Little Milford

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.9 milltir (3.0 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Freystrop 308/309, 359 (Dydd Sul), (780 m ar heol a llwybrau)
CYMERIAD: Coetiroedd a thraethlin, gall fod yn fwdlyd mewn mannau
CHWILIWCH AM: Rhydwyr ac adar gwyllt

Mae yna gyfoeth o rydwyr ac adar gwyllt ar y fflatiau llaid aberol hyn trwy gydol y flwyddyn.

Yn y fflatiau llaid yn Little Milford mae yna dir bwydo a bridio ffrwythlon ar gyfer amrywiaeth o adar gwyllt a rhydwyr. Maen nhw’n gyfoeth o fywyd di-asgwrn-cefn fel crancod, anifeiliaid
deufalf a mwydon ac, wrth gwrs, mae’r dŵr aberol yn cynnal amrywiaeth o bysgod a phlanhigion i’r adar eu bwyta.

Mae yna fulfrain, crëyr, piod y môr, yr alarch fud, hwyaid gwyllt, hwyaid yr eithin, penwaig, gwylanod cefnddu bach a mawr a gŵydd Canada. Mae adar tymhorol yn cynnwys yr wyach leiaf a’r wyach fawr gopog, chwiwellau, corhwyaid, hwyaid cynffonfain, hwyaid penddu, hwyaid llygaid aur, y cwtiad torchog a’r cwtiad llwyd, y cornicyll, y pibydd y mawn, y gïach, y rhostog, y gylfinir, y goesgoch a’r goeswerdd yn y gaeaf.

Mae pibydd y traeth a’r coegylfinir yn pasio trwyddo yn y gwanwyn, gyda’r gylfinir fach, y golomen grech a’r pibydd bach weithiau yn hwyr yn yr haf.

Chwiliwch hefyd am las y dorlan, y siglen lwyd a’r trochwr beth bynnag yw’r tymor.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM965115

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi