Llwybr ag arwyddbyst, yn weddol lefel yn y coetir, y tir pori, a pharcdir ac yn rhannol ar hyd rhodfa ystâd
MWY O WYBODAETH: Gall y llwybr fod ar gau dros dro am gyfnodau byr oherwydd rheolaeth ystad a saethu. Am wybodaeth bellach cysylltwch â 01437 752000.
CHWILIWCH AM: Golygfeydd o’r afon, adfeilion eglwys ganoloesol, Neuadd Slebets a gerddi.

Crëwyd y daith hon mewn cydweithrediad â thirfeddiannwr Parc Slebets sy wedi rhoi ei ganiatâd i’r cyhoedd gerdded taith gylched. Ymgymerwyd â gwelliannau i’r llwybr gan wirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol yn 2015.

Mae Ystâd Parc Slebets wedi’i lleoli mewn 650 erw o gaeau âr, tir pori a choetir yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar estyniadau’r llanw uchaf yr afon Cleddau Ddwyreiniol.

Yn ystod y 13eg a’r 14eg ganrif roedd yn ganolfan i Farchogion yr Ysbyty o Urdd Sant Ioan, urdd fynachaidd o farchogion a ymladdodd yn y croesgadau.

Sefydlodd Marchogion Sant Ioan bencadlys yn Slebets i weinyddu eu tiroedd eang a’u heiddo yng ngorllewin Cymru. Fe sefydlon nhw hefyd hosbis fel man aros i bererinion oedd yn
teithio i Dyddewi.

Yn ystod diddymu mynachlogydd o dan orchymyn Harri’r VIII, cipiwyd tiroedd yr urdd grefyddol gan y goron a daeth bywyd y pencadlys i ben.

Adfail y cyn eglwys blwyfol a’i thŵr Normanaidd, sy’n dyddio o’r 12fed ganrif, a muriau trwchus sylfaen Neuadd Slebets ydyw’r unig rannau sy’n aros bellach o’r anheddiad canoloesol hwn oedd unwaith mor sylweddol.

Pasiwyd y tiroedd i deulu’r Barlows, teulu bonedd pwerus Tuduraidd, barhaodd i fod yn berchen ar Slebets tan y 18fed ganrif.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu Neuadd Slebets yn y 1750au. Yn ei amser roedd yn un o faenordai Sioraidd mwyaf ysblennydd Cymru gyda strwythur castellog a mawreddog a nifer o nodweddion allanol yn goroesi.

Adeiladwyd hefyd ystod mawreddog o stablau a thai coetsis o gwmpas y buarth canolog. Mae’r tai allan rhestredig Graddfa ii hyn nawr yn ffurfio rhan o lety ymwelwyr a thŷ bwyta.

Mae’r Neuadd a’r ystâd wedi newid dwylo nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn hen fynwent yr eglwys yn Slebets y gorwedd Sir William Hamilton wrth ochr ei wraig gyntaf ac aeres Slebets, Christine Barlow.

Yn dilyn marwolaeth Catherine yn 1782 priododd ei ail wraig, Y Foneddiges Emma Hamilton, gafodd berthynas gyhoeddus yn ddiweddarach gyda’r Arglwydd Nelson.

Yn ddiweddarach priododd uchelwr Pwylaidd, Baron de Rutzen, i mewn i’r teulu ac yn 1848 ef oedd yn gyfrifol am adeiladu eglwys y plwyf newydd ar gyfer Slebets sy wedi’I lleoli ar yr hyn sy bellach yn ffordd yr A40.

Gorffennwyd defnyddio’r hen eglwys ar lan yr afon wedi hyn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN030141

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi