Llanwnda

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.1 milltir (6.6 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Cerdded gweddol hawdd, esgyniad/disgyniad eithaf serth yng Nghwm Felin, mwdlyd iawn mewn mannau, golygfeydd gwych o’r arfordir, da byw, 0.6 milltir (1.0 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Morloi • llamhidyddion • blodau gwyllt • pentref ac eglwys hynafol Llanwnda • Carregwastad – pwynt goresgyniad y Ffrancod • Fferm Trehowel – pencadlys y cadfridog Ffrengig Tate.

Diolch i’r golygfeydd gwyllt a gwych o Ben-caer mae unrhyw daith ar y pentir yn brofiad gwefreiddiol. Mae’n dirwedd drawiadol a grëwyd gan ddigwyddiadau daearegol dramatig rhwng 500 a 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Bryd hynny, roedd llosgfynyddoedd yn weithgar yn yr ardal ac fe oerodd y llifoedd lafa i ffurfio creigiau igneaidd caled iawn. Mewn mannau, ni chyrhaeddodd yr ymchwydd folcanig o graig dawdd yr arwyneb, gan oeri yn araf o dan y ddaear.

Dros filiynau o flynyddoedd, mae’r ymwthiadau hyn wedi gwrthsefyll erydiad i ddod yn glegyr caregog – Garn Fawr, Y Garn, Garn Gilfach a Garnwnda – sy’n gefndir i’r daith hyfryd hon.

Roedd y clegyr yn bwysig i gymunedau cyntaf yr ardal. Mae yna feddrodau Neolithig ar Garn Gilfach a Garnwnda ac ar gopa Garn Fawr mae yna fryngaer Oes Haearn.

Pwynt Carreg Wastad oedd y lleoliad ar gyfer un o’r digwyddiadau mwyaf cyfareddol yn hanes Sir Benfro – goresgyniad y Ffrancod yn 1797.

Dringodd byddin anffortunus y clogwyni, dan arweiniad Americanwr o’r enw Tate, gan ddiogelu Fferm Trehowel fel ei phencadlys.

Yn y fferm, daeth y milwyr o hyd i stoc dda o ddiod a oedd yn barod ar gyfer priodas. Felly, roedden nhw’n feddw am lawer o’r amser y buont yn yr ardal, cyn ildio yng Ngwdig, gerllaw, dau ddiwrnod yn ddiweddarach.

Un o’u ychydig o ymgyrchoedd ‘milwrol’ oedd ymosodiad ar Eglwys Sant Gwyndaf yn Llanwnda a dwyn plât wedi ei wneud o arian.

Ar yr arfordir, treuliwch amser yn chwilio’r môr am ddolffiniaid a llamhidyddion – yn aml, gellir eu gweld yn pasio’n agos i Ben-caer.

Chwiliwch hefyd am forloi llwyd sy’n aml â chymaint o ddiddordeb yn y bobl sy’n pasio heibio ag sydd gan y bobl sy’n pasio heibio ynddyn nhw.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM922399

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau