Llandyfái

Teithiau Byr

Llandyfái, LÔN WESTHILL

PELLTER: 2.9 milltir (4.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Lamphey 349, Coastal Cruiser
CYMERIAD: Caeau ag anifeiliaid, lôn wledig, peth cerdded ar yr heol. 6 sticil, mwdlyd mewn mannau.

O Swyddfa Bost Llandyfái, trowch i’r dde arno i’r heol ac, ar ôl gadael y pentref, trowch i’r dde i mewn i’r lôn.

Dilynwch y lôn, sy’n troi i’r chwith yn siarp ar ôl pellter, yna i’r dde, ac wrth y cyffordd-T (T-junction) yn Nwyrain Freshwater trowch i’r dde arno i’r heol.

Ar ôl pasio Portclew House ar y dde, trowch i’r dde wrth y mynegbost dros y sticil. Dilynwch y trac at giât metel, croeswch y sticil drws nesaf i’r giât a dilynwch y trac i’r chwith.

Yn union cyn y giât nesaf, trowch i’r chwith arno i’r llwybr troed wrth y mynegbost. Dilynwch y llwybr trwy giât bren a pharhewch yn syth ymlaen nes cyrraedd sticil nad ydyw’n cael ei
defnyddio.

Anelwch am sticil a mynegbost yn y clawdd gyferbyn, croeswch y sticil a pharhewch ar draws y cae, gan anelu am glwstwr o goed o’ch blaen.

Ar y gwaelod, dilynwch y mynegbost tuag at y nant. Croeswch y sticil a dilynwch y llwybr rhwng y coed ar y chwith a’r banc ar y dde. Dilynwch y llwybr trwy’r coed, ac, wedi cyrraedd y man ble mae’r traciau fferm yn croesi, trowch i’r chwith a dilynwch y trac i lawr yr heol.

Trowch i’r dde arno i’r heol, wrth y cyffordd-T (T-junction), trowch i’r dde yn ôl i’r Swyddfa Bost.

Llandyfái, Gogledd

PELLTER: 2.9 milltir (4.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Lamphey 349, Coastal Cruiser
CYMERIAD: Cae ag anifeiliaid, cerdded ar heol fach. Dim sticlau. 2 giât

O’r Dial Inn, trowch i’r dde arno i’r heol ac, ychydig cyn y cyffordd-T (T-Junction), trowch i’r dde i mewn i’r lôn (arwydd ‘Lamphey Court Hotel’).

Yn union cyn y bont dros y nant, trowch i’r dde trwy giât metel a dilynwch y trac gan gadw i’r dde. Dilynwch y llwybr wrth ymyl y cae, gyda’r clawdd ar y chwith, heibio i’r ardd at giât metel.

Dilynwch y llwybr trwy’r giât, ar draws y dreif at yr heol. Trowch i’r dde arno i’r heol, yn ôl i’r Dial Inn.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SN017005

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi