Llanwnda/Wdig

Teithiau Byr

LLANWNDA, CARNFATHACH

Pellter: 3.0 milltir (4.8 km)
Cludiant cyhoeddus: Bws gwasanaeth Wdig 411, 410 (Gwasanaeth Tref Abergwaun), *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a teithio), Terfynfa’r rheilffordd ym mhorthladd y Fferi.
Cymeriad: Cerdded ar lwybr garw ar glogwyn, caeau ag anifeiliaid, gall fod yn wlyb mewn rhai mannau. 15 sticil. Grisiau.

Cerddwch ymlaen ar yr heol, gan gadw i’r dde arno i drac a throwch i’r chwith wrth y mynegbost. Dilynwch y trac i’r dde (chwiliwch am bostyn marcio llwybr) ac wrth y mynegbost croeswch y sticil. Croeswch y cau, gan anelu am y sticil gyferbyn, croeswch y sticil, a chymerwch y llwybr caeedig gyferbyn. Wrth y giât ewch yn syth ymlaen ar draws y cae, gan anelu am y giât gyferbyn.

Croeswch y sticil a dilynwch y llwybr wrth ymyl y cae, gyda’r clawdd ar y dde. Ar gornel y cae, dilynwch y llwybr amlwg, y mae’r mynegbost a’r marcwyr llwybr yn ei ddangos, i’r dde ar draws y cae. Croeswch y sticil, trowch i’r dde arno i Lwybr yr Arfordir, a’i ddilyn o amgylch dros Carnfathach ac wrth y mynegbost, trowch i’r dde yn ôl tua’r tir. Dilynwch y llwybr trwy goetir prysg ac, wrth y mynegbost trowch i’r chwith. Wrth y mynegbost nesaf trowch i’r dde, yna cadwch i’r dde yn y fforc ac wrth y mynegbost nesaf trowch i’r dde.

Dilynwch y trac mynediad graean ac yna tarmac, nes cyrraedd mynegbost ar y dde. Trowch i’r dde trwy’r giât, ewch trwy’r giât nesaf, yna trowch i’r dde wrth y trac mynediad. Parhewch yn syth ymlaen at y sticil, ar draws y cae at y sticil gyferbyn, dilynwch y llwybr at y sticil nesaf, croeswch y cae i’r sticil garreg gyferbyn ac yna ewch yn syth ymlaen i’r sticil yn y gornel gyferbyn.

Croeswch y sticil a’r sticil gyferbyn a dilynwch y llwybr at y sticil. Croeswch y sticil a throwch i’r dde ar hyd llwybr pentir, gan gadw’r clawdd ar y dde, a chroesi sticil. Panfydd y clawdd yn plygu i’r dde, ewch yn syth ymlaen at sticil rhwng tai a’i groesi a chadwch i’r dde yn ôl i’r heol.

LLANWNDA, GARNWNDA

Pellter: 0.8 miles (1.3 km)
Cludiant cyhoeddus: Bws gwasanaeth Wdig 411, 410 (Gwasanaeth Tref Abergwaun), *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a teithio), Terfynfa’r rheilffordd ym mhorthladd y Fferi.
Cymeriad: Taith hawdd, rhai graddiannau, anifeiliaid. Dim sticlau. Arwynebau anwastad.

Cerddwch yn ôl i lawr yr heol. Anwybyddwch yr arwydd llwybr troed cyntaf ar y dde, pasiwch y tŷ ac wrth y mynegbost, trowch i’r dde arno i isffordd. Dilynwch yr heol, sy’n troi yn drac cyn hir, yna’n culhau i lwybr troed. Dilynwch y llwybr troed amlwg o amgylch Garnwnda (mae croeso i chi archwilio’r copa – tir mynediad yw hwn).

Wrth y postyn marcio llwybr yn y cyffordd-T (T-junction), trowch i’r dde, yna ewch yn syth ar ymlaen arno i drac mynediad tarmac a throwch i’r chwith arno i’r heol yn ôl i Lanwnda.

LLANWNDA, FEIDR PONTIAGO

Pellter: 2.0 miles (3.2 km).
Cludiant cyhoeddus: Bws gwasanaeth Wdig 411, 410 (Gwasanaeth Tref Abergwaun), *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a teithio), Terfynfa’r rheilffordd ym mhorthladd y Fferi.
Cymeriad: Llwybr hawdd a cherdded ar hyd lôn dawel. Dim sticlau.

O’r man parcio, cerddwch yn ôl i fyny’r heol a throwch i’r dde (arwydd ‘anaddas i gerbydau modur’). Cerddwch heibio i Llanwnda House ac, wrth y fforc, trowch i’r dde a dilynwch y trac i lawr i’r heol.

Trowch i’r chwith arno i’r heol, dilynwch yr heol heibio i’r fferm a’r pentrefan â garej, yna chwiliwch am arwydd llwybr ceffylau byr ar y chwith (mae yna arwydd llwybr troed mwy amlwg
yn syth gyferbyn ar y dde). Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr ceffylau yn ôl i Lanwnda.

WDIG

DISTANCE: 
PUBLIC TRANSPORT: Service bus Goodwick 411, 410 (Fishguard Town Service), *Strumble Shuttle 404 (*seasonal, hail & ride), Railway terminus at Ferry port.
CHARACTER: Coastal, fields and livestock, some minor road walking. No stiles.  Uneven surfaces, 2 kissing gates.

Pellter: 1.6 miles (2.6 km)
Cludiant cyhoeddus: Bws gwasanaeth Wdig 411, 410 (Gwasanaeth Tref Abergwaun), *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a teithio), Terfynfa’r rheilffordd ym mhorthladd y Fferi.
Cymeriad: Arfordirol, caeau ag anifeiliaid, peth cerdded ar heolydd bach. Dim sticlau. Arwynebau anwastad, dwy giât mochyn.

Cerddwch at ddiwedd y maes parcio a dilynwch y llwybr gyda’r arwydd ‘i’r siambrau claddu a Llwybr yr Arfordir’. Pasiwch y siambrau claddu ac wrth y fforc, trowch i’r dde ar y llwybr sydd
agosaf at y tai. Wrth y cyffordd-T (Tjunction) trowch i’r dde ac wrth y cyffordd-T gyda’r heol, trowch i’r chwith arno i Lwybr yr Arfordir.

Trowch i’r chwith ar ôl y giât mochyn a pharhewch i ddilyn Llwybr yr Arfordir wrth y giât mochyn nesaf. Wedi cyrraedd man agored wrth olion bwthyn, chwiliwch am giât ar y chwith ac ewch drwyddi. Dilynwch y llwybr trwy giât arall ac wrth yr ysgubor trowch i’r chwith arno i drac llydan.

Dilynwch y llwybr hwn at gyffordd-T gyda’r heol a throwch i’r chwith i ddychwelyd at y maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM931403

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau