Llanychaer

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.0 milltir (4.8 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Hawdd i gymedrol – ond un adran serth, llwybr coediog wrth ymyl yr afon, gall fod yn wlyb ac yn fwdlyd, 0.3 milltir (0.5 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Yr Afon Gwaun • adar coetir • hen bontydd cerrig.

Mae Cwm Gwaun a’i lethrau serth yn lle gwych i gerdded ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae’n arbennig o werth chweil yn y gwanwyn. Bryd hynny, mae’r cwm tawel yn gyfoeth o gân adar ac mae yna ddigon o glychau’r gog i lyncu’r heulwen gynnar.

Cwyd y Waun yn y Preseli ac mae’n llifo i’r môr yn Abergwaun. Wrth gwrs, ystyr enw’r dref yw ceg yr afon Gwaun. Mae’r cwm yn grair o’r Oes Haearn, a ffurfiwyd gan symiau sylweddol o ddŵr tawdd a lifodd wrth i’r rhewlifoedd gilio. Mae siâp ‘v’ y cwm yn awgrymu iddo gael ei dorri gan ddŵr a lifai o dan yr iâ ei hun.

Weithiau, gelwir y cwm yn gwm cyfrinachol, ac mae’n rhedeg ar ei amser ei hun. Gwrthododd cymunedau’r cwm i dderbyn y broses o foderneiddio’r calendr yn y 18fed ganrif ac maen nhw’n dal i ddathlu Hen Galan ar Ionawr 13.

Mae’r Waun yn ymdroelli trwy gors, coetir, a dolydd dŵr ac mae’r llwybr hwn yn arwain trwy hen bontydd ar y ddwy ochr ar hyd yr afon sy’n llifo’n gyflym. Chwiliwch am adar coetir, fel
y tingoch, cnocell y cnau a’r cudyll glas, a throchwyr ar hyd glannau’r afon.

Mae olion coedwigoedd hynafol yn cofleidio llethrau’r cymoedd. Rheolwyd y coetir hwn yn ystod dau ryfel byd i ddarparu pren yr oedd mawr ei angen, gan gynnwys propiau pip ar gyfer cloddio.

Roedd rheilffordd yn arfer rhedeg ar hyd y cwm i gludo’r pren o’r felin lifio ym Mhontfaen. Heddiw, rheolir sawl ardal o goetir yng Nghwm Gwaun gan berchnogion tir lleol a gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Maen nhw’n gyfoeth o fioamrywiaeth, ac yn nodedig am amrywiaeth o gennau ac anifeiliaid bach fel y pathew. Mae’r ardal gyfan hon yn gyfoeth o hanes.

Ym mynwent eglwys Llanychaer saif Carreg dirgel y Croeshoeliad, sef heneb sy’n dyddio nôl rhyw 1,200 o flynyddoedd neu fwy. Ymhlith y delweddau sy’n addurno pob un o’i phedwar wyneb mae yna un o ffigur o Grist a blodyn.

Mae yna gerrig hynach eto ym Mharc y Meirw, i’r gogledd o Lanychaer a heb fod ymhell oddi ar y llwybr cylchol hwn. Y safle hwn o’r Oes Efydd yw’r unig res o feini sy’n wybyddus yng ngorllewin Cymru ac o’r wyth garreg wreiddiol, mae pedair yn sefyll o hyd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM993351

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi