Mynydd Dinas

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.6 milltir (7.4 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Dinas 412, *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Cerdded ar y bryniau, rhostir garw, da byw, 1.7 milltir (2.75 km) ar drac fferm isffordd, rhigolog a mwdlyd mewn mannau
CHWILIWCH AM: Golygfeydd gwych o’r arfordir tua’r tir • hen bentreflannau fferm.

Mae’r golygfeydd o gopa Mynydd Dinas yn gallu bod yn odidog. Ar ddiwrnod arbennig o glir, mae’n bosib gweld penrhyn Llŷn yn y pellter i’r gogledd a hyd yn oed Mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon.

Yn nes adref, ar gopa gwylaidd y bryn rydych chi tua 300m (984tr) uwchben lefel y môr ac mae’n safle gwych i weld y gyfres o bentiroedd sy’n nodweddiadol o arfordir gogledd Penfro.

Ychydig islaw Mynydd Dinas mae’r penrhyn a elwir yn Ynys Dinas. Nid yw’n ynys o gwbl – mewn gwirionedd mae wedi ei chysylltu at yr arfordir trwy gors isel.

Mynyddoedd y Preseli yw’r mynyddoedd uchaf yn Sir Benfro ac maen nhw wedi eu gwneud o garreg laid a siâl Ordoficaidd sydd wedi’i gywasgu i ffurfio llechi gwydn.

Mewn mannau, mae yna ddarnau o ryolit a dolerit hefyd, sef y garreg las enwog sy’n ffurfio cylch mewnol Côr y Cewri (Stonehenge).

O Ddinas mae’n edrych fel petai’r Preselau yn codi’n syth allan o’r môr ac o bentref bach Dinas Cross rydych chi ar y rhostir agored yn eithaf cyflym.

Mae llawer o ucheldir y Preselau yn gorsiog ac mae’r pridd yn asidig, sy’n golygu bod planhigion fel ffynidfwsogl, llysiau’r afu, rhedyn a thegeirianau’n ffynnu. Yn hwyr yn yr haf mae lliw pinc cynnes y grug yn ychwanegu cyfoeth o liw at y dirwedd.

Wrth i chi gerdded, chwiliwch am fwncathod a chigfrain ac efallai y gwelwch chi ylfinir, sef rhydiwr sydd â phig hir sy’n crymu am i lawr ac sy’n bwydo ar rostir gwlyb.

I raddau helaeth, mae rhostir y Preseli yn dir pori cyffredin. Mae nifer fawr o ddefaid yn pori’r bryniau ochr yn ochr â merlod gwydn y Preseli.

Fe all y mynyddoedd deimlo’n unig heddiw ond maen nhw’n gyfoeth o gliwiau i bresenoldeb cenedlaethau cynharach. Yn agos at y llwybr yn Nhrellwyn mae’r Parc Meirw, sef grŵp o gerrig sefyll y credir eu bod yn dyddio o’r Oes Efydd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN011383

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi