Llangwm/Blacktar Point

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.5 Milltir (5.6 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llangwm 308/309
CYMERIAD: Hawdd i gymedrol, caeau a da byw, coetir, gall fod yn fwdlyd mewn mannau, 0.6 milltir (1.0 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Golygfeydd o Foel Cwmcerwyn (y man uchaf yn Sir Benfro) • coetir ac aber • golygfeydd gwych o’r afon • rhydwyr, hwyaid a chrëyr • cychod hwylio.

Mae’r dirwedd o amgylch pentref Llangwm yn hynod o nodweddiadol o dir y Daugleddau, tir fferm tonnog, coetir a golygfeydd gwych dros y Cleddau, rhan o’r rhwydwaith o gymoedd afon a orlifwyd gan godiad y môr ar ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf.

Mae’r daith yn wahanol iawn, gan ddibynnu ar y llanw. Pan fydd y dŵr ar ei bwynt lleiaf mae’r mwd a’r gors yn agored ac yn denu rhydwyr fel y goesgoch a’r gylfinir i fwydo.

Mae’r enwau Black Tar a Pwynt Blacktar yn atgof o’r diwrnodau pan fyddai’r afon o amgylch Llangwm wedi bod yn brysurdeb o bysgotwyr.

Defnyddiwyd tar i gadw cychod yn ddiddos. Roedd penwaig yn fusnes mawr i borthladdoedd gorllewin Prydain hyd nes yr aeth yr heigiau anferth o bysgod yn llai a llai cyffredin tua
diwedd y 19eg ganrif.

Roedd gan Sir Benfro fflyd fawr o gychod bach a fyddai’n mynd ar ôl y pysgod bach yn ystod misoedd yr Haf ac roedd Llangwm yn un o’r porthladdoedd penwaig.

Unwaith y daliwyd y pysgod roedd yn rhaid eu prosesu ar frys. Fe fyddai’r mwyafrif yn cael eu halltu mewn casgenni mawr, tra byddai eraill yn cael eu mygu.

Roedd dynion a menywod Llangwm yn rhan annatod o’r pysgota. Yn ogystal â phenwaig, fe fyddai’r bobl leol yn dal eog a brithyll môr a physgod cregyn – yn enwedig wystrys.

Roedd Brian John, un o haneswyr Sir Benfro, yn dweud mai’r menywod oedd yn rheoli’r ffordd y gwerthwyd y pysgod a ddaliwyd a bod ‘y pentref cyfan wedi ei drefnu ar linellau matriarchaidd mewn cymdeithas dynn, gaeedig bron, gyda’i thafodiaith ei hun’.

Mae’r ddyfrffordd yn heddychlon heddiw, ond rhaid bod y ddyfrffordd wedi bod yn lle prysur iawn yn ystod y 19eg ganrif. Yn ogystal â’r cychod pysgota bach niferus, roedd cychod camlas yn llawn glo yn teithio ar hyd y dŵr i’w lwytho ar gychod mwy o faint yn y dˆwr dyfnach ym Mhwll Llangwm.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM990093

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi