Llanychaer/Coed Trellwyn

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.4 milltir (3.8 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Coetir, caeau a da byw, peth graddiannau serth, peth cerdded ar heolydd bach.

O Lanychaer (3 sticil)

Dilynwch y ffordd dros y bont a’i dilyn i fyny’r tyle. Wrth gyffordd yr heol, trowch i’r dde ac i’r dde eto trwy’r giât. Dilynwch y trac, sy’n dwyn i’r chwith heibio’r fferm (cadwch lygad am y saethau melyn).

Ar ddiwedd y trac, cadwch at ymyl y cae gyda’r clawdd ar yr ochr dde, ac ewch drwy’r bwlch i’r cae nesaf, gan gadw’n syth ymlaen ac anelu at y sticil yn y clawdd gyferbyn.

Croeswch y sticil a chroeswch y cae yn groeslinol, gan anelu am garreg sefyll  yng nghanol y cae ac yn syth i’r dde o’r llinell o goed gyferbyn.

Dilynwch y llwybr i lawr i’r coed ac yn agos at y gwaelod chwiliwch am fynegbost ar y dde.

Trowch i’r dde’n siarp, dilynwch y llwybr tuag at y sticil, croeswch y sticil a dilynwch y llwybr trwy’r coed, yna ar ymyl y coetir.

Wrth y mynegbost, trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr i lawr i’r heol. Wrth yr heol, trowch i’r chwith i Lanychaer.

O faes parcio Allt Clun (5 sticil)

Trowch i’r dde arno i’r heol, croeswch y bont, yna trowch i’r chwith rhwng tai (chwiliwch am y marciwr llwybr o’ch blaen). Dilynwch y trac, cadwch at y dde arno i’r llwybr wrth y tˆy nesaf,
yna’n syth dros sticil a dilynwch y llwybr.

Wrth y mynegbost, ar y dde, trowch i’r dde, yna i’r chwith i mewn i’r coed a dilynwch y llwybr i fyny. Croeswch y sticil ar y top a chroeswch y cae yn groeslinol (diagonally).

Parhewch ymlaen, ond cadwch ychydig i’r dde, yna chwiliwch am sticil yng nghornel gyferbyn y cae a maen hir yng nghanol y cae.

Croeswch y sticil a chadwch i’r chwith, gan anelu am y bwlch yn y clawdd gyferbyn, yna cadwch at y llwybr wrth ymyl y cae, gyda’r clawdd ar y chwith, sy’n arwain at drac.

Dilynwch y trac, gan droi i’r dde heibio i’r fferm a dilynwch at y giât wrth ymyl yr heol. Trowch i’r chwith arno i’r heol ac i’r chwith eto a dilynwch yr heol i lawr y tyle.

Ychydig cyn cyrraedd y bont, trowch i’r chwith arno i’r trac, sy’n troi’n llwybr, ar ymyl y coetir. Wrth y mynegbost trowch i’r dde, dilynwch y llwybr i mewn i’r coed ac ar ymyl y coetir.

Wrth y mynegbost ar y chwith, trowch i’r dde. Croeswch y sticil dilynwch y llwybr ar ochr coetir y cae, yna croeswch y stici yn ôl i’r llwybr caeedig ai ddilyn yn ôl i’r heol.

Wrth yr heol, trowch i’r dde i’r maes parcio.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM999352

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi