Martin’s Haven tuag at Gateholm

Taith Cadair Olwyn

PELLTER: 0.8 milltir (1.3 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Pâl Gwibio (DIM mynediad hwylus i gadeiriau olwyn)
CYMERIAD: Llwybr wrth ymyl cae; golygfeydd arfordirol.

Trowch i’r chwith trwy giât wiced yn ochr orllewinol maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (tâl i barcio yn ystod y tymor). Llwybr wrth ymyl y cae.

Graddiannau llai na 1 mewn 20; dim llethr i’r ochr y byddech yn sylwi arno, dim seddau, tair giât gyda chloeon hygyrch.(‘Sterling EX3 (Classic)’ wedi taclo’r llwybr heb unrhyw broblemau).

Golygfeydd hyfryd o Ynysoedd Sgomer a Sgogwm. Toiledau ym Marloes.

Llwybr Mynediad Hwylus 1.3 km.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM760089

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau