Llwybr Mileniwm Trefdraeth

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.0 milltir (8.0 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefdraeth 412, *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Taith aber, coetir a mynydd
CHWILIWCH AM: Adar yr aber • hen lonydd a ffermydd yng Nghwm Clydach • golygfeydd o Garningli.

Mae enw Cymraeg y dref yn cydnabod y ffaith fod gan y dref ddau draeth. Mae’r traethau hyn wedi eu gwahanu gan yr Afon Nyfer.

Mae’r llwybr yn ymylu ag un, sef y Parrog, tra gellir gweld y llall – Traeth Trefdraeth – ar draws yr aber llanwol.

Dyma le cyfareddol. Fe’i sefydlwyd fel Novus Burgus tua 1200 gan Arglwydd Normanaidd Cemaes, ac mae patrwm y strydoedd yn glynu’n agos at batrwm grid y dref Normanaidd newydd ac erys y castell yn brif dirnod y dref.

Ond, mae’r llwybr yn cyffwrdd â chymunedau llawer cynharach. Mae siambr gladdu Neolithig, Carreg Coetan Arthur, bellach yn sefyll – yn ddigon anghydweddol – yn agos at ystâd fechan o dai.

Carreg Coetan Arthur, Newport

Pan adeiladwyd y siambr gladdu tua 5,500 o flynyddoedd yn ôl fe fyddai cerrig y siambr wedi cael eu claddu o dan bentwr anferth o bridd i ffurfio crug cylch. Nawr, mae’r benllech fawr yn gorffwys ar ddau o’i bedwar carreg dalsyth.

Adeiladwyd y castell gan sylfaenydd Normanaidd y dref, William FitzMartin. Roedd yn adeilad mawr o garreg gyda mwnt ond roedd ei gyflwr wedi dirywio erbyn yr 16eg ganrif ac fe barhaodd i fod yn adfail am bron i 300 mlynedd.

Adferwyd y castell yn 1859, a thrawsnewidiwyd ei borthdy i ffurfio cartref y mae pobl yn dal i fyw ynddo heddiw. Nid yw’r castell yn agored i’r cyhoedd. Adeilad da arall yw Eglwys y Santes Fair a sefydlwyd hefyd gan William FitzMartin.

Mae’r rhan fwyaf o’r eglwys yn dyddio o’r 19eg ganrif ond mae’r tŵr yn rhan o’r strwythur gwreiddiol. Ffynnodd rhai trefi Normanaidd newydd, methodd eraill. Roedd Trefdraeth yn weddol lwyddiannus, ac fe ddaeth yn gymuned fasnachu ac adeiladu cychod.

O’r 16eg ganrif hyd nes i’r rheilffyrdd ladd llawer o’r nwyddau masnachu arfordirol, allforiwyd nwyddau fel gwlân, llechi a phenwaig o warysau yn y Parrog.

Crëwyd y llwybr gan gymuned Trefdraeth i nodi troad y mileniwm. Caiff ei chynnal gan Grŵp Llwybrau Trefdraeth.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN056392

COD CEFN GWLAD!"

!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi