Minwear/Coed Canaston

Teithiau Byr

Safle Picnic Minwear

PELLTER: 1.0 milltir(1.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth ym Mhont Canaston wedi cerdded 1 km trwy’r coetir 322/381/385
CYMERIAD: Llwybrau cerdded, peth graddiant. Dim sticlau. Grisiau i lawr.

Cerddwch i lawr y llwybr ar gornel dde gwaelod yr ardal bicnic (arwydd ‘Llwybr Coedwig Minwear Forest Walk’). Ewch i lawr y grisiau ac, ar y gwaelod, trowch i’r chwith arno i’r trac llydan.

Wrth y postyn marcio’r llwybr at yr olygfan ar y dde, naill ai trowch i’r dde at yr olygfan ac ewch yn ôl yr un ffordd, neu ewch yn syth ymlaen trwy’r llannerch, yna nôl i mewn i’r coed.

Wrth y mynegbost, trowch i’r chwith ac, wrth agosau at yr heol, chwiliwch am y llwybr o’ch blaen ar ochr gyferbyn yr heol. Croeswch yr heol a dilynwch y llwybr amlwg trwy’r coed, gan fynd i fyny’r tyle ychydig.

Wrth y postyn marcio’r llwybr mae’r llwybr yn troi i’r chwith ac yna’n fuan i’r chwith eto, ac wedyn i lawr y tyle. Ar y gwaelod, croeswch yr heol yn ôl i’r man picnic.

Canaston Wood Bridge

Coed Canaston

PELLTER: 2.3 milltir (3.7 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth ym Mhont Canaston wedi cerdded 1 km trwy’r coetir 322/381/385
CYMERIAD: Llwybrau drwy goetir, cymharol wastad. Dim sticlau na giatiau.

O’r maes parcio, cerddwch yn ôl i’r heol, trowch i’r chwith ac yna trowch i’r dde’n fuan arno i lwybr ceffylau llydan. Dilynwch y trac ac ar ôl croesi’r nant, gan fynd o dan y trac, cymerwch y trydydd llwybr gydag arwydd ar y dde.

Dilynwch lwybr glaswelltog trwy goed ifancach ac, wedi cyrraedd y coed mwy aeddfed, chwiliwch am fynegbost a throwch i’r dde. Wrth y fforc, ewch yn syth ymlaen a pharhewch i ddilyn llwybr
glaswelltog.

Ar y diwedd, trowch i’r chwith arno i’r trac, a throwch i’r chwith eto arno i’r heol yn ôl at Felin Blackpool.

Dewch o hyd i daith Safle Picnic Minwear

Cyfeirnod Grid: SN053135

Dewch o hyd i daith Coed Canaston

Cyfeirnod Grid: SN071140

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi