Llanwnda/Wdig

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.9 milltir (7.9 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Wdig 413, 410 (Gwasanaeth Tref Abergwaun), *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio), Terfynfa’r rheilffordd ym mhorthladd y Fferi
CYMERIAD: Taith arfordirol garw, tir fferm
CHWILIWCH AM: Safle Carregwastad goresgyniad y Ffrancod (1797) • Eglwys Geltaidd Llanwnda • morloi • ailgyflwyno pori arfordirol.

Dewch i ymweld â’r safle ble ceisiodd y Ffrancod ein goresgyn.

Mae yna olygfeydd gwych o Lanwnda tua’r tir gyda Rhos Ciliau a Garnwnda yn y cefndir wrth i chi gerdded o amgylch Carn Farthach; ar hyd yr arfordir mae’r olygfa ar draws y pentiroedd i Carregwastad yn fendigedig.

Ar y rhostir arfordirol, ailgyflwynwyd pori traddodiadol (merlod a da byw) i wella’r cynefin ar gyfer bywyd gwyllt. Yn aml, gellir gweld morloi ar y pentiroedd caregog ac yn y cildraethau cysgodol.

Yng Ngharregwastad mae yna biler i goffau Glaniad y Ffrancod yn 1797 a’u hymgais aflwyddiannus i oresgyn. Mae yna gysylltiad annatod rhwng hanes y menywod lleol a ddarostyngodd rym y goresgyniad a thirwedd Sir Benfro ei hun.

Mae’n ymddangos fod y goresgynwyr Ffrengig wedi camgymryd menywod yr ardal, a oedd yn gwisgo’u ffrogiau coch a’u hetiau tal du, am Gotiau Goch byddin Prydain.

Bryd hynny, defnyddiwyd y cennau a ganfuwyd ar greigiau’r rhostir lleol, a gynhyrchai liw coch o’r enw ‘crottal’ i roi’r lliw coch llachar i’r ffrogiau – ac felly fwy na thebyg ei fod wedi helpu atal y goresgyniad.

Mae Eglwys Geltaidd Llanwnda wedi ei gysegru i Sant Gwyndaf, saint Llydewig.

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM935395

SAFETY FIRST!

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau