Longhouse i Ben Castell-coch

Taith Fer

PELLTER/HYD: 0.9 milltir (1.5 km) 45 munud bob ffordd
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Un sticil, llwybr concrit am y 300m cyntaf , dau grid gwartheg gyda giatiau, yna arwyneb glaswelltog eithaf gwastad ar gyfer gweddill y daith gerdded.

Parciwch ar y man glaswelltog ar y dde, ar ddiwedd y ffordd fynediad i Fferm Longhouse. Gofalwch nad ydych yn rhwystro mynediad ar gyfer cerbydau fferm mawr.

O iard y fferm, dilynwch yr arwyddion ar y dde i Garreg Samson tuag at grid gwartheg a’r giât. Ewch drwy’r giât a pharhewch ar hyd y llwybr.

Ar y cyfan, mae’r llwybr yn wastad, yn fflat ac yn laswelltog, ond mae’r 300m cyntaf yn lwybr concrit llydan sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae’r llwybr yn arwain at Garreg Samson, sef cromlech Neolithig neu siambr gladdu. Fe’i hadeiladwyd tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl, a fwy na thebyg y cafodd ei defnyddio ar gyfer o leiaf
100 claddedigaeth gwahanol.

Mae’r capfaen dros 5m (16ft) o hyd a bron yn 3m (10ft) o led, yn  gorffwys ar dri o’r chwe charreg unionsyth. Mae’r llwybr concrit yn parhau i’r grid gwartheg nesaf, ac yna’n newid i mewn i lwybr glaswelltog, cul.

Croeswch y sticil sydd â grisiau isel a rêl sy’n codi i’ch helpu i ddod drosto’n ddiogel. Lle mae’r llwybr yn fforcio, dilynwch y llwybr uchaf sy’n aros yn agos at linell y ffens.

Dyma’r llwybr mwyaf gwastad a lleiaf serth i gyrraedd Llwybr yr Arfordir. O’ch blaen, mae yna olygfeydd gwych tuag at Bwll Deri a Garn Fawr.

Trowch i’r chwith ar Lwybr yr Arfordir sy’n rhedeg ar hyd ymyl y clogwyn. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n berchen ar y tir, yn gadael i bobl gerdded ar y man gwastad wrth ymyl y cae a thrwy giatiau’r cae.

Edrychwch am gudyllod (kestrels) tuag at Pen Castell-coch. Fe allwch weld ffosydd a banciau caer bentir Oes Haearn Pen Castell-coch, sy’n Heneb Rhestredig, ar ôl mynd drwy’r giât olaf.

Mae’n lle gwych i gael picnic, gyda llond lle o flodau yn y gwanwyn. Mae yna olygfeydd gwych o’r arfordir i’r de orllewin, gyda Phenberry a Charn Llidi yn y pellter.

Fe allwch weld yr arwyddnod gwyn ar fynediad Harbwr Porthgain hefyd. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr, sy’n parhau i fod yn wastad ac yn fflat hyd at  Bwll-llong, neu ewch yn
ôl ar hyd yr un llwybr.

Mae’r wal o gerrig ar hyd y llwybr yn llawn o flodau gwyllt yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf.

Dewch o hyd i'r daith hon

Grid ref: SM847334

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau