Parrog Trefdraeth-Aber Rhigian-Trilys

Taith Hanner Diwrnod +. 4.6 milltir (7.4 km). 2 awr.

PELLTER/HYD: 4.6 milltir (7.4km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefdraeth T5, *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Cliff edges, moorland, trunk road crossing, stiles, pavement through Newport
CHWILIWCH AM: Chwareli clogwyni môr segur, adar môr, blodau pen clogwyn, traeth cerrig, dyffrynnoedd coediog, nentydd a rhaeadr, buarth gwartheg ac odyn crochenwaith Canoloesol yn Nhrefdraeth.

Mae’r daith yn dechrau ym maes parcio Parrog yn Nhrefdraeth lle gwelwch Glwb Cychod Trefdraeth (hen warws), odyn calch, caffi, safle gwersylla a bythynnod glan y môr hyfryd. Mae harbwr Parrog ar ochr ddeheuol aber Nanhyfer. Mae cychod wedi’u hangori yn siglo ar donnau’r harbwr.

Mae ein taith yn mynd i’r gorllewin, heibio’r hen orsaf bad achub yng Nghwm ar Lwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ar hyd clogwyni sydd wedi’u carpedu â serennyn y môr, clustog Fair a gludlyd arfor, i’r traeth cerrig mân yn Aber Rhigian. Bydd gwylanod y penwaig, jac-dos, adar drycin y ddraig a phiod môr yn galw o’r creigiau islaw.

Mae’r llwybr wedyn yn troi’n ddyffryn coediog wrth nant Rhigian lle mae clychau’r gog, garlleg gwyllt a blodau’r gwynt yn cyfarch ymwelydd yr haf. Mae’r isdyfiant yn fwrlwm o gân yr adar. Ar ôl pasio tˆy Rhigian mae lôn yn arwain i fyny i brif ffordd yr A487. Croeswch yn ofalus iawn. Ewch yn eich blaen ar lwybr heibio Fferm Holmws. Ewch drwy’r giât a’i chau.

Dilynwch ffin y cae i’r chwith. Dringwch y gamfa serth i mewn i’r goedlan. Croeswch y goedlan i gyrraedd camfa arall. Croeswch gae bach ac ewch drwy un giât, ac yna’n syth i’r dde drwy giât arall i lwybr caeedig wrth ymyl nant.

Dilynwch y llwybr sydd ag arwyddion arno drwy giât arall, ac yna dros ddwy gamfa i waelod llethr serth. Trowch i’r chwith am 100 llath i ymweld â hen fuarth gwartheg, ac yna aildroedio’r un llwybr yn ôl i’r gamfa.

Ewch yn eich blaen i fyny’r llethr serth i groesi ffordd tarmac (Ffordd Bedd Morris) at lôn sy’n arwain at lwybr Trilys ar draws y mynydd. Deg llath o flaen ffordd tarmac arall (Heol y Felin), trowch i’r chwith yn sydyn a cherddwch yn ôl 30 llath. Trowch i’r dde drwy giât gydag arwyddbost arni a cherddwch i’r gogledd i lawr llwybr serth, o’r enw’r Slade, sydd ger nant mewn dyffryn coediog i gyrraedd prif ffordd yr A487 eto.

Croeswch yn ofalus a cherddwch ar hyd y palmant heibio’r Neuadd Goffa lle gallwch ymweld â’r odyn grochenwaith Canoloesol. Cymerwch y troad cyntaf i lawr Parrog Ffordd i ddychwelyd i’ch man cychwyn yn y Parrog.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyf Grid: SN051396

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân
  • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn
  • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi