Little Haven

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.2 milltir (3.6 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Aberllydan 311, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Llwybr yr Arfordir – gall fod yn serth mewn mannau, lôn fach wledig dawel, caeau a da byw, 0.6 milltir (1.0 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Golygfeydd gwych o’r arfordir • pentref arfordirol prydferth Little Haven
MWY O WYBODAETH: Gofalwch rhag y traffig ar lwybr cul yr arfordir.

Mae Little Haven yn bentref bach tlws sydd ag ymdeimlad Cernyweg. Arferai fod yn gymuned fach bysgota, ond mae’r pentref bellach yn gyrchfan gwyliau poblogaidd.

Mae yna ymdeimlad mordwyol yma o hyd oherwydd mae llawer o hwylwyr hamdden yn cadw eu cychod yn Little Haven ac mae yna orsaf fad achub ynghudd ym maes parcio’r pentref.

Mae strydoedd Little Haven mor serth â rhediad sgïo ac mae yna draeth deniadol ar gefndir o raean bras. Os yw’r llanw allan, treuliwch ychydig yn archwilio’r ehangder o dywod tuag at
Aberllydan gerllaw a chwilio am grancod yn y pyllau glan môr niferus.

Ers y 1800au mae’r ardal wedi bod yn boblogaidd fel cyrchfan wyliau gyda pheiriannau ymdrochi yn weithredol ar draeth llydan Aberllydan. Ond mae gan y darn hir o arfordir rhwng Little Haven yn y de a Niwgwl yn y gogledd orffennol diwydiannol hefyd.

Mewn termau daearegol, mae’r darn mawr hwn allan o Arfordir Penfro yn Haenau Glo, sef creigiau a ffurfiwyd rhyw 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd.

Fe fuon nhw’n cloddio am lo ar raddfa gweddol fach ar hyd yr arfordir ers y 15fed ganrif a thorrwyd glo caled ger Little Haven ac yn Broad Haven, Nolton Haven a Rickets Head hefyd.

Yna, allforiwyd y glo a gynhyrchwyd yn lleol ar gychod yr arfordir, a lwythwyd yn syth o’r traeth. Fe all Little Haven fod yn brysur iawn yn yr Haf ond tu allan i’r pentref mae yn daith dawel ar hyd y llwybrau a’r lonydd.

Yn ystod y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf, mae ymylon lonydd gorllewin Sir Benfro yn gyfoeth i’r llygaid gydag amrywiaeth sylweddol o flodau gwyllt, gan gynnwys y campion coch,  orthyfail a bysedd y cŵn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM856127

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau