Nolton Haven

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.8 milltir (4.6 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, (1.5 km o gerdded ar isffyrdd), caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Pwll Glo Trefrane • gwiberod.

Mae creigiau caletach yn troi yn faeau mwynach gydag arwyddion o’r dreftadaeth ddiwydiannol yn ymdoddi i’r tirwedd…

Wrth i greigiau hynach a chaletach Penrhyn Tyddewi ildio i haenau glo’r cyfnodau Carbonifferaidd (mae cloddio am lo wedi gadael ei farc, gweler olion Pwll Glo Trefrane), mae’r morlin yn meddalu i mewn i draeth a thwyni yn Niwgwl.

Mae’r tonnau’n erydru’r graig feddalach, gan raddio’r deunydd a gadael y darnau mwy garw wrth gefn y traeth fel cerrig mân neu glogfeini.

Mae gan Niwgwl, yn benodol, fanc neilltuol o gerrig mân ar ben uchaf y traeth. Caiff deunydd caletach fel tywod a graean bras eu tynnu yn ôl i lawr y traeth gan yr adlif, i’r draethlin.

Yn Nolton Haven mae’r môr wedi torri i mewn i’r creigiau gwannach i ffurfio bae cysgodol, tywodlyd ym mreichiau pentiroedd bach. Chwiliwch am wiber ar y gweundir ar gopa’r clogwyni, gyda’u marciau igam-ogam nodweddiadol.

Mae Ian Meopham, Parcmon Sector y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi cerdded y daith hon. Mae’n dweud: “Gellir gweld cigfrain a brain coesgoch yn Rickets Head, a gellir gweld pori arfordirol ar y daith hon hefyd, ble mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyflwyno merlod i’r godiroedd i adfer yr ardaloedd arfordirol. Mae olion pwll glo yn atgof o orffennol diwydiannol y rhanbarth.”

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM855185

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau