Minwear/Coed Canaston

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.1 milltir (8.2 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth ym Mhont Canaston ar ôl cerdded 1 km trwy’r coetir 322/381/385
CHARACTER: Coetir, gweddol wastad
CHWILIWCH AM: Melin Blackpool • coetir • golygfeydd o’r afon

Mae dyffryn Dwyrain y Cleddau wedi bod yn goediog ers sawl canrif. Ar un adeg, roedd yr ardal sydd i’r de o Bont Canaston heddiw tu mewn i ffin coedwig ganoloesol Arberth.

Mae Coed Minwear a Canaston yn goetiroedd hynafol, er, yn y ganrif ddiwethaf, mae conifferau sy’n tyfu’n gyflym wedi cymryd lle rhai o’r deri.

Yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod hwn maen nhw wedi bod yn goed gweithiol; roedden nhw’n torri pren a’i droi’n olosg ac yn bostion pwll, ac yn casglu rhisgl derw – hyd nes oes Fictoria fe fydden nhw’n ei ddefnyddio i drin lledr.

Roedd yna ffwrnais chwyth yng Nghoed Canaston, hefyd, a gynhyrchai haearn. Fe’i adeiladwyd yn y 1630au gan y meistr haearn o Loegr, George Mynne, ac roedd yn defnyddio haearn a gloddiwyd yn lleol a golosg o’r coedwigoedd cyfagos.

Yn ddiweddarach, sefydlwyd gefail haearn yn Blackpool, Melin Blackpool heddiw. Adeiladwyd y felin ym 1813 ar safle’r efail.

Roedd yn weithredol hyd nes yr Ail Ryfel Byd ond yna ni chawsai ei defnyddio. Yn y felin, mae’r Cleddau yn cyrraedd ei derfyn llanwol, gan adael dylanwad yr heli o’r diwedd.

Mae yna adar glan dŵr fel crëyr a glas-y-dorlan i’w gweld ac mae yna doreth o rywogaethau sy’n hapus yn y coed hefyd, gan gynnwys y titw cynffon hir, cnocell smotiog y coed a’r dringwr bach.

Mae gan yr ardal lawer o gysylltiadau â’r Oesoedd Canol. Yn agos at y llwybr, mae olion a elwir yn Tŷ’r Chwiorydd sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol. Mae’n bosib ei fod yn arfer bod yn hostel i bererinion benywaidd.

Drws nesaf i Fferm Minwear mae Eglwys Sant Womar o’r 12fed ganrif, a fu unwaith dan reolaeth Marchogion Sant Ioan.

Dewch o hyd i'r daith hon

Grid ref: SN060143

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi